1. Pwy yw eich hoff gymeriad cartŵn Cymraeg?
Superted wrth gwrs. Y rhaglen cynta weles i pan ddechreuodd S4C (yn nhy Nain a Tadcu gan fod dim teledu gyda ni).
2. Beth ydych chi wedi cael llond bol ohono yr wythnos hon?
Ar ol y shambls 'na yn Twickenham, rygbi, ac mewn ychydig oriau Stella.
3. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gêm o gardiau?
Nos Fercher, mewn Chateau ychydig filltiroedd tu fas i Etretat.
4. Ble oedd eich allweddi/ goriadau y tro diwethaf i chi eu colli?
Soi'n gwbod, nes i golli nhw.
5. Beth na fyddwch yn gwneud dros y penwythnos, y dylech ei wneud?
Mynd i'r Steddfod.