1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf? Dosbarth Lefel A yn cael 11A, 6B a 4C. Gwych.
2. Beth oedd yr isafbwynt? Dosbarth Lefel A yn cael 2D 2E ac 1U, ddim cystal.
3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw? FFili cofio mor bell nol a 'ny 'chan. Mas i'r dafarn sbo.
4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol? (neu eich hoff beth am fod yn yr ysgol os y'ch chi dal 'na) Ffrindie, fi wedi colli cysylltiad gyda bron pawb o'n i'n nabod yn ysgol.
5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau? Yn beth wy'n neud nawr!