Pump am y Penwythnos, 17.8.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos, 17.8.2007

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 17 Awst 2007 1:18 pm

Ymddiheuriadau am wythnos dwetha - roedd Dwlwen yn y Steddfod a finne mewn priodas. A nawr ma Dwlwen yng Ngwyl y Dyn Gwyrdd. Felly, yn fras, mae hi'n crap a fi yw'ch unig ffrind...

1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf?

2. Beth oedd yr isafbwynt?

3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw?

4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol? (neu eich hoff beth am fod yn yr ysgol os y'ch chi dal 'na)

5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 17.8.2007

Postiogan Jeni Wine » Gwe 17 Awst 2007 2:08 pm

1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf?
Mr Huw yn gig Gymdeithas nos Iau. Siwpoib.

2. Beth oedd yr isafbwynt?
Crynu fatha ffwl a methu nos Wenar yn gyfangwbwl am mod i di gorneud hi nos Iau. Pwff.

3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw?
Sgen i ddim co. Shit, ma rhaid mod i'n mynd yn hen. Ond mi esh ar wylia coman efo'r genod i Salou yn ne Sbaen ar ol gorffan rysgol.

4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol? (neu eich hoff beth am fod yn yr ysgol os y'ch chi dal 'na)
Chwara cops and robbers yn ystod gwersi rhydd pan o'n i'n 6.2. Oooo y fath hwyl.

5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau?
Tasa gen i bres, swn i'n mynd i deithio i Tseina, Fietnam fforna a gweld mwy o'r byd.
Ond taswn i'n sgint, swn i'n hurio bwthyn mewn man anghysbell a sgwennu a pheintio drwy'r dydd.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos, 17.8.2007

Postiogan Macsen » Gwe 17 Awst 2007 2:22 pm

1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf?
Try Chabal penwythnos dwytha. Revenge by proxy! Hmmm dwi'n sad.

2. Beth oedd yr isafbwynt?
Peidio medru mynd i'r Eisteddfod tan oedd y cwbwl ar ben.

3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw?
Dwi'm yn cofio, so mae'n siwr ges i hwyl. AAC mewn Cyfraith, Seasneg a Hanes o'dd hi.

4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol? (neu eich hoff beth am fod yn yr ysgol os y'ch chi dal 'na)
Cael byta chips bob amser cinio heb deimlo'n euog.

5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau?
Cael uffar o lie-in. Gwylio pob gem o Cwpan y Byd (ond fyddai'n gwneud hynny beth bynnag).
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Pump am y Penwythnos, 17.8.2007

Postiogan dave drych » Gwe 17 Awst 2007 2:26 pm

1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf?
Mynediad am ddim i gig Maes-B nos wener, felly safio £12. Cerdded syth heibio'r 3 boi oedd i fod yn checio bandiau/ticedi. 8)

2. Beth oedd yr isafbwynt?
Bod yn Maes-B. Worra shitole.

3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw?
Gwennu. Wedyn mynd lawr i'r pyb efo criw mawr o ffrindiau cyn mynd mlaen i'r bright lights yr Rhyl.

4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol? (neu eich hoff beth am fod yn yr ysgol os y'ch chi dal 'na)
Naps ar y bys ar y ffordd adre.

5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau?
Mynd rownd Sbaen yn gwylio gemau pel-droed. Ella na'i hyn go iawn mis nesa.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Positif80 » Gwe 17 Awst 2007 2:34 pm

1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf?

Gweld y chwedlonnol Orig "El Bandito" Williams yn y croen nos fercher yn y reslo. 'Doedd yr hen foi ddim yn edrych yn rhy iach 'chwaith, ac o'n i'n tempted i bimp-slapio ryw hogyn bach 10 oed wnath chwerthin arno tu ol 'iw gefn wrth iddo gerdded heibio. Wnes i ddim, 'chwaith.

2. Beth oedd yr isafbwynt?

Cael "rejection letters" wrth geisio am swyddi.

3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw?

Ddim byd mawr - ges i B, C ac E, felly 'doeddwn i ddim yn y mwd i ddathlu.

4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol? (neu eich hoff beth am fod yn yr ysgol os y'ch chi dal 'na)

Ddim cyfrifoldebau - rhywun yn trefnu'ch diwrnod drostoch chi.

5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau?

Mynd i America a Mexico.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Pump am y Penwythnos, 17.8.2007

Postiogan Jaff-Bach » Gwe 17 Awst 2007 2:50 pm

1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf?
diwrnodia braf yn cymdeithasun maesB yn ffeindio pa mor fach di'r byd- 'Omaigod, tin nabod ****? ond ma hin byw drws nesa i cariad ffrind gora fi' ayyb, a cyfarfod hogyn reit cwl yn y gigs

2. Beth oedd yr isafbwynt?
Sylwi gymaint fyddain methu hyn i gyd ar teimlad o gymreictod pan ai i brifysgol yn mis medi :(

3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw?
3A (swot) neud ffondw chocolate yn y pnawn efon ffrindia. allan yn nos- cofio dim. dodjio phonecalls gan reporters odd isho interviews am glyn a final big brother a oedd noson wedyn :?

4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol? (neu eich hoff beth am fod yn yr ysgol os y'ch chi dal 'na)
stafall gyffredin y 6ed dosbarth, a water fights gwyllt yn yr haf!

5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau?
Sa genair pres, swni yn yr alps ar fy mhen yn sgio a boardio bob dydd
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds

Re: Pump am y Penwythnos, 17.8.2007

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 17 Awst 2007 2:55 pm

1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf?
Clywed mod i lawr i'r 3 olaf i wneud rhywbeth hynod o gyffrous!

2. Beth oedd yr isafbwynt?
Ffeindio allan ddoe fod y cyfweliad oedd fod heddiw wedi'i ohirio am bythefnos arall...gwae (a wel, rhagor o amser i feddwl am be dwi am ddeud)

3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw?
Mynd lawr i'r Wine Bar yn Nolgellau efo criw Coleg MD o Flaena, Bermo, Tywyn, Harlach ac amball un o Bala

4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol? (neu eich hoff beth am fod yn yr ysgol os y'ch chi dal 'na)
Y gêm Gnapanaidd Rucks a'r teimlad pan yn tua 15 o ddechrau cael y rhyddid i wneud be o'n i isio, a joio profiadau newydd efo pobol newydd. Hynny, a ista'n parc yn smocio, poeri a rwdlan am genod.

5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau?
Gneud ffilm, ella....ond diogi, bwzio, darllen, seiclo a cherdded ma'n debyg.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Llewelyn Richards » Gwe 17 Awst 2007 3:02 pm

1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf?

Mynd i briodas hen ffrind o'r coleg a chyfarfod hen ffrindiau.

2. Beth oedd yr isafbwynt?

Dim yn arbennig.

3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw?

Mynd i ngwely am nap achos doeddwn i heb gysgu winc noson cynt. Dwi ddim yn cofio i mi gymryd rhan mewn unrhyw ddathliadau mawr wedyn. A naddo, wnesh i ddim methu nhw!

4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol? (neu eich hoff beth am fod yn yr ysgol os y'ch chi dal 'na)

Dim llawer - wnes i ddim mwynhau fy amser yn yr ysgol uwchradd gymaint ag y dyliwn i.

5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau?

Mae gen i chwech wythnos a dwi'n ei wneud o, sef diogi creadigol.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 17.8.2007

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 17 Awst 2007 3:23 pm

1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf?

Wel roedd wythnos y Steddofd i gyd yn bleser o weld y gigs yn 'dod off' ar ol gymaint o waith gan bawb. Ond os un uchafbwynt uwchlaw pob un arall, Fflur Dafydd nos Wener.

2. Beth oedd yr isafbwynt?

Yr un ffeit a fu, tua hanner awr ar ol i Fflur orffen. Hogia Buckley - nid josgins mohonyn nhw.

3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw?

Mynd i sioe DInbych a Fflint wedyn meddwi yn Venue Ruthin gyda'r nos ma'n siwr.

4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol? (neu eich hoff beth am fod yn yr ysgol os y'ch chi dal 'na)

Dim lot, ma plant yn wankars a ma teenagers yn waeth.

5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau?

Myndf ar y tren o yma i Istanbul, yn ara deg bach a'r ffordd hir rownd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Cacamwri » Gwe 17 Awst 2007 3:27 pm

1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf?
Mari'n cael ei dant cynta.

2. Beth oedd yr isafbwynt?
Mari'n cael ei dant cynta - grympi yn y dydd, llefen llefen llefen. Ych, gwneud i mi deimlo'n drist.

3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw?
AAA - Cymrag, Hanes, Drama. Wnes i ddim dathlu yn anffodus, ro'n i'n sal.

4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol? (neu eich hoff beth am fod yn yr ysgol os y'ch chi dal 'na)
Bygyr ol o Dyffryn Teifi (cytuno Jon Bon Jela?!?).
Ar ran Bro Myrddin, cael laff da Doc adeg gwersi Cymraeg, sgeifo Ffrangeg yn y caban Drama gyda Owain Llyr, pen-ol yr athro chwaraeon (yr un ifanc, nid Hefin Elias!)

5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau?
Mynd i aros mewn bwthyn yng nghanol nunlle, gorffen sgwennu fy llyfr, diogia.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai