Pump am y Penwythnos, 17.8.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 17.8.2007

Postiogan ceribethlem » Gwe 17 Awst 2007 5:18 pm

1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf? Dosbarth Lefel A yn cael 11A, 6B a 4C. Gwych.

2. Beth oedd yr isafbwynt? Dosbarth Lefel A yn cael 2D 2E ac 1U, ddim cystal.

3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw? FFili cofio mor bell nol a 'ny 'chan. Mas i'r dafarn sbo.

4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol? (neu eich hoff beth am fod yn yr ysgol os y'ch chi dal 'na) Ffrindie, fi wedi colli cysylltiad gyda bron pawb o'n i'n nabod yn ysgol.

5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau? Yn beth wy'n neud nawr!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos, 17.8.2007

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 17 Awst 2007 5:49 pm

1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf?
Noson wirion allan yn Gaerdydd efo fy ffrindiau

2. Beth oedd yr isafbwynt?
Gweld coch yn y gwaith

3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw?
Mynd allan i Fangor a meddwi a cael ffrae gan yr Heddlu am ganu

4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol? (neu eich hoff beth am fod yn yr ysgol os y'ch chi dal 'na)
Y diffyg cyfrifoldeb

5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau?
Meddwi - a ffyc ol arall.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Rhodri » Sad 18 Awst 2007 12:29 pm

1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf?
Dyddiau a nosweithiau gwirion Eisteddfodol, yn yr haul tambaid yn piclo'n braf megis nionyn.

2. Beth oedd yr isafbwynt?
Colli rhif ffon hogan nos iau steddfod. Ffwcin Gytud.

3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw?
Roedd hi'n benblwydd arnai, athon ni gyd i Rhuthun, on i'n rhy sal i symud erbyn cyraedd.

4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol?
Yfad Jack Daniels ochor arall i bont Llanrwst pan y dylen ni fod yn adolygu at Lefel A.


5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau?
Mae gin i dair ym mis Hydref, a dwi am fynd am dro rownd Cymru, Iwerddon, Yr Alban, Lloegr, Prague, Amsterdam a Llanrwst. 'Sa chwech yn fy lladd i!
shifft y westral!
Rhodri
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 285
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 2:07 pm
Lleoliad: Put-Jelly

Re: Pump am y Penwythnos, 17.8.2007

Postiogan Sili » Sad 18 Awst 2007 2:15 pm

1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf?
Mynd i'r Alban efo nghariad.

2. Beth oedd yr isafbwynt?
Croesi ffin yr Alban ar y ffordd i'r Steddfod a gweld yr arwydd 'Welcome to England' :crio:

3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw?
Allan am noson i Gaernarfon i yfad fy hun yn wirion. Twt lol.

4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol? (neu eich hoff beth am fod yn yr ysgol os y'ch chi dal 'na)
Danish pastries y becws ym Mhenygroes bob amser cinio.

5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau?[/quote]
Mynd i'r Alban a canfod fy hun yn sgint yng Nghaeredin mwn.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos, 17.8.2007

Postiogan Selador » Sul 19 Awst 2007 5:57 pm

1. Beth oedd uchafbwynt y pythefnos diwethaf?
Torri mewn i dafarn a gwerthu alcohol i riw saeson a wedyn mynd efo un ohony nw odd yn 31. Hehehe. A cal results immense yn lefel A. A curo Sioni Size mewn ffeit ar ol i'r twat gyhuddo fi o dorri mewn i'w dafarn pocsi o. A cael sgwrs efo Sion Porn. A mynd am dro i ben mynydd Rhiw yn y gwynt mawr oer efo ci o'r enw eira. A cael fy mhenblwydd yn 21.

2. Beth oedd yr isafbwynt?
Torri fyny efo nghariad.

3. Beth wnaethoch chi i ddathlu eich Lefel A pan gawsoch chi nhw?
Tro cynta oddon ddisaster am resymau nai ddim mynd mewn iddynt. Troma eshi i Abersoch a meddwi megis bechdan a darganfod fy hyn yn ty fy ffrind efo riw nytar mewn siaced ledar ddu hir.

4. Beth yw'r prif beth ry'ch chi'n gweld ei ishe o'ch amser yn yr ysgol? (neu eich hoff beth am fod yn yr ysgol os y'ch chi dal 'na)
reslo efo'n ffrindia yn y mwd.

5. Beth fyddech chi'n ei wneud gyda chwe wythnos o wyliau?[/quote]
Mi faswn i'n mynd ar berwyl main rownd Lloegr amwni.
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron