Pump am y Penwythnos 31/8/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos 31/8/07

Postiogan ceribethlem » Gwe 31 Awst 2007 1:12 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dynnu ‘all-nighter’?
Cwpwl o flynyddodd nol, pan o'n i'n dal i weithio lan yn Mach.

2. Pan fyddwch chi wedi blino, sut y’ch chi’n cadw’n effro?
Canolbwyntio mwy na dim, sbo.

3. Pan mae’n hwyr a chithau dal yn effro, beth y’ch chi’n debygol o fod wrthi?
Gwylio crap ar y teledydd.

4. Ymhle fyddwch chi’n dihuno fory?
Yn fy ngwely clud.

5. Pe bai ‘na ddewis, ymhle hoffech hi ddihuno fory?
Yn y Gymru Rhydd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos 31/8/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 31 Awst 2007 1:49 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dynnu ‘all-nighter’?
Sbel yn ol... y noson cyn hedfan nôl o Bari yn ne'r Eidal, mis Hydref diwetha' siwr o fod. Benderfynnes i gampo mas yn y maes awyr yn hytrach na thalu am westy (heb sylweddoli fod maes awyr Bari gyda'r lleia' yn yr Eidal, a ddim yn derbyn campers fel arfer.) Gloion nhw fi mewn gyda'r seciwriti, odd yn cripad rown y lle'n ymchwilio rhyw fag o gig amddifad... O'n i'n paranoid llwyr. Nes i'm sylweddoli 'mod i'n hollol ddiogel tan 6am, pan ymddangosodd ciw o bobl, odd wedi bod tu fas i'r drysau clo, yn barod i ddal yr awyren nol i Lundain.

2. Pan fyddwch chi wedi blino, sut y’ch chi’n cadw’n effro?
Me'n dibynnu ar yr achlysur. Bwyd, coffi, neu vodka.

3. Pan mae’n hwyr a chithau dal yn effro, beth y’ch chi’n debygol o fod wrthi?
Watcho crap ar y teledu/ embarrasso'n hun.

4. Ymhle fyddwch chi’n dihuno fory?
Caerdydd. Yn eironig o gynnar am fore Sadwrn mae'n siwr.

5. Pe bai ‘na ddewis, ymhle hoffech hi ddihuno fory?
Caerdydd. Yn eironig o gynnar am fore Sadwrn. Gyda fy ngharad yn conan wrth 'y'n ochr.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos 31/8/07

Postiogan Wierdo » Sul 02 Medi 2007 4:27 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dynnu ‘all-nighter’?
Ym, dwi ddim yn dda iawn yn tynnu ol neitars achos unwaith dwi di penderfynnu modi am gysgu dwi fflipin wel am gysgu. Ond y gosa ydi yn Sdeddfod leni. Isda mewn cylch yn yfad quantro. FI odd yr ola nol i'n nhent bethbynnag felly dwi am ei gyfri fel ol neitar.

2. Pan fyddwch chi wedi blino, sut y’ch chi’n cadw’n effro?
Te a bananas.

3. Pan mae’n hwyr a chithau dal yn effro, beth y’ch chi’n debygol o fod wrthi?
We neu teledu. Ne falla alcahol...

4. Ymhle fyddwch chi’n dihuno fory?
Gwelyng nghariad

5. Pe bai ‘na ddewis, ymhle hoffech hi ddihuno fory?
Gwely'ng nghariad ond un mwy. Dim singl bed diolch.
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai