gan Dwlwen » Gwe 31 Awst 2007 1:49 pm
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dynnu ‘all-nighter’?
Sbel yn ol... y noson cyn hedfan nôl o Bari yn ne'r Eidal, mis Hydref diwetha' siwr o fod. Benderfynnes i gampo mas yn y maes awyr yn hytrach na thalu am westy (heb sylweddoli fod maes awyr Bari gyda'r lleia' yn yr Eidal, a ddim yn derbyn campers fel arfer.) Gloion nhw fi mewn gyda'r seciwriti, odd yn cripad rown y lle'n ymchwilio rhyw fag o gig amddifad... O'n i'n paranoid llwyr. Nes i'm sylweddoli 'mod i'n hollol ddiogel tan 6am, pan ymddangosodd ciw o bobl, odd wedi bod tu fas i'r drysau clo, yn barod i ddal yr awyren nol i Lundain.
2. Pan fyddwch chi wedi blino, sut y’ch chi’n cadw’n effro?
Me'n dibynnu ar yr achlysur. Bwyd, coffi, neu vodka.
3. Pan mae’n hwyr a chithau dal yn effro, beth y’ch chi’n debygol o fod wrthi?
Watcho crap ar y teledu/ embarrasso'n hun.
4. Ymhle fyddwch chi’n dihuno fory?
Caerdydd. Yn eironig o gynnar am fore Sadwrn mae'n siwr.
5. Pe bai ‘na ddewis, ymhle hoffech hi ddihuno fory?
Caerdydd. Yn eironig o gynnar am fore Sadwrn. Gyda fy ngharad yn conan wrth 'y'n ochr.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song
pictiwrs