Pump am y penwythnos - 7/9/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y penwythnos - 7/9/07

Postiogan ceribethlem » Gwe 07 Medi 2007 1:29 pm

1. Hen faeswyr: be’ oeddech chi’n ‘wneud wedi i’r gloch ola’ ganu yn yr ysgol ‘slawer dydd?
Hongian ambwyti tu fas i'r ysgol yn aros am lifft adre gan amla. Os odd Mami'n rhoi lifft i ni o'n i'n gadel mewn pryd, os mae'r teulu arall odd e, gallen i fod yn aros am dros hanner awr weithie.

2. Ysgol neu beidio, sut ‘ych chi’n ymlacio ar ôl diwrnod hir o waith?
Two and a hlaf Men ar y teledu, cwarter awr ar y peiriant rhwyfo, wedyn dechre paratoi swper. Yn anffodus gan fod tymor wedi dechre, bydd gwaith cartre'n cymryd slabyn o amser.

3. Gyda gwyliau’r haf wedi dod i ben bellach, beth fydd yn cadw chi i fynd tan 'Dolig?
Mynd ar stag night i Berlin adeg hanner tymor.

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi adael i rywun ymuno o’ch blaen chi mewn rhes?
Amser cino heddi.

5. Ydych chi’n credu mewn karma?
Mewn ffordd, ond dim fel rhyw fath o rym.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Cacamwri » Gwe 07 Medi 2007 1:30 pm

1. Hen faeswyr: be’ oeddech chi’n ‘wneud wedi i’r gloch ola’ ganu yn yr ysgol ‘slawer dydd?
Rhedeg am y car pan oedden i'n yr ysgol gynradd, yna adre i wylio CBBC, a Fun House ar ITV.
Neu chwarae mas gyda fy ffrindie.
Ysgol Uwchradd - run fath rili, oni bai oedd llwyth o waith cartre gen i.

2. Ysgol neu beidio, sut ‘ych chi’n ymlacio ar ôl diwrnod hir o waith?
Ymlacio? Beth yw hwnnw? Adre, paned, treulio amser gyda Mari cyn iddi fynd i gysgu rhwng 7 ac 8. Yna swper i fi a Fo, sgwennu cwpwl o bennodau'r nofel, gwneud yr erthyglau sydd gen i ar y gweill, yna lan i'r gwely. Cwtsh, yna chwyrnu.

3. Gyda gwyliau’r haf wedi dod i ben bellach, beth fydd yn cadw chi i fynd tan 'Dolig?
Gwyrthie fy merch fach, gwen fy merch fach, stumie fy merch fach.

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi adael i rywun ymuno o’ch blaen chi mewn rhes?
Ddoe yn Sommerfield. Roedd gen i llond basged, a dim ond llaeth oedd gen y ddynes tu ol i mi. Ond oedd hi'n lwcus, achos fel arfer dwi byth yn gadael i rhywun neidio'r ciw.

5. Ydych chi’n credu mewn karma?
Weithiau.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: Pump am y penwythnos - 7/9/07

Postiogan joni » Gwe 07 Medi 2007 1:40 pm

1. Hen faeswyr: be’ oeddech chi’n ‘wneud wedi i’r gloch ola’ ganu yn yr ysgol ‘slawer dydd?
Faeswyr ifanc: beth ‘ych chi’n gwneud ar ddiwedd diwrnod ysgol?

mynd i ty mamgu a dadcu am de - o'dd fel arfer yn consistio o lods o gacenne. ffantastic.
2. Ysgol neu beidio, sut ‘ych chi’n ymlacio ar ôl diwrnod hir o waith?
gorwedd o flaen y teli ma'n ddrwg da fi weud.
3. Gyda gwyliau’r haf wedi dod i ben bellach, beth fydd yn cadw chi i fynd tan 'Dolig?
y tymor pel-droed a cwpan rygbi'r byd.
4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi adael i rywun ymuno o’ch blaen chi mewn rhes?
amser cino - o'n i yn y car ar y ffordd i dre.
5. Ydych chi’n credu mewn karma?
os yw e digon da i Earl, ma fe digon da i fi.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 07 Medi 2007 2:28 pm

1. Hen faeswyr: be’ oeddech chi’n ‘wneud wedi i’r gloch ola’ ganu yn yr ysgol ‘slawer dydd?
Faeswyr ifanc: beth ‘ych chi’n gwneud ar ddiwedd diwrnod ysgol?

Ysgol Gynradd: Cerdded rownd y ty yn gafael yn dynn mewn cyllell finiog i ddychryn lladron. Tony Martin, eat your heart out!

Ysgol Uwchradd: Chwarae Mad Prof a Twin World ar yr A3000 - o'n i'n dda iawn, ac wedi ymgyfarwyddo gymaint efo'r gemau fel mod i'n gallu mynd o'r dechrau i'r diwedd efo'n llygaid ar gau, a hynny heb golli yr un bywyd. Geek wyf!

2. Ysgol neu beidio, sut ‘ych chi’n ymlacio ar ôl diwrnod hir o waith?
Dydi'r teledu heb fod yn gweithio ers sbel, felly naill ai gwylio DVDs (Snakes on a Plane oedd hi echnos... teip yna o beth - dim byd rhy drwm!), neu siarad ar y ffôn / darllen.

3. Gyda gwyliau’r haf wedi dod i ben bellach, beth fydd yn cadw chi i fynd tan 'Dolig?
Dwi'n licio'r hydref. Mae 'na ryw gynnwrf anesboniadwy yn yr awel. Does dim byd arbennig ar y gweill gen i chwaith. Cyrraedd fy seithfed blwyddyn ar hugain ym mis Tachwedd, ond rhaid i hynny ddigwydd rhywbryd ma siwr...

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi adael i rywun ymuno o’ch blaen chi mewn rhes?
Dwi'n ei neud o reit aml ar y tiwb (hyd yn oed yn gadael i bobl gymryd sedd o mlaen i weithia). Ond, dro arall dwi'n hunllefus ac yn gwthio pobl efo ymbarel ac yn gweiddi "shww" ar bawb.

5. Ydych chi’n credu mewn karma?
Sa well gen i beidio
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Re: Pump am y penwythnos - 7/9/07

Postiogan Manon » Gwe 07 Medi 2007 2:35 pm

1. Hen faeswyr: be’ oeddech chi’n ‘wneud wedi i’r gloch ola’ ganu yn yr ysgol ‘slawer dydd?
Faeswyr ifanc: beth ‘ych chi’n gwneud ar ddiwedd diwrnod ysgol?

Ar ol ysgol uwchradd, smocio yn y bys ar y ffor adra i drio bod yn cwl a wedyn ffonio'r pobol o'n i newydd ffarwelio a nhw i son am yr acsaitment o smocio ar y bws...

2. Ysgol neu beidio, sut ‘ych chi’n ymlacio ar ôl diwrnod hir o waith?
Ar ol i'r bych fynd i gysgu: Teledu crap a glas mawr o win, mynd i weithio ar y cyfrifiadur ond yn treulio'r holl amser ar Facebook yn lle... :rolio:

3. Gyda gwyliau’r haf wedi dod i ben bellach, beth fydd yn cadw chi i fynd tan 'Dolig?
Croesi bysedd, symud i ardal hollol newydd, gwneud ffrindiau hollol newydd, a chyhoeddi llyfr. Cyffrous!

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi adael i rywun ymuno o’ch blaen chi mewn rhes?
Ar y lon ym Methesda heddiw, er mor flin o'n i ar ol canfod bod siop lyfra' newydd Pesda wedi cau ETO!!!! :drwg:

5. Ydych chi’n credu mewn karma?
Does 'na ddim amheuaeth gen i o gwbl bod karma'n bod.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y penwythnos - 7/9/07

Postiogan tafod_bach » Gwe 07 Medi 2007 3:00 pm

1. Hen faeswyr: be’ oeddech chi’n ‘wneud wedi i’r gloch ola’ ganu yn yr ysgol ‘slawer dydd?
Faeswyr ifanc: beth ‘ych chi’n gwneud ar ddiwedd diwrnod ysgol?

ar ddydd gwener o'dd chwaraeon 'da ni ar ddiwedd y dydd, so rhoi polo shirt chwyslyd nol mlan, rhedeg at y bws a yfed slush puppy glas yn eithriadol o glou yr un pryd. *brainfreeze*

2. Ysgol neu beidio, sut ‘ych chi’n ymlacio ar ôl diwrnod hir o waith?
ym, hollyoaks? es i ar daith gerdded neithiwr - ar y fflat, yn yr haul - efallai byddai'n iachach gwneud hynny. having said that, ma michelle newydd farw ar hollyoaks a fi'n eitha mwynhau'r emotional fallout sy'n dod yn ei sgil.

3. Gyda gwyliau’r haf wedi dod i ben bellach, beth fydd yn cadw chi i fynd tan 'Dolig?
*despair* y ffaith na ches i wyliau haf - gaf fi frec mis hydref falle.

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi adael i rywun ymuno o’ch blaen chi mewn rhes?
mewn ciw traffig, bore ma. 2cv van ddrewllyd ar y naw.

5. Ydych chi’n credu mewn karma?
yn yr ystyr hindwaidd, ydw. ond un dropyn bach yw carma: hynny yw, cysyniad o weithred sydd â gwerth moesol iddo. mae 'na werth cymdeithasol ac ysbrydol iddyn nhw hefyd - mae'r system yn un wirioneddol gymleth a thlws! iei hindws!

Delwedd
er ma rhwbeth chydig bach yn dodji am hwn...
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Pump am y penwythnos - 7/9/07

Postiogan ceribethlem » Gwe 07 Medi 2007 3:36 pm

tafod_bach a ddywedodd: 5. Ydych chi’n credu mewn karma?
yn yr ystyr hindwaidd, ydw. ond un dropyn bach yw carma: hynny yw, cysyniad o weithred sydd â gwerth moesol iddo. mae 'na werth cymdeithasol ac ysbrydol iddyn nhw hefyd - mae'r system yn un wirioneddol gymleth a thlws! iei hindws!

Delwedd
er ma rhwbeth chydig bach yn dodji am hwn...

Os yw'r Karma Sutra'n cael cyfri, wedyn fi'n credu yno fe 'fyd! :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Positif80 » Gwe 07 Medi 2007 4:13 pm

5. Ydych chi’n credu mewn karma?

Nacdw - a dwi'm yn coelio menw duw, ffwng shway, cosmic ordering, ESP, ysbrydion nac unrhyw beth ofergoelus felly. Mae cael OCD yn ddigon drwg heb orfod poeni am wylltio duw, y bydysawd, Casper neu Colin Fry.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Pump am y penwythnos - 7/9/07

Postiogan Sili » Gwe 07 Medi 2007 5:13 pm

1. Hen faeswyr: be’ oeddech chi’n ‘wneud wedi i’r gloch ola’ ganu yn yr ysgol ‘slawer dydd?
Rhedag i'r maes parcio am lifft adra gan mam, wedyn ista lawr efo panad a bisgedi siocled wrth wylio'r teledu.

2. Ysgol neu beidio, sut ‘ych chi’n ymlacio ar ôl diwrnod hir o waith?
Dwi newydd gyrradd adra o'r hospitol wedi dwrnod calad (poeth) ac wedi gorwadd ar fy ngwely am sbelan efo cobennydd dros fy mhen. Panad fydd hi fel arfer.

3. Gyda gwyliau’r haf wedi dod i ben bellach, beth fydd yn cadw chi i fynd tan 'Dolig?
Symud mewn yn iawn i'r ty newydd mashwr, a chael stafell sbar gyfan i mi fy hun i fedru chwarae'r delyn a neud chydig o beintio :D

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi adael i rywun ymuno o’ch blaen chi mewn rhes?
Bora ma, pan adawis i un o'm ffrindia fynd o mlaen i ar y grisia i'r stafelloedd darlith yn ysbyty'r Heath.

5. Ydych chi’n credu mewn karma?
Dim cweit karma, ond dwi yn credu na "cheidwar y diafol byth mo'i was", ys dywed myddar pan oni'n cambihafio'n blentyn :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y penwythnos - 7/9/07

Postiogan nicdafis » Sad 08 Medi 2007 9:05 am

1. Hen faeswyr: be’ oeddech chi’n ‘wneud wedi i’r gloch ola’ ganu yn yr ysgol ‘slawer dydd?

Pan o'n i yn yr ysgol fach, mynd i dŷ fy nain, gwylio teledu plant, darllen trwy llyfrgell y Waun, bwyta caws macaroni ar dost.

2. Ysgol neu beidio, sut ‘ych chi’n ymlacio ar ôl diwrnod hir o waith?

Wisgi a poker arlein.

3. Gyda gwyliau’r haf wedi dod i ben bellach, beth fydd yn cadw chi i fynd tan 'Dolig?

Dyn nhw ddim wedi bennu fan hyn ychan. Ddim yn dechrau dysgu tan 1 Hydref.

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi adael i rywun ymuno o’ch blaen chi mewn rhes?

Pie Minister, Gwyl y Dyn Gwyrdd. Oedd hi'n edrych yn despret, wir i chi.

5. Ydych chi’n credu mewn karma?

Ddim mewn ffordd Obi Wan Kenobi, ond dw i'n meddwl fod e'n syniad da i drin pobl yn y ffordd hoffet ti gael dy drin, ac yn y blaen.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron