1. Hen faeswyr: be’ oeddech chi’n ‘wneud wedi i’r gloch ola’ ganu yn yr ysgol ‘slawer dydd?
Ysgol Gynradd - cerdded adra dan blagio'r Twyllwr Rhinweddol. Fi, fel y chwaer fawr, oedd i fod i warchod ar ôl i ni gyrraedd ond bwydo paranoia fyddwn i go iawn, wrth smalio 'mod i'n swynhwyro presenoldeb lladron yn y ty ayyb.
Ysgol Uwchradd - dal y bys am siwrna annifyr tua deugian munud nôl i Riwlas, a sdêm ar y ffenesdri i gyd. Gwneud y gyfryw siwrna'n well drwy gynllunio 'Adfentshiar' (nid antur) efo Jemeima Mop. Hynny ar ôl treulio'r deg munud / chwartar awr cynta yn wylofain ar ôl ffraeo efo 'nghariad. Yn ddyddiol.
2. Ysgol neu beidio, sut ‘ych chi’n ymlacio ar ôl diwrnod hir o waith?
Prynu bwyd i de. Wedyn newid yn syth ar ôl dwad i'r ty neu mi fydda i'n flin drwy gyda'r nos. Wedyn gneud y te, ei fwyta fo a golchi llestri. Wedi hynny, dwn im rili. Gwatshad Big Bryddyr tan yn ddiweddar; ers hynny, dwi di bod ar goll braidd.
3. Gyda gwyliau’r haf wedi dod i ben bellach, beth fydd yn cadw chi i fynd tan 'Dolig?
Peidio â meddwl ymlaen fwy nag wythnos ar y tro. Hynny a pharatoi darlith ac erthygl dwi wedi bod yn trio anghofio amdanyn nhw tan rwan. A thrio mynd i'r Llyfrgell Gen mor amal ag y galla i ar Sadyrna i orffen copïo llythyra Carneddog - rwbath dwi di bod yn gaddo ei neud ers blwyddyn. (Dwi'n deud hyn rwan fel eich bod chi'n sylwi ar fy ymroddiad i ac yn prynu'r llyfr yn 2008/9!
) Fel arall, dwy neu dair priodas a nosweithiau ieir.
4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi adael i rywun ymuno o’ch blaen chi mewn rhes?
Byth!
Mae rôd-rêj yn dwad yn naturiol i mi - fiw i neb drio cytio i mewn o mlaen i.
5. Ydych chi’n credu mewn karma?
Dwi'n poeni mwy fod fy nghyfrinacha i'n mynd i gael eu cyhoeddi 'ddar benna tai, a bod yn onasd...