1. Hen faeswyr: be’ oeddech chi’n ‘wneud wedi i’r gloch ola’ ganu yn yr ysgol ‘slawer dydd?
Hongian ambwyti tu fas i'r ysgol yn aros am lifft adre gan amla. Os odd Mami'n rhoi lifft i ni o'n i'n gadel mewn pryd, os mae'r teulu arall odd e, gallen i fod yn aros am dros hanner awr weithie.
2. Ysgol neu beidio, sut ‘ych chi’n ymlacio ar ôl diwrnod hir o waith?
Two and a hlaf Men ar y teledu, cwarter awr ar y peiriant rhwyfo, wedyn dechre paratoi swper. Yn anffodus gan fod tymor wedi dechre, bydd gwaith cartre'n cymryd slabyn o amser.
3. Gyda gwyliau’r haf wedi dod i ben bellach, beth fydd yn cadw chi i fynd tan 'Dolig?
Mynd ar stag night i Berlin adeg hanner tymor.
4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi adael i rywun ymuno o’ch blaen chi mewn rhes?
Amser cino heddi.
5. Ydych chi’n credu mewn karma?
Mewn ffordd, ond dim fel rhyw fath o rym.