1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
Pres i Mr Whine ddydd Mercher.
2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
Mae fy chwaer a fy mam yn dwyn fy sanna a'm nics o hyd. Ond dwinna'n gwneud yr un fath iddyn nhw. Mae o fatha rhyw gylch dieflig nicerol.
3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi?(dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
Sion nos Wenar dwytha ar ol bod yn Ty'n Llan
4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?
Ar ol siarad efo Sian ddoe ynglyn a phrosiect cyffrous iawn!
5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
Peidio marw wrth neidio o frig y coed a'i gwneud hi i gastell Deudraeth heb ormod o hangover i ddathlu pen-blwydd mam ar ol bod mewn parti plu nos Sadwrn.