pump am y penwythnos - 14/9/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

pump am y penwythnos - 14/9/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 14 Medi 2007 9:31 am

Bore da, faeswyr. Wele fwydro...

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?
5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: pump am y penwythnos - 14/9/07

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 14 Medi 2007 10:03 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?

Arian i Ellen, misoedd yn ol rwan.

2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?

Na, er dw i 'di neud i eraill sawl gwaith

3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)

Pa fath o lun? Ffotograff? Duw a wyr.

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?

Fory.

5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?

Gwneud yn sicr am set yn y Mochyn Du cyn y gem
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: pump am y penwythnos - 14/9/07

Postiogan Manon » Gwe 14 Medi 2007 10:31 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
Pwmp troed i'r pobol fyny'r lon drio chwythu pwll bach eu mab i fyny (nath o'm gweithio.)

2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
Car 'chydig o flynyddoedd yn ol... Ma'n siwr bod fy chwaer wedi dwyn fy nyddiadur cwpl o weithia' tra odda ni'n tyfu fyny hefyd :x

3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
Dad 'dwi'n meddwl... Nath o dynnu llunia lyfli ohona i a fy ffrindia' yn y 'steddfod.

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?
Ddoe... Pan nes i sylweddoli yn iawn am y tro cynta bo' ni'n symud ty mewn tair wythnos.

5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
Pacio! (Sgin neb yn y Gog focsus ga'i plis?!)
Ac yfed litres o win achos 'dwi'm isho symud ty efo hanner Threshers...
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Cacamwri » Gwe 14 Medi 2007 10:39 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
Fy ffon neithiwr i fy ffrind achos ei bod hi wedi rhedeg mas o charge...ei ffon hi, nid hi.


2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
Nath rhyw fastard cymryd fy virginty flynyddoedd yn ol heb ganiatad.


3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
Neithwr nath cyd-weithiwr dynnu fy llun mewn cyfarfod. Ych.


4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?
Ddoe pan es i am sbin yn y car dwi ar fin ei brynu!


5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
Llnau'r holl bethe sydd wedi crynhoi yn fy nghar. Papurau, blancedi, pecynne creision. Och!
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: pump am y penwythnos - 14/9/07

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Gwe 14 Medi 2007 11:59 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
ffrog barti priodas i nerys tua mis yn ol.
2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
oedd gen i ffrind oedd yn neud o drw'r amsar pan oni'n coleg - sgidia, tops, capia, ac oedda nhw un ai ddim yn dwad yn ol o gwbl, neu'n cael eu difetha'. oedd o'n rili pisho fi off.
3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
pobol oedd ar hen-nait dros y penwsos yn tynnu llunia hyngofyr afiach ohona' i a'u rhoi nhw ar facebook. :wps:
4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?
bora ma wrth feddwl 'mod i... o'r diwadd... yn mynd i fod yn y du yn y banc ryw ddiwrnod yn y dyfodol agos...!
5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
chwara pi-po!
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Positif80 » Gwe 14 Medi 2007 12:10 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?

Dwi'n benthyg pethau i'n nheulu bob hyn a hyn. Ond heblaw am hynna, never a borrower or a lender be.

2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?


Dwi'm yn meddwl fod neb wedi cymryd rywbeth oddi arnaf yn ddiweddar..efalla fod rywun wedi rhoi'r newud anghywir i fi mewn siop, ond dydi hynna ddim bob tro'n fwriadol.

3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)

Ydi lluniau passport yn cyfri?

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?

Pan wnaeth Van Halen ailffurfio; pan dangoswyd y fideos newydd o Smackdown vs Raw 2008 ar Ign.com. Maddeuwch i mi, oherwydd ni oes gen i bywyd.

5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?

Blaenoriaethau: ychydig o waith; cysgu; cael pryd o fwyd Chinese; efalla mynychu gig neu mynd allan am beint os dwi'n medru aros yn sobr
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Llewelyn Richards » Gwe 14 Medi 2007 12:42 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?

Wnes i fenthyg cwpwl o CDs i gydweithwraig wythnos dwetha, ac mae hi wedi benthyg llyfr i mi so dwi bownd o'u cael nol, a hithau ei llyfr.

2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?

Mi wnaeth rhywun gopio fy nhraethawd coleg heb ganiatad a chael llai o farc! :lol:

3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)

Bachgen o'r enw Tom dwi'n meddwl.

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?

Pan wnes i fwcio fy ngwyliau echdoe.

5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?

Osgoi unrhyw un efo acen Awstralaidd.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan bartiddu » Gwe 14 Medi 2007 12:50 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
Llyfr Jenkins Brothers of Cardiff i rhywyn, a sai'n cofio i bwy nawr na pryd fenthices i fe :(

2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
"Theft, is the sincerest form of flattery...." ;)

3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
Fy nhad wrth i ni cael pwle o wherthin dwl wrth i mi wisgo fy het tri chornel newydd :wps:

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?
Wrth i mi edrych ar gem bel droed ar teledu sky am dim ond yr ail dro yn unig tra'n gwylio Cymru yn curo Slofacia 2-5 :)

5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
Gwastraffu oriau ar gem gyfrifiadur dwi newydd gael trw'r post o amazon :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: pump am y penwythnos - 14/9/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 14 Medi 2007 12:52 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
Pentwr o CDs i'r mistar penwythnos diwetha (ar ôl iddo fe golli'r holl fiwsic odd ar 'i liniadur.)

2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
Yn debyg i Manon, wy'n amau'n gryf bod Mam wedi darllen ambell i ddyddiadur a llythr preifat "yn ddamweiniol" yn ei tro.

3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
Un o westeion priodas Heike ac Ian.

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?
'Nes i gyffroi cymaint bo fi'n pobi torth o fara ar whim neithwr. Doedd glanhau'r gegin ddim mor gyfrous.

5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
Cyrraedd Rhydychen erbyn amser dechau heno, wedyn jyst ymlacio.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: pump am y penwythnos - 14/9/07

Postiogan krustysnaks » Gwe 14 Medi 2007 1:11 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
Dwi wedi benthyg arian i rywun ers amser maith ... Rhoi benthyg DVDs drwy'r amser, felly un o'r rheiny mwy na thebyg.

2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
Do. Dwi ddim yn siwr pwy, ond fe gymerodd rhywun fy laptop tua dau fis yn ôl

3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
Un o'n ffrindiau gyda chamera digidol yn y barbeciw neithiwr.

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?
Echnos a nos Sul tra'n gwylio Prince. Dwi heb gyffroi cymaint ers amser maith.

5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
Dwi'n chwarae'r organ dydd Sul ac mae hi'n ben blwydd Mam, ond heblaw am hynny, cysgu ac ymlacio.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai