Tudalen 2 o 2

Re: pump am y penwythnos - 14/9/07

PostioPostiwyd: Gwe 14 Medi 2007 1:14 pm
gan Jeni Wine
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
Pres i Mr Whine ddydd Mercher.

2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
Mae fy chwaer a fy mam yn dwyn fy sanna a'm nics o hyd. Ond dwinna'n gwneud yr un fath iddyn nhw. Mae o fatha rhyw gylch dieflig nicerol.

3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi?(dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
Sion nos Wenar dwytha ar ol bod yn Ty'n Llan

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?
Ar ol siarad efo Sian ddoe ynglyn a phrosiect cyffrous iawn!

5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
Peidio marw wrth neidio o frig y coed a'i gwneud hi i gastell Deudraeth heb ormod o hangover i ddathlu pen-blwydd mam ar ol bod mewn parti plu nos Sadwrn.

Re: pump am y penwythnos - 14/9/07

PostioPostiwyd: Gwe 14 Medi 2007 1:49 pm
gan tafod_bach
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
dwi ddim yn gallu cofio! 20p i craig brynnu siocled ddoe, mashwr.

2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
dwi wastad yn meddwl bo rhywun wedi dwyn fy mhethau, ond lawr ochor y soffa ma'n nhw gan amlaf

3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
anna, dynnodd hi fy llun wrth focs mawr o esgyrn morfil yn storfa amgueddfa'r glannau. fi oedd y 'scale'.

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?
bore ma pan ddwedodd fy rheolwr bod camgymeriad wedi bod efo fy nhal dros flwyddyn - ac imi ddisgwyl dros fil o bunnoedd o backpay! wahaaaaay!

5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
cyrraedd y gwaith mewn pryd
tynnu'n socs lan
cofio ffonio ar ben blwydd mam
joio byw

Re: pump am y penwythnos - 14/9/07

PostioPostiwyd: Gwe 14 Medi 2007 2:11 pm
gan Jaff-Bach
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
Dwin benthyg fy nghar i dad weithia, mae o fel arfar yn rhoi rwfaint o betrol yn y tank ifi fyd so dwin ddigon hapus i neud! :)

2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
Man chwaer in cymyd fy nillad in reit amal, dwin gweld llunia oni wedyn ar ol noson allan a meddwl 'fi bia hwna!'

3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
Nath fy ffrind i neud peintiad anfarth on criw ffrindia ni ar gyfar ei phroject diwadd blwyddyn ar ein cwrs celf blwyddyn yma, oedd on hiwj- 10 troedfadd wrth 10...sgeri gweld yn hun mor fawr...

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?
Dechra'r wsos efo posibilrwydd o job at haf nesa yn gneud rwbath dwi actyli isho neud yn lle gorfod ffeindio job mewn swyddfa neu siop

5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
Gorffan pacio pnawma i gal mynd i gig Genod Droog a Derwyddon heno a deud tara wrth fy ffrindia. gneud fy ffordd i Leeds ben bora fory i gychwym blwyddyn gynta yn prifysgol :ofn:

Re: pump am y penwythnos - 14/9/07

PostioPostiwyd: Gwe 14 Medi 2007 2:17 pm
gan Jon Bon Jela
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
Nos Lun - 6 CD i ffrind, ond dwi'n amau y caf i nhw 'nôl wrthi.
2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
Arian o 'nghyfrif. Basdads.
3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
Marged/Heledd?
4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?
1997
5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
Glanhau'r fflat, chwynnu'r ardd a mynd i fwyara.

Re: pump am y penwythnos - 14/9/07

PostioPostiwyd: Gwe 14 Medi 2007 3:11 pm
gan Selador
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
Mi neshi roi menthig fy synnwyr cyffredin i'r gwynt chydig fisoedd yn ol a dydi'r bastad ddim yn fodlon ei ddychwelyd.

2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
Neb sydd wedi byw i ddeud y stori.

3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
Emily.

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?
Mewn breuddwyd neithiwr. Oni mewn Tesco anferth yn Ffrainc, a dyma'n ffrind i'n darganfod bod y statue o Pocahontas yn canu os oeddach chi'n rhoi ci bach bach bach wrth ei hymyl hi.

5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
Cyrraedd stad feddyliol boncyrs a cael rhyw efo James Purefoy.

Re: pump am y penwythnos - 14/9/07

PostioPostiwyd: Gwe 14 Medi 2007 4:50 pm
gan Mwddrwg
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
cyfres gynta'r Sopranos i fy mrawd

2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
oes. helpodd rywrai eu hunain i stereo'r car chydig fisoedd nol. nath hanner bar o galaxy ddiflannu o'r cwpwrdd un tro, dwi dal ddim wedi anghofio....

3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
Idris Charles! (dros bennau fy ffrindiau fel bod o'm yn sylwi)

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?
rwan- achos dwi ar fin cychwyn adre am y penwythnos

5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
heno - sosejys porc a chives, a nol y brawd o'r orsaf
fory - shiraz Onya
dydd sul - gwledda yn chillies/topoli a gwylio'r sopranos

Re: pump am y penwythnos - 14/9/07

PostioPostiwyd: Gwe 14 Medi 2007 6:39 pm
gan ceribethlem
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
Jiawl, fi'n rhoi menthyg pethe i bobol trw'r amser, a'n amal byth yn gweld nhw 'to! Roies i menthyg fy nghopi o King Kong i ffrind, heb weld y peth ers tro Byd!

2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
Iestyn ap, yn mynd a ocsigen fi drw'r amser.

3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
Blydi camras ar mobils, ma'r plany wedi trial tynnu llun o fi ar adegau, ond wedyn mae'r ffon yn gorffen lan yn fy nesg, felly mae hwnna wedi stopio. Shwr o fod yn Ffrainc, nath rhyw artist boncyrs tynnu llun o fi, gan wneud i fi edrych fel croes rhwng Cantona a David Baddiel!

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?Ffij yn erbyn Siapan py ddwrnod. Gwych o ddiweddglo!


5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
Marco, wedyn gwylio Cymru yn erbyn Awstralia.

Re: pump am y penwythnos - 14/9/07

PostioPostiwyd: Sul 16 Medi 2007 12:04 pm
gan Sili
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi rhoi benthyg rhywbeth i rywun?
Pump ar hugain punt i nghariad neithiwr i ni gal potian, wihi!

2. Oes rhywun wedi cymryd rhywbeth o’ch eiddo heb ganiatâd?
Dwi'n meddwl fod hi'n fater o fi'n colli petha i bobl wahanol ac wedyn yn anghofio amdanyn nhw yn hytrach na fod nhw'n cymryd nhw'n fwriadol...

3. Pwy oedd y person diwetha’ i dynnu eich llun chi? (dyw hunanbortreadau ddim yn cyfri…)
Ma nghariad wrthi'n gneud un ohonai rwan digwydd bod. Dio ddim y llun mwyaf fflatyring ma raid cyfaddef (ma gennai gynffon) :?

4. Pryd oedd y tro diwetha’ i chi gyffroi?
Neithiwr wrth weld criw o hen ffrindiau yn siarad r'un lol ag arfer :D

5. Beth yw eich blaenoriaethau'r penwythnos hwn?
Mwynhau bod adra ym Mhen Llyn gymaint a phosib cyn gorfod gwynebu ty gwag yng Nghaerdydd am bythefnos arall :crio: