1. Ble oedd lleoliad eich dêt mwya’ llwyddiannus?
Bwyty Belgaidd yng Nghaerdydd - Zero Zero 32 a wedyn Backpackers i yfad yn wirion. Da ni di para lot hirach na'r bwyty. Biti hefyd - lle da. A digon o Maes Pils ar werth yna.
2. Ble oedd lleoliad eich dêt lleia’ llwyddiannus?
Caffi Cei circa 1994.
3. Pryd oedd y tro cynta’ i chi deimlo’n annibynnol?
Pan gafodd Rhian fy chwaer fach ei geni, ac mi sylweddolais mai nid fy lle fi oedd glin mam ddim mwy.
4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi deimlo’n ddibynnol?
Ddoe, pan o'n i angen dyn efo 4x4 i dynnu fy nghar o'r mwd yn Groeslon.
5. Beth yw’r freuddwyd ddiwethaf fedrwch chi gofio?
Mod i wedi deffro, gwneud brecwast ac ar fy ffordd i ngwaith. Ciw cloc larwm yn sgrechian naw o'r gloch - a finna'n hwyr unwaith eto.