Pump am y Penwythnos - 21/9/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 21/9/07

Postiogan Jeni Wine » Llun 24 Medi 2007 9:35 am

1. Ble oedd lleoliad eich dêt mwya’ llwyddiannus?
Bwyty Belgaidd yng Nghaerdydd - Zero Zero 32 a wedyn Backpackers i yfad yn wirion. Da ni di para lot hirach na'r bwyty. Biti hefyd - lle da. A digon o Maes Pils ar werth yna.

2. Ble oedd lleoliad eich dêt lleia’ llwyddiannus?
Caffi Cei circa 1994.

3. Pryd oedd y tro cynta’ i chi deimlo’n annibynnol?
Pan gafodd Rhian fy chwaer fach ei geni, ac mi sylweddolais mai nid fy lle fi oedd glin mam ddim mwy.

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi deimlo’n ddibynnol?
Ddoe, pan o'n i angen dyn efo 4x4 i dynnu fy nghar o'r mwd yn Groeslon.

5. Beth yw’r freuddwyd ddiwethaf fedrwch chi gofio?
Mod i wedi deffro, gwneud brecwast ac ar fy ffordd i ngwaith. Ciw cloc larwm yn sgrechian naw o'r gloch - a finna'n hwyr unwaith eto.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron