1. Ble oedd lleoliad eich dêt mwya’ llwyddiannus?
Dwi'n ama'n fawr os dwi rioed di bod ar un . Lol botas Americanaidd.
2. Ble oedd lleoliad eich dêt lleia’ llwyddiannus?
Eto, does na r'un. Ambell i ddisastyr tra'n canlyn, na'r oll.
3. Pryd oedd y tro cynta’ i chi deimlo’n annibynnol?
Pan esi i 6ed dosbarth. Ond a deud gwir, dwi'n ama'n fawr os dwi rioed di teimlo'n hollol annibynnol.
4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi deimlo’n ddibynnol?
Rwan hyn, wedi i'r rhieni ffonio i ddeud fod eu trip i'r sowth wedi ei ganslo a'r cariad yn deud na fedr o ddod yma chwaith. Lly dwi'n gwario'r wicend mewn ty mawr oer gwag. Bw
Selador a ddywedodd:5. Beth yw’r freuddwyd ddiwethaf fedrwch chi gofio?
Roeddwn mewn fight to the death neithiwr, a onin curo. Dim ond un gelyn oedd ar ol, sef Sili. Penderfynais fynd i chwilio am arf er mwyn ei dinistrio, ond roedd y bitch wedi gosod trap ar fy nghyfer. Roedd hi hefyd wedi dyfeisio rhyw wenwyn afiach, a tywalltodd hwnnw i fy nghlust fesul drop. Hi nath enill.
Cofia di hynna tro nesa ti'n trio dy lwc 'ngwashi.
Y freuddwyd ddwytha gesi odd mod i wedi cloi fy hun mewn cwpwrdd cyffuriau ar un o'r wardia yn 'sbyty Llandocha a wedi yfed cryn dipyn o Oromorph cyn dringo allan a cael fy mherswadio i berfformio llawdriniaeth y galon. Ath petha bronnau-fyny braidd. Ma hyn o bosib yn sgil y ffaith mod i
wedi cael fy mherswadio i yfed Oromorph ddoe fel gini-pig mewn 'sbyty 'palliative care'.