Pump am y Penwythnos - 21/9/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 21/9/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 21 Medi 2007 9:41 am

1. Ble oedd lleoliad eich dêt mwya’ llwyddiannus?
2. Ble oedd lleoliad eich dêt lleia’ llwyddiannus?
3. Pryd oedd y tro cynta’ i chi deimlo’n annibynnol?
4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi deimlo’n ddibynnol?
5. Beth yw’r freuddwyd ddiwethaf fedrwch chi gofio?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 21/9/07

Postiogan Manon » Gwe 21 Medi 2007 11:08 am

1. Ble oedd lleoliad eich dêt mwya’ llwyddiannus?
Gig Meic Stevens yn Time, Bangor. O'dd o ddim offishali yn det ond ma' raid bo' 'na wbath wedi mynd yn iawn... Da ni dal yma bum mlynadd wedyn... :)
2. Ble oedd lleoliad eich dêt lleia’ llwyddiannus?
Trafeulio'r holl ffor i Wrecsam i weld boi a wedyn goro isda mewn blydi swyddfa yn gwatshad o'n teipio ryw waith i fyny. A finna'n rhy ifanc ac wedi gwirioni gormond i ddeutha fo lle i fynd :x
3. Pryd oedd y tro cynta’ i chi deimlo’n annibynnol?
Fy paycheck go iawn cynta' ar ol i mi adael 'rysgol.
4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi deimlo’n ddibynnol?
'Dwi'n ddibynnol ar fy ngwr i gael cyflog sefydlog, so rwan!
5. Beth yw’r freuddwyd ddiwethaf fedrwch chi gofio?
Dim yn cofio'r manylion ond 'dwi meddwl bo' Mam a fi 'di bod yn chwilio am rywbeth.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 21/9/07

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 21 Medi 2007 11:35 am

1. Ble oedd lleoliad eich dêt mwya’ llwyddiannus?

Dêt? I be dwad?

2. Ble oedd lleoliad eich dêt lleia’ llwyddiannus?

Dêt? I be dwad?

3. Pryd oedd y tro cynta’ i chi deimlo’n annibynnol?

Yn hollol annibynol ers mynd i fyw ben fy hun i Grangetown ers tua deufis a hanner.

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi deimlo’n ddibynnol?

Pryd oeddwn i'n meddwl na fyddwn yn cael fy swydd bresennol ac yn dibynnu ar fy rhieni i mi gael fynd adra os dyna'r achos. Os ma'r bos yn gweld fi'n neud hyn mi fydd ar ben arna' i go iawn.

5. Beth yw’r freuddwyd ddiwethaf fedrwch chi gofio?
Ro'n i'n gweithio yn Tesco ar Salisbury Road er mwyn neud mwy o bres a ddaeth 'na ddynas a llyfr "Cyfarchion" i'r staff ddarllen pan oeddan nhw'n bored. Ni siaradodd Gymraeg.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos - 21/9/07

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 21 Medi 2007 11:35 am

1. Ble oedd lleoliad eich dêt mwya’ llwyddiannus?
Ym, dwn im. Ma dêts wedi bod chydig yn anathema i fi rili felly sdim llawer i ddewis ohonyn nhw. Ond y dêt gora, oedd yr un pan ddes i fyny i Aber i ymweld â rhywun ar ôl sgwrs feddw gyda hi yn yr Hawardian Club yng Nghorffenaf 2004. Werth y siwrna ar y Traws.

2. Ble oedd lleoliad eich dêt lleia’ llwyddiannus?
Schindler's List, Neuadd Buddug, y Bala, 1993 8)

Get in there!

3. Pryd oedd y tro cynta’ i chi deimlo’n annibynnol?
O'n i'n meddwl bo fi'n annibynnol pan ges i glustdlws a crew cut yn 11 oed. Ond ddim wir yn teimlo'n annibynnol go iawn tan cyrraedd 15 a'r cyfnod off ysgol cyn arholiadau TGAU.

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi deimlo’n ddibynnol?
Hei, da ni gyd yn dibynnu ar bobol eraill drwy'r amsar, am bob math o betha bach a mawr. Fela mai'n gweithio de.

5. Beth yw’r freuddwyd ddiwethaf fedrwch chi gofio?
Mundane iawn neithiwr: rwbath i wneud efo colli copi o Sight and Sound a wedyn ffeindio fo eto :rolio:

Wedi cael rhai nyts yn ddiweddar ddo. Petha fel gweld dimensiyns gwahanol ac ati. Cwl shit. 8)
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos - 21/9/07

Postiogan Jaff-Bach » Gwe 21 Medi 2007 12:05 pm

1. Ble oedd lleoliad eich dêt mwya’ llwyddiannus?
Det gora erioed oedd noson calan 06/07, onin Dublin efon ffrindia am 3 noson, a nesi gyfarfod gwyddal lyfli ath a fi allan i coctel bar ymeising yn y minos, lyfli o noson

2. Ble oedd lleoliad eich dêt lleia’ llwyddiannus?
emm yn rhyfadd mashwr nar det cynta yn sinema efo nghariad mwya long term, oeddo jesd braidd yn awkward ar y pryd

3. Pryd oedd y tro cynta’ i chi deimlo’n annibynnol?
Pasio mhrawf gyrru 2 flynadd a hanar nol, a dreifio ir ysgol yn yr haul efon ffrindia i gyd yn canu. Mewn pentra lle ma na fys yn mynd unwaith bob awr ma dreifio yn rhoi gymaint o annibyniaeth i chdi

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi deimlo’n ddibynnol?
Derbyn pres gan mam a dad ddechrar wsos i gal fi drw freshers week yma, ond ma di dod yn handi iawn :D

5. Beth yw’r freuddwyd ddiwethaf fedrwch chi gofio?
Oeddna rywun di agor clwb nos anfarth yn betws y coed, a oedd ffrind fin trio mynd mewn efo old english sheepdog a nina yn trio cuddior ci tu ol ini ar y ffordd mewn
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds

Re: Pump am y Penwythnos - 21/9/07

Postiogan Selador » Gwe 21 Medi 2007 12:47 pm

1. Ble oedd lleoliad eich dêt mwya’ llwyddiannus?
Det? ffyc off.

2. Ble oedd lleoliad eich dêt lleia’ llwyddiannus?
blabablaba.

3. Pryd oedd y tro cynta’ i chi deimlo’n annibynnol?
No man is a planet.

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi deimlo’n ddibynnol?
Yr eiliad hyfyd hon wrth i mi gael shot cynta'r diwrnod.

5. Beth yw’r freuddwyd ddiwethaf fedrwch chi gofio?
Roeddwn mewn fight to the death neithiwr, a onin curo. Dim ond un gelyn oedd ar ol, sef Sili. Penderfynais fynd i chwilio am arf er mwyn ei dinistrio, ond roedd y bitch wedi gosod trap ar fy nghyfer. Roedd hi hefyd wedi dyfeisio rhyw wenwyn afiach, a tywalltodd hwnnw i fy nghlust fesul drop. Hi nath enill.
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Postiogan Cacamwri » Gwe 21 Medi 2007 12:59 pm

1. Ble oedd lleoliad eich dêt mwya’ llwyddiannus?
Pryd o fwyd lyfli yn Le Figaro, Aberystwyth. A ni dal i fynd.

2. Ble oedd lleoliad eich dêt lleia’ llwyddiannus?
Sinema. Ffilm ddiflas, cwmni diflas.

3. Pryd oedd y tro cynta’ i chi deimlo’n annibynnol?
Ar ol pasio prawf gyrru, a cael fy job cynta ar ol ysgol.

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi deimlo’n ddibynnol?
Awr yn ol. Dibynnol ar y coffi i gael fi trwy pnawn ma.

5. Beth yw’r freuddwyd ddiwethaf fedrwch chi gofio?
Owff, sa i'n cael breuddwydion yn aml iawn. Byth yn eu cofio nhw. Ond un freuddwyd dwi'n cofio ei gael pan o'n i'n fach oedd bod dyn yn dod ar fy ol i mewn fan wen, sgeri.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: Pump am y Penwythnos - 21/9/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 21 Medi 2007 2:16 pm

1. Ble oedd lleoliad eich dêt mwya’ llwyddiannus?
Outing i Dyffryn Gardens lle 'nethon ni sgwennu pethau sili yn y llyfr ymwelwyr.

2. Ble oedd lleoliad eich dêt lleia’ llwyddiannus?
UCI Abertawe - Gladiator.

3. Pryd oedd y tro cynta’ i chi deimlo’n annibynnol?
Syrffio yng ngwersyll Pentywyn pan o'n i tua 8 oed. O'n i'n hollol crap, ond 'nes i rili joio.

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi deimlo’n ddibynnol?
Wy'n teimlo'n ddibynol trwy'r amser. Me'n blydi rhwystredig.

5. Beth yw’r freuddwyd ddiwethaf fedrwch chi gofio?
Wy 'di cael cwpwl o rhai le wy'n ceisio cyrraedd rhywbeth wythnos 'ma... Llawr dop adeilad uchel, a tren oedd ar fin gadael... Ges i freuddwyd am marmots penwythnos diwetha - o ganlyniad, wylies i 'The Big Lebowsiki'.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 21/9/07

Postiogan Mwddrwg » Gwe 21 Medi 2007 2:56 pm

1. Ble oedd lleoliad eich dêt mwya’ llwyddiannus?
en route amwni

2. Ble oedd lleoliad eich dêt lleia’ llwyddiannus?
sinema

3. Pryd oedd y tro cynta’ i chi deimlo’n annibynnol?
pan ges i fynd i siop y pentre ar fy mhen fy hun pan yn tua 9 oed efo 13 ceiniog i brynu chomp a refresher :D

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi deimlo’n ddibynnol?
neithiwr tra'n ymwrthod a photel o nero d'avola oedd yn erfyn arna'i i'w hagor

5. Beth yw’r freuddwyd ddiwethaf fedrwch chi gofio?
neithiwr nes i ddal rhywun yn trio cysylltu bom i fy nghar (ond nid fy nghar presennol ond un oedd yn edrych chydig fel toyota yaris/polo). mi wnes i daclo fo mewn arddull rugger ag mi o'n i'n galw ar rywun i ddod i'w arestio fo ond roedd pawb yn cerdded heibio am ryw reswm...
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Re: Pump am y Penwythnos - 21/9/07

Postiogan Sili » Gwe 21 Medi 2007 4:02 pm

1. Ble oedd lleoliad eich dêt mwya’ llwyddiannus?
Dwi'n ama'n fawr os dwi rioed di bod ar un . Lol botas Americanaidd.

2. Ble oedd lleoliad eich dêt lleia’ llwyddiannus?
Eto, does na r'un. Ambell i ddisastyr tra'n canlyn, na'r oll.

3. Pryd oedd y tro cynta’ i chi deimlo’n annibynnol?
Pan esi i 6ed dosbarth. Ond a deud gwir, dwi'n ama'n fawr os dwi rioed di teimlo'n hollol annibynnol.

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi deimlo’n ddibynnol?
Rwan hyn, wedi i'r rhieni ffonio i ddeud fod eu trip i'r sowth wedi ei ganslo a'r cariad yn deud na fedr o ddod yma chwaith. Lly dwi'n gwario'r wicend mewn ty mawr oer gwag. Bw :(

Selador a ddywedodd:5. Beth yw’r freuddwyd ddiwethaf fedrwch chi gofio?
Roeddwn mewn fight to the death neithiwr, a onin curo. Dim ond un gelyn oedd ar ol, sef Sili. Penderfynais fynd i chwilio am arf er mwyn ei dinistrio, ond roedd y bitch wedi gosod trap ar fy nghyfer. Roedd hi hefyd wedi dyfeisio rhyw wenwyn afiach, a tywalltodd hwnnw i fy nghlust fesul drop. Hi nath enill.


Cofia di hynna tro nesa ti'n trio dy lwc 'ngwashi.

Y freuddwyd ddwytha gesi odd mod i wedi cloi fy hun mewn cwpwrdd cyffuriau ar un o'r wardia yn 'sbyty Llandocha a wedi yfed cryn dipyn o Oromorph cyn dringo allan a cael fy mherswadio i berfformio llawdriniaeth y galon. Ath petha bronnau-fyny braidd. Ma hyn o bosib yn sgil y ffaith mod i wedi cael fy mherswadio i yfed Oromorph ddoe fel gini-pig mewn 'sbyty 'palliative care'.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron