Pump am y Penwythnos - 28/9/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 28/9/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 28 Medi 2007 9:41 am

1. Pwy ‘ych chi’n edmygu?
2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi lanhau?
3. Beth oedd eich salwch diwethaf?
4. Am ba rinwedd mae pobl yn eich canmol chi?
5. Beth sy’ tu ôl i chi?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 28/9/07

Postiogan Jeni Wine » Gwe 28 Medi 2007 10:06 am

1. Pwy ‘ych chi’n edmygu?
Fy ngwr.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi lanhau?
Fy nwylo ar ol llnau pelan fflyff a chwd gwyrdd y gath bore ma. Neis.

3. Beth oedd eich salwch diwethaf?
Ma gen i beswch afiach ar y funud a dwi'n poeri fflem gwyrdd. Minus y blew.

4. Am ba rinwedd mae pobl yn eich canmol chi?
Dim syniad. Heb glywad neb yn fy nghanmol ers sbelan. sniff

5. Beth sy’ tu ôl i chi?
Ffenast fawr yn edrych allan ar y coed yn Felinheli. A thu hwnt i hynny, pyb y Halfway House. Mmmmmm, peeeeint.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos - 28/9/07

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 28 Medi 2007 10:20 am

1. Pwy ‘ych chi’n edmygu?
Fawr o neb, i fod yn onast.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi lanhau?
Cwpan

3. Beth oedd eich salwch diwethaf?
Ydi hangover yn cyfri?

4. Am ba rinwedd mae pobl yn eich canmol chi?
Does neb byth yn fy nghanmol oherwydd mi wyddant y bydda i'n son am y peth hyd ddydd y farn os gwnant.

5. Beth sy’ tu ôl i chi?
Piano, yn rhyfedd ddigon.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan ffwrchamotobeics » Gwe 28 Medi 2007 10:28 am

1. Pwy ‘ych chi’n edmygu?

Aung San Suu Kyi, Peter Cook a Mam

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi lanhau?

Tin y mab

3. Beth oedd eich salwch diwethaf?

Tinnitus

4. Am ba rinwedd mae pobl yn eich canmol chi?

Well peidio deud ar wefan deuluol :winc:

5. Beth sy’ tu ôl i chi?

Ieuenctid ffol a gwisgo crysau T Simple Minds :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Postiogan Manon » Gwe 28 Medi 2007 11:08 am

1. Pwy ‘ych chi’n edmygu?
Anti Lydia.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi lanhau?
Llawr y twll dan grisha... Ofn i'r pobol sy'n symud yma ar ddydd llun wybod mor fudur ydan ni... :rolio:

3. Beth oedd eich salwch diwethaf?
Ma' gin i ryw annwyd bach achos yr holl lwch sy'n dod ar ol symud petha' o'r atic...

4. Am ba rinwedd mae pobl yn eich canmol chi?
'Dwi'n 'neud i bobol deimlo'n well amdanyn nhw'i hunan... :?

5. Beth sy’ tu ôl i chi?
Ffenest, a golygfa dros Benmon ac Ynys Seiriol.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Llewelyn Richards » Gwe 28 Medi 2007 12:17 pm

1. Pwy ‘ych chi’n edmygu?

Idris Charles. Be da chi'n feddwl pam?

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi lanhau?

Cwpan i gael paned bore ma. Dwi ddim yn gyfforddus efo'r cysyniad fel arall.

3. Beth oedd eich salwch diwethaf?

Poen yn fy nghlust wnaeth bara am oes. Poenus tu hwnt.

4. Am ba rinwedd mae pobl yn eich canmol chi?

Mi ddywedodd ffrind wrthai neithiwr mod i'n annwyl iawn.

5. Beth sy’ tu ôl i chi?

Dwi'n dewis peidio edrych, ond siwr o fod fy rheolwr llinell yn edrych arnai yn mynd ar maes-e ar ol iddi rybuddio fi am beidio.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 28/9/07

Postiogan Jaff-Bach » Gwe 28 Medi 2007 12:23 pm

1. Pwy ‘ych chi’n edmygu?
Yr hogan oedd yn istad wrth fy ochor yn y ddarlith bora ma, di bod allan neithiwr, yfad 6 tequila shot, a 7 vodka red bull a nathi dal neud hi ir ddarlith am 9 or gloch...chwara teg

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi lanhau?
Llestri brecwast, ond dwi mor falch on hun am lanhaur stafell molchi i gyd ddoe! jesd galwch fin domestic godess 8)

3. Beth oedd eich salwch diwethaf?
eiliaf...
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Ydi hangover yn cyfri?


4. Am ba rinwedd mae pobl yn eich canmol chi?
dwin ffrind reit dda, nhw dir petha pwysica ifi yn y byd

5. Beth sy’ tu ôl i chi?
Fy llofft newydd yn leeds, a llofft matt fy flatmate dros ffordd ir coridor
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds

Re: Pump am y Penwythnos - 28/9/07

Postiogan Sili » Gwe 28 Medi 2007 1:26 pm

1. Pwy ‘ych chi’n edmygu?
Yr eneth sy'n gweithio fel rhan o'r tim efo fi yn 'sbyty Llandocha, gan fod hi i weld yn gwbod bob un blydi dim, waeth pa mor anodd!

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi lanhau?
Fy nwylo, efo llwyth o alcohol gel. Drosodd a drosodd a drosodd ar y wards...

3. Beth oedd eich salwch diwethaf?
Peswch cas rhyw 'thefnos n'ol.

4. Am ba rinwedd mae pobl yn eich canmol chi?
Am fod yn gymorth ac yn gefn i bobl mashwr. Dwnim, ma'r ateb yna chydig yn bwfflyd dydi? Am fod gennai fwbis mawr ta :rolio:

5. Beth sy’ tu ôl i chi?
Cefn cadair a stafell gyfrifiaduron yr ysbyty.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Positif80 » Gwe 28 Medi 2007 2:11 pm

1. Pwy ‘ych chi’n edmygu?

Llwythi o bobl..I'll get back to you on that one.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi lanhau?
Fy nwylo.

3. Beth oedd eich salwch diwethaf?
Annwyd

4. Am ba rinwedd mae pobl yn eich canmol chi?

Dydi neb yn fy nghanmol i :crio: :crechwen:

5. Beth sy’ tu ôl i chi?
Cadair, wal, sense of inpending doom, cloc..the usual.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Pump am y Penwythnos - 28/9/07

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 28 Medi 2007 2:44 pm

1. Pwy ‘ych chi’n edmygu?
Basgiaid, Bjork a Berry, Dave!
2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi lanhau?
Nannadd, bora ma.
3. Beth oedd eich salwch diwethaf?
Ryw annwyd di-ddim siwr fod.
4. Am ba rinwedd mae pobl yn eich canmol chi?
Wel, ma hen wragedd diarth yn canmol y nghyrls.
5. Beth sy’ tu ôl i chi?
Shafflach ar shilffoedd.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron