Tudalen 1 o 2

Pump am y Penwythnos - 12/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 12 Hyd 2007 12:27 pm
gan Dwlwen
Gan feddwl am eich ffrindiau…
1. Pwy sy’ fwya’ tebygol o lwyddo?
2. Pwy sydd â’r llygaid mwyaf pert?
3. Pwy yw’r pâr mwyaf ciwt?
4. Pwy sydd wedi newid fwya’?
5. Pwy yw’r person mwya’ gîcllyd?

Re: Pump am y Penwythnos - 12/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 12 Hyd 2007 12:41 pm
gan Wierdo
Chi'm yn nabod nw...ond mots
1. Pwy sy’ fwya’ tebygol o lwyddo?
Catrin.

2. Pwy sydd â’r llygaid mwyaf pert?
Sili, unrhyw ddydd.

3. Pwy yw’r pâr mwyaf ciwt?
Pâr beth? Bwbis? Ma gin i ddwy ffrind gyda bronnau anferth ac felly methu cael eu galw'n "ciwt". Richard mashwr.

4. Pwy sydd wedi newid fwya’?
Sili amwni

5. Pwy yw’r person mwya’ gîcllyd?
Daniel hands down.

Re: Pump am y Penwythnos - 12/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 12 Hyd 2007 12:58 pm
gan Selador
1. Pwy sy’ fwya’ tebygol o lwyddo?
Dwnim, ond mi allai ddeud pwy ydi'r lleia tebygol o lwyddo. Hefin.

2. Pwy sydd â’r llygaid mwyaf pert?
Ceri. Biwer of priti ais.

3. Pwy yw’r pâr mwyaf ciwt?
Ciwt?! Ymm, hmm, dwnim, dydi ciwt ddim yn dwad mewn i'r peth fel arfar. Cwestiwn da. Ymm, dwnim, Camilla masiwr.

4. Pwy sydd wedi newid fwya’?
Aled Penwy. Arferai fod yn dwat bach hwylus, rwan mae'n ddyn go iawn efo job a ballu.

5. Pwy yw’r person mwya’ gîcllyd?
Iwan Reese. Ma pobol gici yn wych, dwisho llyfu eu trwynau.

Re: Pump am y Penwythnos - 12/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 12 Hyd 2007 1:13 pm
gan tafod_bach
1. Pwy sy’ fwya’ tebygol o lwyddo?
dwi'n edmygu lot o'n ffrindie am eu dyfal barhad. harriet. a manon awst! trwwwper!

2. Pwy sydd â’r llygaid mwyaf pert?
lowri, ond bo hi'n gwisgo lensys artiffisial i guddio nhw weithie

3. Pwy yw’r pâr mwyaf ciwt?
mr a mrs llywelyn richards, wrth gwrs! mae'u 'human fondue parties' nhw'n chwedlonllyd!

4. Pwy sydd wedi newid fwya’?
rebs, yr hipi cynta' i fi nabod odd angen anger management...

5. Pwy yw’r person mwya’ gîcllyd?
twm, un o fy ffrindie pennaf. dimond y fe sy'n deall fy obsesiwn efo fflags ac anna farris. ma jonny bach a fi'n licio mynd i siope peilots i brynu mapie gyda'n gilydd ma hynna'n eitha gwael...

Re: Pump am y Penwythnos - 12/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 12 Hyd 2007 1:33 pm
gan Jaff-Bach
1. Pwy sy’ fwya’ tebygol o lwyddo?
Lowri, penderfynol, clyfar a efo passion am ei maes

2. Pwy sydd â’r llygaid mwyaf pert?
Kiran, biwtiffyl o lygid ganddi

3. Pwy yw’r pâr mwyaf ciwt?
Gari a Hels, di bod on-off ers pan oeddanhwn 9 oed! canlyn yn selog ers dwy flynadd. Ciwt, ond beware man mar ffraeo yn cychwyn

4. Pwy sydd wedi newid fwya’?
Glyn, Swydd wahanol, Image gwahanol, ffrindia gwahanol, byd gwahanol

5. Pwy yw’r person mwya’ gîcllyd?
Huw neu Jake; y ddau yn gallu gwario oria a oria a oria ar halo, lyfli o hogia fyd

Re: Pump am y Penwythnos - 12/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 12 Hyd 2007 1:47 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Pwy sy’ fwya’ tebygol o lwyddo?
Hogan od o'r enw Ellen Angharad

2. Pwy sydd â’r llygaid mwyaf pert?
Lowri Llewelyn neu Ellen Angharad

3. Pwy yw’r pâr mwyaf ciwt?
Dywedwn i Rhys a Sioned - 'sneb arall yn 'gwpl del'

4. Pwy sydd wedi newid fwya’?
Lowri Dwd

5. Pwy yw’r person mwya’ gîcllyd?
Hah! Owain Oral!

Re: Pump am y Penwythnos - 12/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 12 Hyd 2007 2:23 pm
gan Mwddrwg
Pwy sy’ fwya’ tebygol o lwyddo?
Catrin - ma hi'n lot rhy glyfar a chydwybodol

2. Pwy sydd â’r llygaid mwyaf pert?
Melyn

3. Pwy yw’r pâr mwyaf ciwt?
Betsan a Dafydd (ers oeddan nhw'n ysgol)

4. Pwy sydd wedi newid fwya’?
Ffion J - athletwraig o fri odd byth yn dod allan efo ni trwy gydol chweched; pothead yn coleg

5. Pwy yw’r person mwya’ gîcllyd?
tafod_bach - do'n i'm di sylwi ar obsesiwn gyda mapiau :ofn: (wele uchod)

Re: Pump am y Penwythnos - 12/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 12 Hyd 2007 2:23 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
1. Pwy sy’ fwya’ tebygol o lwyddo?
meic piars
2. Pwy sydd â’r llygaid mwyaf pert?
sheryl
3. Pwy yw’r pâr mwyaf ciwt?
darren a katie
4. Pwy sydd wedi newid fwya’?
jinx
5. Pwy yw’r person mwya’ gîcllyd?
denzil

be? o leia 'da chi'n gwbod am pwy dwi'n son.

Re: Pump am y Penwythnos - 12/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 12 Hyd 2007 2:35 pm
gan Dwlwen
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:be? o leia 'da chi'n gwbod am pwy dwi'n son.

Ahh, blodyn - un dydd fe gei di ffrindiau go iawn. Addo! :winc:

Re: Pump am y Penwythnos - 12/10/07

PostioPostiwyd: Sad 13 Hyd 2007 10:47 am
gan Sili
1. Pwy sy’ fwya’ tebygol o lwyddo?
Ramirez. Motch be sy'n digwydd (ne ddim yn digwydd fel arfer) mae o wastad yn landio ar ei draed rhywsut ne'i gilydd.

2. Pwy sydd â’r llygaid mwyaf pert?
Dwi'n adnabod geneth o Malaysia sydd a chroen tywyll a'r llygaid mwyaf glas dwi rioed di weld. Ma nhw'n hollol hyfryd!

3. Pwy yw’r pâr mwyaf ciwt?
Gringo Orinjo a Pron Pinc. Dwi'm yn meddwl i mi rioed weld dim fwy ciwt na'r ddau yn canu deuawd yn Ty Newydd Sarn :P

4. Pwy sydd wedi newid fwya’?
Selador a ddywedodd:Aled Penwy. Arferai fod yn dwat bach hwylus, rwan mae'n ddyn go iawn efo job a ballu.


Cytunaf i'r carn. Dyn gwely erbyn 11 yh yn hytach na'r bora erbyn hyn...

5. Pwy yw’r person mwya’ gîcllyd?
Wierdo. Hi a'i maths a'i Dr Who... :rolio: :winc: