Tudalen 2 o 2

Re: Pump am y Penwythnos - 12/10/07

PostioPostiwyd: Sad 13 Hyd 2007 12:57 pm
gan krustysnaks
1. Pwy sy’ fwya’ tebygol o lwyddo?
Mae gen i ambell ffrind sydd wedi cael cynnig swyddi gan investment banks eisoes, felly un o'r rheiny, siwr o fod.

2. Pwy sydd â’r llygaid mwyaf pert?
Billy - llygaid maaawr.

3. Pwy yw’r pâr mwyaf ciwt?
Tom a Duncan, ond dwi ddim yn gweld llawer ohonyn nhw bellach, felly Dan a Fiona er bod cannoedd o filltiroedd rhyngddyn nhw ar hyn o bryd (maen nhw'n fwy ciwt trwy Skype, os rhywbeth).

4. Pwy sydd wedi newid fwya’?
Rich. Dim ond o siop y gornel fyny'r allt i'r Brifysgol, ond cam llawer yn fwy na hynny mewn gwirionedd.

5. Pwy yw’r person mwya’ gîcllyd?
Waw, lot o gystadleuaeth am yr un yma. Alice, mwy na thebyg - methu mynd mwy na chwarter sgwrs heb gymharu faint o waith mae hi wedi'i wneud gyda rhywun arall.

Re: Pump am y Penwythnos - 12/10/07

PostioPostiwyd: Sad 13 Hyd 2007 1:00 pm
gan dawncyfarwydd
1. Pwy sy’ fwya’ tebygol o lwyddo?
Dafydd Rhun dwi'n meddwl. Mae o'n bownd o briodi blondan a byw mewn tŷ mawr a dreifio BMW.

2. Pwy sydd â’r llygaid mwyaf pert?
Gen Llinos un llygad du a'r llall yn binc...ne glas a gwyrdd...ne wbath. Dwi'm yn sylwi ar llgada lot o bobol erill.

3. Pwy yw’r pâr mwyaf ciwt?
Sili a ddywedodd:Gringo Orinjo a Pron Pinc. Dwi'm yn meddwl i mi rioed weld dim fwy ciwt na'r ddau yn canu deuawd yn Ty Newydd Sarn :P

Amen. a dwi'n gwbod o dy llgada a'th wên fach ddel y bydd heno'n iawn am ryw hyd :D

4. Pwy sydd wedi newid fwya’?
Unllygedryd dwi'n meddwl. Oedd o'n thic ac annoying tan tua Form 3, wan mae o'n glyfar ac yn foi iawn.

5. Pwy yw’r person mwya’ gîcllyd?
Ymm...fi.

Re: Pump am y Penwythnos - 12/10/07

PostioPostiwyd: Sul 14 Hyd 2007 2:21 pm
gan nicdafis
1. Pwy sy’ fwya’ tebygol o lwyddo?

Dibynnu beth ti'n meddwl gan "lwyddo". Mae gen i ffrindiau sy wedi llwyddo magu plant, anhygoel o beth yw hwnna.

2. Pwy sydd â’r llygaid mwyaf pert?

Philippa.

3. Pwy yw’r pâr mwyaf ciwt?

<a href="http://www.flickr.com/photos/nicdafis/40393349/">Ade a Fflash</a>.

4. Pwy sydd wedi newid fwya’?

Wel, mae Fflash wedi marw...

Na, <a href="http://www.flickr.com/photos/nicdafis/44831019/">hwn</a>, siwr o fod.

Delwedd Delwedd

5. Pwy yw’r person mwya’ gîcllyd?

Fi, yn anffodus.

Re: Pump am y Penwythnos - 12/10/07

PostioPostiwyd: Llun 15 Hyd 2007 10:10 am
gan Dwlwen
nicdafis a ddywedodd:1. Pwy sy’ fwya’ tebygol o lwyddo?
Dibynnu beth ti'n meddwl gan "lwyddo".

Na wir - me'n dibynu ar be wyt ti'n meddwl gan "llwyddo" :winc:

...ond tyff titis achos wy'n cloi'r edefyn nawr ta beth. :P