Pump am y Penwythnos - 19/10/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 19/10/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 19 Hyd 2007 1:43 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?
2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?
3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?
4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?
5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Cacamwri » Gwe 19 Hyd 2007 2:04 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?

Neithiwr, rhwng 3 a 4.30 achos ro'dd y fechan wedi penderfynu bod yn dylluan unwaith eto.

2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?

Dillad ail law wrth ffrind i'r fechan. Llond bag.

3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?

Dim dal, pryd bynnag dw i'n cofio bwcio apwyntiad. Gall fynd yn fisoedd weithie.

4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?

Yn wythnosol. Cael y stwff wedi'u cludo i'n ty ni - arbed ffradach a helynt yn yr archfarchnad, arbed teithio yno, a dw i'n gwario llai!

5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?

Ynys bell, i ymlacio ac yfed gwin, a codi pryd bynnag dwi eisie.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: Pump am y Penwythnos - 19/10/07

Postiogan anffodus » Gwe 19 Hyd 2007 2:25 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?
Dw i'm yn siwr - pan odd hi'n pistyllio bwrw tua tri o gloch bora chydig yn ol dwi'n meddwl

2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?
Diod Capri-sun yn ffatri Jaguar yn Lerpwl ddydd Merchar.

3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?
Fel arfar dwi'n adal o'i dyfu am fisoedd a wedyn cal shave pan dwi'm yn gallu gweld rhy dda.

4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?
Ddim fi'n bersonol ond mam lly - yn wythnosol fel arfar

5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?
I ben yr eifl am ryw awr i gychwyn - wedyn os fyswn i dal isio mynd, Bala (dim syniad pam) a wedyn os swn i dal isio dianc fyswn i'm yn mindio Belffast, Caerdydd ne Berlin ne rwla. Neu Chile neu Cuba - jyst am y crac
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Re: Pump am y Penwythnos - 19/10/07

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 19 Hyd 2007 2:31 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?
Ddoe i fynd am bisiad. Dw i fel hen ffycin ddyn, wastad yn deffro am bisiad.

2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?
Wwwww, anodd. Roedd hyn amser maith yn ôl - a dweud y gwir dw i ddim yn cofio.

3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?
Unwaith pob ryw 8-9 mis?

4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?
Yn wythnosol - dw i'n hoffi cael trefn a chael bwyd ffresh

5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?
Moel Faban mae'n siwr, a ceisio creu annedd ymysg y brwyn.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos - 19/10/07

Postiogan Jaff-Bach » Gwe 19 Hyd 2007 3:04 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?
Neithiwr, dau or hogia lawr y coridor yn cal ufflwn o ffrae fawr ag trio gweiddi am y gora, sgeri. Mi ddeffronhw pawb, a nina gyd wedyn yn sefyll ganol y coridor methu dallt be oedd yn mynd ymlaen, dwi dal im yn shwr

2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?
Swatch mawr o samplau filters lliw gan fy nhiwtor goleuo 8)

3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?
Bob riw 6-8 wythnos

4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?
Wythnosol fel arfar ar ddydd Sul, a mynd ir farchnad yn ystod yr wythnos, trio ngora osgoi morrisons, afiach

5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?
Dilyn, dwin nabod y ddinas reit dda erbyn wan a mar dynion yn rel charmers :winc:
o bosib fod o braidd yn amlwg tho a sanwn cal dim traffath gesio lle faswni, dwi AM fyw yna riw ddydd
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds

Re: Pump am y Penwythnos - 19/10/07

Postiogan krustysnaks » Gwe 19 Hyd 2007 4:00 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?
Ges i neges destun gan newyddiadurwraig ddiog yr wythnos diwetha yn gofyn am siarad gyda fi am 3 o'r gloch y bore. Ddim yn hapus.

2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?
Benthyciad myfyriwr.

3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?
Ddim yn aml iawn -- unwaith bob cwpwl o fisoedd. Dwi ddim yn or-hapus gyda'r toriad diwethaf (tair wythnos yn ôl), felly efallai af i am un arall yn weddol fuan.

4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?
Dwi fel arfer yn prynu ambell beth bach bob dydd, neu bob yn eilddydd.

5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?
I'r syrcas.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos - 19/10/07

Postiogan Macsen » Gwe 19 Hyd 2007 4:07 pm

krustysnaks a ddywedodd:Ges i neges destun gan newyddiadurwraig ddiog yr wythnos diwetha yn gofyn am siarad gyda fi am 3 o'r gloch y bore. Ddim yn hapus.

Doedd hi'n amlwg ddim mor ddiog a hynny os oedd hi fyny'n gweithio am 3yb.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Pump am y Penwythnos - 19/10/07

Postiogan Wierdo » Sad 20 Hyd 2007 10:19 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?
Yyym. Allaim cofio. Pan geshi hunllef mashwr. Mi oeni'n breuddwydio am wylanod yn fflapio yn fy ngwyneb. Mi lwyddish i (yn y freuddwyd wrth sgwrs) i ddal y fflipin peth i lawr yn erbyn fy ysgwydd ond dodd na neb yn helpu! Mi ddeffrish i yn gafal yn dynn iawn iawn yn fy ysgwydd.

casau gwylanod.

2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?
Sneb yn rhoi dim byd i fi...

llyfr gin nghariad dwin meddwl

3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?
Rhyw 2waith y flwyddyn ballu

4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?
Bob wthosish

5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?
Lerpwl. I dy fy nghariad yno. Man neis, mana lot o siopa a chwmni da.
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Re: Pump am y Penwythnos - 19/10/07

Postiogan Manon » Sad 20 Hyd 2007 10:56 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?
Nesh i ddeffro neithiwr yn hollol convinced bod y bys mawr 'na oedd ar yr hysbysebion loteri ("it's yooooooou!") yn y stafell, yn pwyntio ata i. Prynu ticed amdani!

2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?
Nath Dad brynu sgwosh posh o deli Machynlleth i fi ddoe, a ges i flodfesychen gan ei gariad o, a hen gopis o Cambrensis gan Nain.

3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?
Tua bob dwy flynedd, ac fel arfer 'dwi'n gwneud o fy hun.

4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?
Ers symud ty, rywbeth neu'i gilydd bob dydd.

5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?
Bryncrug.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 19/10/07

Postiogan Sili » Sad 20 Hyd 2007 12:37 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?
Y cariad 'cw yn chwyrnu cysgu neithiwr :?

2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?
Tag i ddal fy ngherdyn NHS yn ei le. Ddim y freebie mwyaf cyffrous erioed, ma rhaid cyfaddef...

3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?
Heb neud ers cychwyn yr Haf erbyn hyn, a dwi'm yn bwriadu gneud chwaith nes ma myddar yn dychryn wedi mi ddychwelyd adref tro nesaf a cynnig talu.

4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?
Dydwi ddim ar hyn o bryd gan mod i'n gweithio gymaint o oria. Ma'r cyd-lletywraig yn gneud y siopa i gyd a minna'n ei thalu wedyn.

5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?
I Aber at Wierdo a'i soffa braf siwr iawn!
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron