Tudalen 2 o 2

Re: Pump am y Penwythnos - 19/10/07

PostioPostiwyd: Sad 20 Hyd 2007 12:42 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?
Pwy nosweth. Y gath yn rhoi ei bawen yn 'y ngheg i yn mynnu cael ei fwydo.

2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?
Enilles i gopi o Half Nelson mewn cystadleuaeth S&S.

3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?
Bob ryw fis, gyda fy nghlippers fy hun.

4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?
Gweddol aml. Newydd ddod nol o'r farchnad fel mae'n digwydd, gyda chynhwysion cawl i bobl sy'n dod draw heno i wylio arwyr glan De Affrica yn trechu lluoedd Orcs Lloegr.

5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?
I Ffrainc, fel Stephen Fry.

Re: Pump am y Penwythnos - 19/10/07

PostioPostiwyd: Sad 20 Hyd 2007 4:44 pm
gan Jon Bon Jela
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?
Wel mae cloc y corff braidd yn ffwcd ar hyn o bryd, felly dwi'n mynd i gysgu i lais Sarah Kennedy ar Radio 2. Trist.
2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?
Cachlwyth o anrhegion wrth bobl am fy mhen-blwydd yr wythnos diwethaf.
3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?
Golchi 'ngwallt bob 6 niwrnod, ei dorri bob 6 wythnos.
4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?
Bob nos Lun.
5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?[/quote]
Harlech/Canada

Re: Pump am y Penwythnos - 19/10/07

PostioPostiwyd: Sad 20 Hyd 2007 5:10 pm
gan Ioan_Gwil
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?

nos iau am bo na riw dickheads isho dod mewn i stafell uni fi i watchad forest gump!

2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?

can o lager gan ffrind

3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?

Unwaith bob ryw fis

4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?

dwywaith yr wythnos (unwaith i ddechrau a wedyn yr ail dro i nol petha dwi di anghfoio' tro cyntaf!)

5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?

llundain i neud fy ffortiwn

Re: Pump am y Penwythnos - 19/10/07

PostioPostiwyd: Sad 20 Hyd 2007 5:17 pm
gan ceribethlem
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?Neithiwr, wedi yfed dau botel o win, ac yn marw ishe pi-pi.

2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?
Tocynne am ddim i weld Day Watch, ffilm Rwssaidd gwych am vampires aballu.

3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?
Ma clippers gyda fi, felly eillio lawr i radd un neu ddau, wedi aros tan bod e'n troi'n mes gan amla.

4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?
Prynu man bethe dwy neu dair gwaith yr wythnos. Pethe fresh yn neisach.

5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?
I'r dafarn, wedyn y siop kebabs.

PostioPostiwyd: Sad 20 Hyd 2007 6:02 pm
gan Chip
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?
alarm cloc pob bore wythnos, am ysgol
2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?
keyrings, crys t, calendar, pen, watch, clock o bwrdd y iaith :rolio:
3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?
pob dau fis
4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?
bron byth
5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?
lochtyn. i posgota

PostioPostiwyd: Sul 21 Hyd 2007 1:38 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?
dwi di mynd mewn i habit o ddeffro bob nos yn yr wthnos tua'r 3 ma... codi am 6
2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?
ymmm, beiros a pensils dydd gwener
3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?
dim digon aml... trio'i dyfu o ar y funud... hasl
4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?
bron bob dydd... dwi wasdad yn anghofio nol petha llu dwi'n goro mynd i rwla i nol bwyd byth a hefyd!
5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?
werddon...