Tudalen 1 o 2

Pump am y Penwythnos - 26/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 26 Hyd 2007 10:20 am
gan Dwlwen
1. Losin neu lanast (trick or treat) - p’un fyddwch chi’n ei roi?
2. Calan gaeaf, neu ch’lennig - p'un sy' orau 'da chi?
3. Sut ‘ych chi’n cadw’n gynnes yn y tywydd oer ‘ma?
4. Oes gyda chi hoff gân oddiar hysbyseb?
5. Ble mae Gwahanglwyf Dros Grist, a pam nag yw e wedi sgwennu 'pump am y penwythnos' ers deufis?

Re: Pump am y Penwythnos - 26/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 26 Hyd 2007 10:49 am
gan Hogyn o Rachub
1. Losin neu lanast (trick or treat) - p’un fyddwch chi’n ei roi?

Wyau a blawd dros ben y ffycars

2. Calan gaeaf, neu ch’lennig - p'un sy' orau 'da chi?

'Run. Tai'm yn un o ddathlu.

3. Sut ‘ych chi’n cadw’n gynnes yn y tywydd oer ‘ma?

Rhoi'r tân ymlaen - neu rhoi hwdi arnodd.

4. Oes gyda chi hoff gân oddiar hysbyseb?

Dim felly, ond pan oeddwn fachgen roeddwn i'n hoff o gân John Williams Windows ar Marcher Coast FM.

5. Ble mae Gwahanglwyf Dros Grist, a pam nag yw e wedi sgwennu 'pump am y penwythnos' ers deufis?

Meh. Dwnim.

Re: Pump am y Penwythnos - 26/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 26 Hyd 2007 11:05 am
gan Dan Dean
1. Losin neu lanast (trick or treat) - p’un fyddwch chi’n ei roi?
Dybyl wami - losin llawn anthrax i achosi llanast.

2. Calan gaeaf, neu ch’lennig - p'un sy' orau 'da chi?
Ym (twp) be di ch'lennig? Is it wewsh?

3. Sut ‘ych chi’n cadw’n gynnes yn y tywydd oer ‘ma?
Gwres.

Richie ar Bottom wrth 'Mr Gasman' a ddywedodd:We make love. No no, not together! On our own...


4. Oes gyda chi hoff gân oddiar hysbyseb?
Gimmie Shelter gan Rolling Stones ar hysbyseb RAC 'stalwm. Blynyddoedd cyn i mi glywad y gan yn iawn.

5. Ble mae Gwahanglwyf Dros Grist, a pam nag yw e wedi sgwennu 'pump am y penwythnos' ers deufis?
Rhy brysur yn ei swydd newydd fel pimp ar shifft benwythnos yn Grangetown sw ni yn feddwl.

Re: Pump am y Penwythnos - 26/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 26 Hyd 2007 11:17 am
gan ceribethlem
1. Losin neu lanast (trick or treat) - p’un fyddwch chi’n ei roi?
Dim un ohonynt a bod yn onest. Fi'n mynd lawr y dafarn i osgoi'r helynt!

2. Calan gaeaf, neu ch’lennig - p'un sy' orau 'da chi?
Ddim yn cymryd rhyw lot o ystyrieth o'r un ohonynt. Mae Calan Gaeaf wedi troi'n Americanaidd iawn, tra bod "New Year's" wedi herwgipio calennig i bob pwrpas.

3. Sut ‘ych chi’n cadw’n gynnes yn y tywydd oer ‘ma?
Gorwedd ar y soffa gyda duvet drosto fi. Lot neisach na'r gwres canolig. Gwres yn dod mlaen os oes gyda fi waith i'w wneud.

4. Oes gyda chi hoff gân oddiar hysbyseb?
Byth yn cymryd sylw o hysbysebion, felly sdim syniad gyda fi pa ganeuon sydd ar gael. Fi'n cofio'r "The Joke" gan y Steve Miller Band bant o hysbyseb Levis blynyddoedd yn ol. O'n i'n lico hwnna. (nodyn diddorol - lot o bobl yn meddwl mae "Space Cowboy" odd enw'r gan.

5. Ble mae Gwahanglwyf Dros Grist, a pam nag yw e wedi sgwennu 'pump am y penwythnos' ers deufis?
Mae e'n parhau i alaru ar ol i Gareth "Gyppo" Jenkins gael ei ddiswyddo.

Re: Pump am y Penwythnos - 26/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 26 Hyd 2007 12:11 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
1. Losin neu lanast (trick or treat) - p’un fyddwch chi’n ei roi?
Bocs o Roses... gyda bom ynddo fe. Fi'n hoff o'r syniad o gyfuniad.

2. Calan gaeaf, neu ch’lennig - p'un sy' orau 'da chi?
Calan Gaeaf. S'dim digon yn digwydd adeg Calennig.

3. Sut ‘ych chi’n cadw’n gynnes yn y tywydd oer ‘ma?
Het wen ar fy mhen a dwy goes bren.

4. Oes gyda chi hoff gân oddiar hysbyseb?
Y gân 'na oedd ar yr hysbyseb Orange sbel nôl... Oliver Hardy yn canu Let Me Call You Sweetheart.

5. Ble mae Gwahanglwyf Dros Grist, a pam nag yw e wedi sgwennu 'pump am y penwythnos' ers deufis?
Meh.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Hyd 2007 12:56 pm
gan Cymro13
1. Losin neu lanast (trick or treat) - p’un fyddwch chi’n ei roi?

Llanast ;-)

2. Calan gaeaf, neu ch’lennig - p'un sy' orau 'da chi?

Calan Gaeaf - sneb yn rhoi ch'lennig bellach

3. Sut ‘ych chi’n cadw’n gynnes yn y tywydd oer ‘ma?

Siwmper cynnes dan fy nghot

4. Oes gyda chi hoff gân oddiar hysbyseb?

na

5. Ble mae Gwahanglwyf Dros Grist, a pam nag yw e wedi sgwennu 'pump am y penwythnos' ers deufis?
duno

Re: Pump am y Penwythnos - 26/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 26 Hyd 2007 1:18 pm
gan joni
1. Losin neu lanast (trick or treat) - p’un fyddwch chi’n ei roi?
Sai'n ateb y drws fel arfer.
2. Calan gaeaf, neu ch’lennig - p'un sy' orau 'da chi?
Dim un rili. Fi dal yn cael punt o g'lennig o mamgu, so wnai weud hwnna.
3. Sut ‘ych chi’n cadw’n gynnes yn y tywydd oer ‘ma?
troi'r gwres arno. Neu gwisgo'n gynnes. Ma'n itha syml...
4. Oes gyda chi hoff gân oddiar hysbyseb?
ar hyn o bryd yr un sy'n mynd...ah ah ah ah, ah ah ah ah aaah-a...off yr hysbyseb lloyds tsb.
5. Ble mae Gwahanglwyf Dros Grist, a pam nag yw e wedi sgwennu 'pump am y penwythnos' ers deufis?
Ma fe yn ei elfen.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Hyd 2007 2:07 pm
gan khmer hun
Cymro13 a ddywedodd:2. Calan gaeaf, neu ch’lennig - p'un sy' orau 'da chi?
Calan Gaeaf - sneb yn rhoi ch'lennig bellach


Hwnna yw'r sylw mwya' di-daro ac anfwriadol ddigalon wy wedi'i glywed ers sbel.

Maen nhw'n dal i hela Clennig mewn rhannau o Sir Aberteifi a hir y parhaed. Call me old fashioned.

Re: Pump am y Penwythnos - 26/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 26 Hyd 2007 2:10 pm
gan Jeni Wine
1. Losin neu lanast (trick or treat) - p’un fyddwch chi’n ei roi?
Da-das.

2. Calan gaeaf, neu ch’lennig - p'un sy' orau 'da chi?
Calennig

3. Sut ‘ych chi’n cadw’n gynnes yn y tywydd oer ‘ma?
Gwres.

4. Oes gyda chi hoff gân oddiar hysbyseb?
Oes.

5. Ble mae Gwahanglwyf Dros Grist, a pam nag yw e wedi sgwennu 'pump am y penwythnos' ers deufis?
Dwmbo.

Re: Pump am y Penwythnos - 26/10/07

PostioPostiwyd: Gwe 26 Hyd 2007 2:16 pm
gan Jeni Wine
a rwan dwi am drio atab mewn ffordd fydd yn neud i mi swnio fatha person diddorol

1. Losin neu lanast (trick or treat) - p’un fyddwch chi’n ei roi?
Ho ho ho, dwi'n cofio un tro pan o'n i'n hogan bach... acshyli, na, sgenaim mynadd.
Dwi'm yn meiddio rhoi afal/oren i blant Llan, cofn iddyn nhw chwara nocdors arnan ni bob dydd am weddill f'oes, felly dwi'n ffendio'n hun yn rhoi newid man iddyn nhw. Nes nad oes gen i ddim newid man ar ol, wedyn dwi'n goro rhoi ffiffti-pis a punnoedd iddyn nhw : ofn :

2. Calan gaeaf, neu ch’lennig - p'un sy' orau 'da chi?
Calennig achos ma na deimlad fresh, newydd sbon danlli grai iddo fo. Neu ella na'r cyffuriau yn dal i fod yn y system ers y noson gynt ydi hynna.

3. Sut ‘ych chi’n cadw’n gynnes yn y tywydd oer ‘ma?
Ciw rant am pa mor ffwcedig o ddrud ydi olew.

4. Oes gyda chi hoff gân oddiar hysbyseb?
Dwi'm yn ffan o hysbysebion achos mae nhw'n difetha caneuon, ond dwi yn licio 'Just Another Diamond Day' Vashti Bunyan (hysbyseb vodafone?) a 'Aint Got No/I Got Life' Nina Simone ar yr hysbyseb Muller na.

5. Ble mae Gwahanglwyf Dros Grist, a pam nag yw e wedi sgwennu 'pump am y penwythnos' ers deufis?
Gwerthu ei geilliau i Gymdeithas y Deillion