Peidio a Phrynu dros y penwythnos...?

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Peidio a Phrynu dros y penwythnos...?

Postiogan Dwlwen » Gwe 23 Tach 2007 5:00 pm

Fory yw Buy Nothing Day - sy'n annog pobl i beidio a phrynu unrhywbeth, am un diwrnod, er mwyn gwneud safiad yn erbyn diwylliant prynu ein cymdeithas. Felly...

1. Fedrech chi bara' diwrnod heb brynu unrhywbeth?
2. Faint o arian wnaethoch chi wario heddiw?
3. Ai ffactorau fel yr amgylchedd/safonau gwaith a chyflog, yntai cost sydd bennaf wrth i chi brynu nwyddau?
4. Ydy'r pethau gorau mewn bywyd am ddim?
5. Buy Nothing Day: stynt i'r cyfryngau yntai modd dilys o newid y drefn?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Peidio a Phrynu dros y penwythnos...?

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 23 Tach 2007 5:51 pm

1. Fedrech chi bara' diwrnod heb brynu unrhywbeth?

Byddwn i'n gallu yn hawdd.

2. Faint o arian wnaethoch chi wario heddiw?

Wel, dw i 'di gwario tua £4 ar fy nghinio ac wedi rhoi £10 ar fy ffon. A chael paced o ffags ac mae gwin coch yn dwyn fy mryd heno...

3. Ai ffactorau fel yr amgylchedd/safonau gwaith a chyflog, yntai cost sydd bennaf wrth i chi brynu nwyddau?

Cost, i fod yn gwbl onast, er os ca'i gyfle mi fyddaf yn prynu cynnyrch lleol/Cymreig.

4. Ydy'r pethau gorau mewn bywyd am ddim?

Nadi.

5. Buy Nothing Day: stynt i'r cyfryngau yntai modd dilys o newid y drefn?

Stynt. Eniwe, ar ddiwrnod rygbi rhyngwladol? Dim cyfla!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Peidio a Phrynu dros y penwythnos...?

Postiogan Chip » Gwe 23 Tach 2007 6:30 pm

1. Fedrech chi bara' diwrnod heb brynu unrhywbeth?
Allai ond dim fori achos ma angen i mi prynnu dillad ac ati am gwylie fi i CANADA!

2. Faint o arian wnaethoch chi wario heddiw?
£1

3. Ai ffactorau fel yr amgylchedd/safonau gwaith a chyflog, yntai cost sydd bennaf wrth i chi brynu nwyddau?
Dylai, ond na, beth bynag sy'n siep ac yn ffitio rhan amlaf.

4. Ydy'r pethau gorau mewn bywyd am ddim?
Ydy. Oni bai dy fod yn Madona

5. Buy Nothing Day: stynt i'r cyfryngau yntai modd dilys o newid y drefn
Mae ddim mor gret a na, byddai well gen i mis o trial prynnu llai na nes ti mis dwetha, am fod fori yn unig yw'r diwrnod allai mynd i siopa.
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Re: Peidio a Phrynu dros y penwythnos...?

Postiogan anffodus » Gwe 23 Tach 2007 7:00 pm

1. Fedrech chi bara' diwrnod heb brynu unrhywbeth?
Gallwn. Hawdd.

2. Faint o arian wnaethoch chi wario heddiw?
£1.85 am ginio

3. Ai ffactorau fel yr amgylchedd/safonau gwaith a chyflog, yntai cost sydd bennaf wrth i chi brynu nwyddau?
Cost.

4. Ydy'r pethau gorau mewn bywyd am ddim?
Ydyn, bendant.

5. Buy Nothing Day: stynt i'r cyfryngau yntai modd dilys o newid y drefn?
Stynt. Faint o bobl neith beidio prynu wbath fory jyst oherwydd y dwrnod arbennig ma? Ag i newid y drefn ma angan mwy nag un dwrnod o bobl yn peidio prynu wbath.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Postiogan Positif80 » Gwe 23 Tach 2007 7:37 pm

1. Fedrech chi bara' diwrnod heb brynu unrhywbeth?

Fedraf.

2. Faint o arian wnaethoch chi wario heddiw?


£3.50

3. Ai ffactorau fel yr amgylchedd/safonau gwaith a chyflog, yntai cost sydd bennaf wrth i chi brynu nwyddau?

Cost yn unig.

4. Ydy'r pethau gorau mewn bywyd am ddim?
Roedd Luther a Janet yn anghywir.

5. Buy Nothing Day: stynt i'r cyfryngau yntai modd dilys o newid y drefn

Stynt gwirion fel World Hedgehog Awareness Week ayyb.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Peidio a Phrynu dros y penwythnos...?

Postiogan Geraint » Gwe 23 Tach 2007 9:32 pm

1. Fedrech chi bara' diwrnod heb brynu unrhywbeth?
Baswn, ond prin iawyn y byddai yn gwneud, rhaid cael papur, petrol, bwyd neu cwrw ar rhyw bwynt

2. Faint o arian wnaethoch chi wario heddiw?

Chips, curry sauce a sosej = £2.50
Petrol = £11.74

3. Ai ffactorau fel yr amgylchedd/safonau gwaith a chyflog, yntai cost sydd bennaf wrth i chi brynu nwyddau?
Safon yw'r pwysicaf i mi, ac faint o safon chi'n cael am y pris (ydi hwnna'n swnio fel MLlW? ).

4. Ydy'r pethau gorau mewn bywyd am ddim?
Wel ydynt, sef cwmniaeth a chariad :seiclops:

5. Buy Nothing Day: stynt i'r cyfryngau yntai modd dilys o newid y drefn

bag o bananas ffor a pawnd, bagobananas!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Re: Peidio a Phrynu dros y penwythnos...?

Postiogan krustysnaks » Sad 24 Tach 2007 1:56 am

1. Fedrech chi bara' diwrnod heb brynu unrhywbeth?
Dwi'n prynu bwyd bron iawn bob dydd, felly na, mwy na thebyg.

2. Faint o arian wnaethoch chi wario heddiw?
Brecwast, cinio, swper, darn o siocled 'tywyll', tair gem o pwl, botel o win, pâr o esgidiau, cerdyn pen blwydd, stamp, papur newydd = tua £60

3. Ai ffactorau fel yr amgylchedd/safonau gwaith a chyflog, yntai cost sydd bennaf wrth i chi brynu nwyddau?
Pris y cynnyrch o'i gymharu gyda'i safon. Dwi'n prynu dillad o H+M a Gap a coffi gan Nestle.

4. Ydy'r pethau gorau mewn bywyd am ddim?
Ydyn, ond mae peth arian yn helpu...

5. Buy Nothing Day: stynt i'r cyfryngau yntai modd dilys o newid y drefn?
Stynt aneffeithiol a dibwys.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Peidio a Phrynu dros y penwythnos...?

Postiogan tafod_bach » Sad 24 Tach 2007 4:38 pm

1. Fedrech chi bara' diwrnod heb brynu unrhywbeth?
nesi fe ddoe ond fi yn gorfod dwrdio fy hun weithie

2. Faint o arian wnaethoch chi wario heddiw?
20 Lari (tua 8£) am ginio i ddau.

3. Ai ffactorau fel yr amgylchedd/safonau gwaith a chyflog, yntai cost sydd bennaf wrth i chi brynu nwyddau?
yyyyym, y cynta in theory, ond ma "achos bod e mor sbarcli" hefyd yn gweithio.

4. Ydy'r pethau gorau mewn bywyd am ddim?
ddim gan amlaf. ma wastad angen rhyw fath o liwb arna i. metafforicli spicin.

5. Buy Nothing Day: stynt i'r cyfryngau yntai modd dilys o newid y drefn?
dwi di bod yn 'gneud' buy nothing day (yn y ffordd mwya half arsed, peidio gadal y ty stylee) ers rhai blynyddoedd pan mae;n dod rownd. mae;n rhoi cyfle i feddwl ond dwim di neud dim gwahaniaeth mawr ir byd o fy nghwmpas... flwyddyn nesa ella?
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan Mali » Sul 25 Tach 2007 12:49 am

1. Fedrech chi bara' diwrnod heb brynu unrhywbeth?
Mae'n debyg , ond ddim yfory gan fod gen i ffrindiau yn dod draw i swper !
2. Faint o arian wnaethoch chi wario heddiw?
Dim....'roeddwn i'n gweithio .
3. Ai ffactorau fel yr amgylchedd/safonau gwaith a chyflog, yntai cost sydd bennaf wrth i chi brynu nwyddau?
Mi fyddai'n trio prynu bwydydd sydd wedi eu cynhyrchu'n lleol. Mae pris yn bwysig hefyd...weithiau'n cael dau am bris un ayb.
4. Ydy'r pethau gorau mewn bywyd am ddim?
Mae na nifer ohonynt oes ....Machlud haul , golygfeydd godidog B.C , mynd am dro , cwmpeini ffrindiau , cwtch i'r cathod ayb
5. Buy Nothing Day: stynt i'r cyfryngau yntai modd dilys o newid y drefn?
Stynt yn sicr , yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn . :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada


Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron