Tudalen 1 o 3

Pump am y Nadolig

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 11:01 am
gan Dwlwen
Cwestiynnau gan dewi_o

1. Hoff ffilm Nadoligaidd.
2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.
3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.
4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)
5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.

Re: Pump am y Nadolig

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 11:54 am
gan Hogyn o Rachub
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.

Ych, dw i'n CASAU ffilmiau Nadoligaidd!

2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.

I fod yn onest dw i'm yn un am wylio teledu 'Dolig, a dw i methu meddwl am ddim y byddwn i'n neidio ar y cyfle i'w gweld.

3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.

Carped hud, a drodd allan i fod yn garped.

4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)

Blwyddyn o fwyd a gwin da ac mi fydda i'n hapus; felly talebau Marks & Sparks? Blydi hel mae hwnnw'n dangos bo fi'n mynd yn hen. Dw i newydd gael y DVD player i weithio acw, cofiwch, felly byddai DVD yn dda. Neith tro.

5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.

Gwydd, yn bendant, yn sleim saim i gyd efo grefi. Er, tai'm dweud na i'r sosejys bach wedi'u lapio mewn bacwn! Miam.

Re: Pump am y Nadolig

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 12:02 pm
gan docito
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.

Bad santa

2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.

father ted xmas special

3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.

scalextics

4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)

car

5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.

5 fath gwahanol o stwffin

Re: Pump am y Nadolig

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 12:51 pm
gan krustysnaks
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.
Miracle on 34th Street gwreiddiol.

2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.
Does dim gwell na'r Office Christmas Special. Only You gan Yazoo yn canu ... Dawn yn cerdded drwy'r drws yn y pellter ...

3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.
Bwrdd snwcer bach. Ges i sioc anferth wrth gerdded i mewn i'r stafell fyw peth cynta'n y bore.

4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)
Hoffen i fod yn hollol frivolous a cael Nintendo Wii.

5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.
Cig sosej. Dwi'n bwyta llwyth o'r stwff adeg Nadolig. Dwi hefyd yn hoff o'r brechdanau Nadoligaidd yna sy'n troi fyny mewn llefydd Pret- ac Eat-aidd.

Re: Pump am y Nadolig

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 1:09 pm
gan Macsen
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.
The Nightmare Before Christmas.
2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.
Mae nhw gyd yn eitha crap.
3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.
Commodore 64.
4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)
Rywun i rentio'r stafell ola yn fy nhy!
5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.
Pwdin Dolig! mmmmmm

Re: Pump am y Nadolig

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 1:17 pm
gan Jon Bon Jela
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.
Home Alone. Oes rhywun wedi ei gwylio hi yn ddiweddar? O'n i'n synnu at bwy mor hilariously treisgar yw'r ffilm.
2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.
Casau teledu Nadolig.
3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.
Rhyw nonsens plastig Fisher Price, siwr a fod.
4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)
Car
5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.[/quote]
Nut Roast

Re: Pump am y Nadolig

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 1:49 pm
gan Sili
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.
The Nightmare Before Christmas. O bosib un o fy hoff ffilmiau erioed.

2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.
Rhaglen Nadolig Blackadder.

3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.
Dwi'n cofio cal helmet beic gan Santa Clos un Nadolig. Odd chydig yn rhyfedd o gofio nad oedd gennai feic ar y pryd (hiwmor creulon y rhieni 'cw ylwch...) Nath y ddau aros tan gyda'r nos a minnau bron a chrio drwy'r dydd cyn datgelu'r beic newydd i mi odd wedi ei guddio yn y garafan, damia nhw. Hwnnw odd y gora dwi'n ama.

4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)
Cheque am chydig filoedd i gyfro faint waris i ar y blydi telyn 'letrig 'na gesi flwyddyn yma a minna'n methu ffroddio hi o gwbwl :?

5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.
Baileys. Dwi di gweithio'n ffordd drwy nifer o boteli'n barod yn y mis dwytha gan ddefnyddio'r esgus fod hi'n Ddolig :wps:

Re: Pump am y Nadolig

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 1:50 pm
gan Llefenni
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.

It's a Wonderful Life - o mai God y dagrau. Bob. Blydi. Tro! :crio: :crio: :crio:

2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.

Dwi'n eilio: Father Ted Christmas Special - gwychbeth :D

3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.

N64 - Mae o DAL yn cadw lle sanctaidd yn tŷ ni ar gyfer nostalgia pob Dolig!

4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)

Ym, ar y foment hon, swni'n lecio'r gallu i beidio byth ac yfed eto, ond dal i joio nosweithiau allan a cael blasu Grimbergen.

Yn fwy cyffredinol, bywyd hapus i fi a'r cariad a'r teulu i gyd :D

5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.

Tyffi - ond dwi'n credu na Stilton sy'n ennill ar hyn o bryd, iam iam!

Re: Pump am y Nadolig

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 2:25 pm
gan ceribethlem
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.
Star Wars, odd e mlan bob Nadolig pan o'n i'n grwtyn bach

2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.
Dim byd fel 'ny.

3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.
AT-ST Scout walker
Delwedd

4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)
Death Star Lego
Delwedd

5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.
Mins Peis

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 2:51 pm
gan Jemeima Mop
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.
Santa Clos Ddy Mwfi

2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.
Ma'r teli'n y wordrob

3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.
Siglen yn yr ardd. Waw!

4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)
Cwch

5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.
Baileys a rhew. A sgewyll.