Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 3:37 pm
gan Chip
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.
Great escape
2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.
Y cemdiau sydd arno fel little britain
3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.
set trenau cafodd ei wneud o pren gan fy nhadcu gyda traciau wedi ei wneud hefyd!
4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)
Cot dwym (dwi yn canada ar y foment :D )
5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.
y selsig wedi ei lapio yn bacwn

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 4:43 pm
gan Cacamwri
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.
Sai'n un am ffilms...

2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.
Nai basio ar hwn eto - sdim amser gen i i wotsho rwtsh, ac ail-ddarllediadau s4c.

3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.
Beic, a bocs tocyn care bears pan oeddwn i'n 5.

4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)
Ty mawr, swanc heb gorynnod; rhywun i llnau'r ty bob wythnos; a noson dda o gwsg.

5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.
Rhaid cael baileys gyda ia dros yr wyl, a hefyd fi'n ffan o sbrowts, ai fi di'r unig un?!

Re: Pump am y Nadolig

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 5:27 pm
gan Dwlwen
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.
Harvey.

2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.
Dim ffefrynau fel'nny... Sda fi rhywfant o obaith y bydd rhifynau Dolig TV Burp a Screen Wipe yn itha difyr.

3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.
Rhywfath o My Little Pony Nursery :? Ges i ddol Rwsieg eitha cwl un blwyddyn 'fyd.

4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)
Cwtsh gan y mister (long distance welwch chi.)

5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.
Siocled, a lot ohono fe.

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 8:05 pm
gan dewi_o
1. Hoff ffilm Nadoligaidd. - Scrooged

2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.
Only Fools and Horses - Jolly Boys Outing

3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn. - Bwrdd Snwcer

4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.) - BMW

5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig. - Twrci a stwffing gyda chipolatas

Re: Pump am y Nadolig

PostioPostiwyd: Mer 19 Rhag 2007 3:31 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.
y dyn nath ddwyn y dolig.
2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.
only fools and horses
3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.
slej.
4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)
ty mawr braf yn y wlad.
5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.
menyn melys. mmmmmm

Re: Pump am y Nadolig

PostioPostiwyd: Mer 19 Rhag 2007 3:35 pm
gan Manon
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.
Polar Express!

2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.
'Dwi'n edrach mlaen at Extras.

3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.
Babi dol oedd bron 'run maint a fi!

4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)
Y ty 'da ni'n trio'i brynu, a gwres canolog a chegin newydd a double glazing ynddo fo plis!

5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.
Y cinio wrth gwrs! Cwcio i ddeg 'leni... Gobeithio bydd stwffin ar ol i mi...

Re: Pump am y Nadolig

PostioPostiwyd: Mer 19 Rhag 2007 4:08 pm
gan Rhodri Nwdls
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.
Trading Places neu Gremlins...wythdegatastig
2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.
Meh
3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.
ZX Spectrum 128k+2 - Och! Y Cyffro! Am ryw reswm dwi dal yn cofio ei arogl wrth agor y bocs. A'r tensiwn annioddefol wrth loadio'r gêm gynta. Oedd y skateboard glas yn agos iawn 'fyd...
4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)
Wii, neu falla'r complît Criterion Collection efo sinema gartref hi-spec a hannar blwyddyn off i'w gwylio nhw os dwi'n cael bod yn ecstrafagynt)
5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.
Ham di ferwi mewn coca cola yn y ffrij ar gyfer pigo a gneud brechdanna efo mwstard posh. Mmm. Neu lond bocs o gawsus hannar-byw ar gracyrs amrywiol.

Re: Pump am y Nadolig

PostioPostiwyd: Iau 20 Rhag 2007 10:28 am
gan khmer hun
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.
Grito'r Hewl i Fethlehem.

2. Hoff sitcom neu raglen deledu dros y dolig.
Father Ted Christmas Special. Rhaid watsio'r olygfa yn y Lingerie department bob dydd tan Calan.

3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.
Beic pinc ar ganol llawr y gegin. A FX Phaser - oedd pawb yn yr ysgol yn jelys ac eisie un. A rollerskates piws. Amlwg bo fi'n 80s kid.

4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)
i-pod. fi'n slo iawn ar y gadgets ma.

5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.
nut roast mam. a prosecco.

PostioPostiwyd: Iau 20 Rhag 2007 11:26 am
gan Cymro13
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.

Scrooge

2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.

Wastad yn hoffi Only Fools and Horses Christmas Specials

3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.

Tren Trydan

4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)

Senedd Iawn i Gymru, Deddf Iaith Newydd :winc:

5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.

Mulled Wine

Re: Pump am y Nadolig

PostioPostiwyd: Iau 20 Rhag 2007 1:43 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
1. Hoff ffilm Nadoligaidd.
It's a Wonderful Life.
newydd weld bod Llefenni wedi'i dewis i 'fyd. 'ans off!

2. Hoff sitcom neu rhaglen teledu dros y dolig.
Screenwipe Brooker neithiwr.

3. Hoff anrheg nadolig cawsoch yn blentyn.
Beic Grifter. Ie, Grifter.

4. Hoff anrheg hoffech nawr (arian ddim yn rhwystyr.)
Beic ffordd. Neu fwthyn bach ar lan y môr.

5. Hoff fwyd neu ddiod Nadolig.
Brechdanau twrci oer.