Tudalen 1 o 3

Pump am y Penwythnos - 11/1/08

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 4:26 pm
gan Dwlwen
'Nes i anghofio ei bod hi'n ddydd Gwener...

1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 7:14 pm
gan osian
1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Hm, torri lawr yng nghanol Ffrainc ar bnawn sadwrn... diom yn rwbath 'nathon' ni, ond mae o'n gofiadwy iawn!

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Do yn Llundain am ddwy noson pan oni'n 9 oed. dim ar ben fy hun.

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Dwy/two

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
Acen Llyn yn Gymraeg. Acen ogleddol yn Saesnag

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Gig maes b 'na yn Port

Re: Pump am y Penwythnos - 11/1/08

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 7:28 pm
gan Jaff-Bach
1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Plymio dan y rhew mewn llyn yn Ffrainc ddwy flynadd nol

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
do, unwaith yn madrid, a dwy waith yn Iwerddon

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Cymraeg, Saesnag, a Ffrangeg i safon lefel A

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
acen Blaenau/Meirionydd mewn Cymraeg debyg, acen ogleddol mewn saesnag, doni rioed di sylwi fodhi mor gryf tan ifi ddod i coleg

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Newydd brynu tocyn ddwyawr nol ar gyfar noson fawr yn yr undeb heno; dathlu ar ol aros fyny tan 3.30 bora ma i orffan fy mhortffolio! wwwwoop!

Re: Pump am y Penwythnos - 11/1/08

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 7:32 pm
gan cymro1170
1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Meddwi

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Do yn Iwerddon

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
3... Cymraeg, Saesneg a rwtsh

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
Cymraeg, acen Blaenau.. Saesneg, acen Saesneg.... dwmbo

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Howard Marks yn rhoi sgwrs yn Theatr Ardudwy

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 7:55 pm
gan bartiddu
1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Cofio anghofio sut yffach cyrhaeddom addre i Fila ar ol nosweth ar y rym yn Porthiwgal, oedd fy ngyfaill yn gyrru, a smo fe'n cofio 'fyd, o diar :wps:
2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Odi hen Leuandy yn Ffrainc yn cyfri?
3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Spïc tŵ spôcs
4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
Cymraeg fel Jacob Ellis, Saesneg fel..
5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Cymru 2 (3!) Eidal 1 8)

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 8:50 pm
gan Chip
1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Dog musho gyda huskies
2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
ydw yn eryri, lot
3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
cymraeg a saesneg
4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
gymraeg - dysgwr, saesneg - normal :?
5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
dal awyren yw peth dwetha dwi'n cofio, os allech chi ei alw'n digwyddiad

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 9:13 pm
gan Ari Brenin Cymru
1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Meddwi.

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Do, yn Galway a Dulyn.

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Cymraeg a Saesneg yn anffodus.

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
Cymraeg-gog, Saesneg-doji-nebyndallt.

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Ma'n siwr na gem Uwch Gynghrair Cymru rhwng Porthmadog a'r Drenewydd sadwrn dwytha.

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 9:27 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Dim byd erioed. Dw i'm yn licio mynd dramor.

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Do, ym Mhrag, Dulyn a Chaeredin a Ffrainc.

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Cymraeg a Saesneg a Ffrangeg sylfaenol.

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
Yn Gymraeg hollol acen gogledd-orllewin, ond ers i mi fyw yng Nghaerdydd mae fy acen Saesneg yn hawdd iawn gallu tueddu fod yn ddeheuol erbyn hyn, yn anffodus.

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Ym. O diar, wn i ddim. Sdalwm.

Re: Pump am y Penwythnos - 11/1/08

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 10:06 pm
gan krustysnaks
1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Gweld Martina Navratilova'n chwarae tenis un diwrnod a cwrdd â lot fawr iawn o 'selebs' y diwrnod wedyn yn New York (gweler Sboted)

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Do, Jugendherberge yn Awstria ac mewn mannau eraill.

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
2 yn dda, 2 yn olreit, 1 yn wael.

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
Cymraeg - dwy acen, i) o'r ysgol, eitha deheuol Aberystwythaidd, ii) adre, eitha gogleddol, dim lleoliad unigol. Saesneg - Cymreig-gogleddol-gyda-thueddiadau-home-counties-aidd-weithiau.

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Gem Chelsea vs Schalke yn y Champions League.

Re: Pump am y Penwythnos - 11/1/08

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ion 2008 10:36 pm
gan Manon
1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Gwylio morfilod yn Seland newydd.

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Do, wedi aros mewn lot o rai da ac un diawledig yn Nulyn lle 'roedd un o'r genod yn y dorm yn gweiddi allan ynganol y nos.

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
2.

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
Mae fy acen i'n dechra' troi rwan mod i wedi bod ym meirionnydd am 3 mis- lot o 'e's a deud lodes a ballu. Pan 'dwi'n siarad Saesneg, 'dwi'n howget go iawn.

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Spice Girls ym Manceinion ddiwedd y mis. Ieeeeei!