Tudalen 3 o 3

Re: Pump am y Penwythnos - 11/1/08

PostioPostiwyd: Sul 13 Ion 2008 1:35 pm
gan ceribethlem
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Tair.
Beth yw'r llall?

Re: Pump am y Penwythnos - 11/1/08

PostioPostiwyd: Sul 13 Ion 2008 3:51 pm
gan Hedd Gwynfor
ceribethlem a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Tair.
Beth yw'r llall?


Gwahanglwyf yw Llywydd y KLI! O ti ddim yn gwybod? :winc:

Re: Pump am y Penwythnos - 11/1/08

PostioPostiwyd: Sul 13 Ion 2008 5:45 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
ceribethlem a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Tair.
Beth yw'r llall?


Gwrth-Dwrceg, 'achan.

Re: Pump am y Penwythnos - 11/1/08

PostioPostiwyd: Sul 13 Ion 2008 8:42 pm
gan ceribethlem
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Tair.
Beth yw'r llall?


Gwahanglwyf yw Llywydd y KLI! O ti ddim yn gwybod? :winc:

Wyt ti'n trial gweud mai'r Gwahanglwyf yw Dr Lawrence Schoen, Ph.D.
Cyfarwyddwr y KLI?

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Tair.
Beth yw'r llall?


Gwrth-Dwrceg, 'achan.

Onid Cymraeg neu Saesneg yw'r rheini? Iesgob, mae unrhyw un sy'n ddealladwy yn siarad Gwrth-Dwrceg. Bydd hwn yn golygu fod y mwyafrif (nid Byrmingham wrth reswm) o Saeson yn ddwy-ieithog. Fiddim yn hapus gyda'r syniad 'na gwboi.

PostioPostiwyd: Sul 13 Ion 2008 9:01 pm
gan Cacamwri
1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Colli fy sgidie tra ar wylie yn yr Alban cwpwl o fisoedd yn ol. Ro'n i'n gwisgo nhw ar y pryd, braidd yn pisd. Mewn priodas. Wps.

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Naddo

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Cymrag, Saesneg (o ryw fath) a Ffrangeg i safon lefel A.

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
Run peth a Hedd - acen Dyffryn Teifi yn y ddwy iaith. Ai sawnd ri-al Welshi in Inglish, iw now.

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Hmm, sa i'n cofio. Trist de?

Re: Pump am y Penwythnos - 11/1/08

PostioPostiwyd: Llun 14 Ion 2008 12:27 pm
gan Dwlwen
1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Mynd am hike fach yn groes dyffryn ym Matera, dilyn y llwybr rong, a diweddu lan yn dringo hwn mewn sgidiau anaddas.

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Os yw Lleiandy Barti Ddu yn cyfri, ddyle neuadd Eglwys yn Ne'r Eidal gyfri hefyd... Www, a rhyw hostel yn Greenwich.

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Cymraeg, English, Francais (dechau), ac Italiano (gwael.)

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
Cymrâg shir Gâr, and English like Richard Burton*. (*Ddim go iawn.)

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Gig Beirut yn ystod Swn.