Pump am y Penwythnos 25.1.2008

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos 25.1.2008

Postiogan Jaff-Bach » Sul 27 Ion 2008 11:26 am

1. Oes 'na unrhyw beth rydych chi'n teimlo'n euog amdano?
Cysgu mor hwyr bora ma a fina di gaddo i fin hun modi am neud lot o waith heddiw

2. A gawsoch chi gerdyn Santes Dwynwen heddi?
Naddo, ond lot o texts gan fy ffrindiau annwyl

3. Ydych chi wedi rhoi un (ahem) i rywun arall?
Na

4. Beth ydych chi moyn ei gyflawni heddi?
Sketchbook a siopa bwyd

5. Pwy yw'r person hoffech chi ei felltithio?
Matt fy flatmate, a gariodd fi adra ar ei gefn yn chwil nos wenar, wnaeth orffan yn y ddau onani yn disgyn fewn ir ffordd fawr. Ma'n ochor dde i yn scratches i gyd :ffeit:
'Ydi Myrddin ap Dafydd yn fab i Dafydd ap Gwilym?............'
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds

Re: Pump am y Penwythnos 25.1.2008

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Maw 29 Ion 2008 10:58 am

1. Oes 'na unrhyw beth rydych chi'n teimlo'n euog amdano?
gormod o lawar i'w henwi. weithia dwi'n teimlo'n euog am wastraffu gymaint o amsar ac egni yn teimlo'n euog.

2. A gawsoch chi gerdyn Santes Dwynwen heddi?
naddo. na bloda na phryd o fwyd rhamantus. bw.

3. Ydych chi wedi rhoi un (ahem) i rywun arall?
do, neshi neud un hyfryd allan o lipstic a phapur crep.... oedd o'n edrach yn neis, wir.

4. Beth ydych chi moyn ei gyflawni heddi?
gneud chydig o'r gwaith 'ma. clirio'r ty. teimlo'n fwy egniol.

5. Pwy yw'r person hoffech chi ei felltithio?
jorjo. melltith arnat, jorjo.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron