gan Sleepflower » Gwe 25 Ion 2008 12:46 pm
1. Oes 'na unrhyw beth rydych chi'n teimlo'n euog amdano?
Wes, ond teimlo dyle pobl eraill rhannu'r bai amdanynt hefyd.
2. A gawsoch chi gerdyn Santes Dwynwen heddi?
Naddo
3. Ydych chi wedi rhoi un (ahem) i rywun arall?
ibid.
(Sori, atebion eitha diflas. Penderfynais i fel adduned blwydd newydd i ddanfon un o bob cyn-gariad i weindio nhw lan, ond wnaeth fy ffrind i siarad fi mas o'r prosiect)
4. Beth ydych chi moyn ei gyflawni heddi?
Gwaith - dim byd. Fi'n disgwyl sawl person ddo nol ata'i, felly sdim byd lot alla'i wneud.
Hamdden - ffwtbol am 6, wedyn peint yn rywle siwr o fod. Fel arall, DVD a bach o waith ar y glyniadur.
5. Pwy yw'r person hoffech chi ei felltithio?
Gwir nawr, sai'n casau unrhywun. Odd un boi o Mach odd yn mynd mas i Aber ar nos Sadwrn pan oeddwn i'n Coleg gyda'r unig amcan o ddechre ffeit gyda fi a'n ffrindie. Tipyn o prat. Ond heb weld y boi ers ache, felly, wel neb.
* Gyda llaw, os rhywun yn gwbod shwt ddaiwl 'ma wneud bold, italics a url's ar y Maes-e-newydd-wedd 'ma?