Tudalen 1 o 3

Pump am y Penwythnos 1.2.08

PostioPostiwyd: Gwe 01 Chw 2008 11:27 am
gan Dwlwen
24 awr

1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

PostioPostiwyd: Gwe 01 Chw 2008 11:44 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Yr ysbyty mis dwetha.

2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
Tesco mawr ar Western Avenue a'r garej ar Heol y Gadeirlan. Falle'r lle pool ar y gyffordd fawr 'na ar bwys Ysbyty Dewi Sant 'fyd.

3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
Rhywbeth gwell nag effin Booze Brothers. Falle 'Smoked Salmon and Châteauneuf-du-Pape Sisters'.

4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Fwy nag unwaith. Y mwya' oedd tua 48 awr adeg Steddfod Llandeilo achos o'dd dim unman 'da fi i aros.

5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Beth ddigwyddodd i Gay Chat, 'na beth fi moyn gwbod.

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

PostioPostiwyd: Gwe 01 Chw 2008 11:47 am
gan Dwlwen
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Beth ddigwyddodd i Gay Chat, 'na beth fi moyn gwbod.

Seren aur os alli 'di fod yn arsed i ffeindio clip o Priest Chat neu bebynnag oedd y spoof ar Father Ted :D

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

PostioPostiwyd: Gwe 01 Chw 2008 12:12 pm
gan joni
1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Es i i Spar Aberystwyth ddim dachre'r wthnos.
2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
Dim yn fy mhentre i.
3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
Sai'n gwbod i fod yn onest. I fi'n dueddol o gysgu yn y nos, so sai'n gwel yr ystfa am lawer o wasanaethau fin-nos.
4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Do. Cwpl o weithie ar trips i lefydd. Cofio cael cystadleuaeth ar daith i Corc pan yn yr ysgol. Lwyddes i neud tua 28 awr cyn rhoi'r gore.
5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Naddo. Dwi'n rhy dynn i wario!

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

PostioPostiwyd: Gwe 01 Chw 2008 12:13 pm
gan Mihangel Macintosh
1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Pan o ni'n byw yng Nghaerdydd o ni arfer ymweld gyda'r Garej 24 awr Total ar waelod Heol y Gadeirlan yn weddol aml - oedd hyn cyn i fi ffeindio mas ei bod yn cefnogi'r regime milwrol yn Burma. Byth di bod nôl yna ers hynny. Nawr dwi ddim yn ysmygu bellach, dwi ddim angen mynd mas ganol nos i nôl sigartets, ond y tro diwethaf i fi fynd i rhywle ar agor 24 awr oedd i orsaf betrol i nôl brechdan ar ôl bod mewn gig ym Mangor

2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
Garej petrol ym Mangor, Tescos Bangor (ond nid ar Nos Sadwrn neu Sul), Garej petrol Porthmadog.
Gyda llaw os i chi ishe prynnu paned o goffi yn y 24 ym Mhorthmadog ar ôl 10pm mae e yn erbyn y gyfraith! Go iawn!

3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
Gwasnaeth radio dyb step Cymraeg.

4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Do sawl gwaith. Fy record oedd yn Sonar llynedd - 2 noson ar y trot heb winc o gwsg.
Unwaith nes i gysgu am 24 awr hefyd - diwrnod cyfan wedi ei gollu.

5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
As if!

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

PostioPostiwyd: Gwe 01 Chw 2008 12:13 pm
gan Wilfred
Dwlwen a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Beth ddigwyddodd i Gay Chat, 'na beth fi moyn gwbod.

Seren aur os alli 'di fod yn arsed i ffeindio clip o Priest Chat neu bebynnag oedd y spoof ar Father Ted :D


dyma fo

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

PostioPostiwyd: Gwe 01 Chw 2008 12:24 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Wilfred a ddywedodd:
Dwlwen a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Beth ddigwyddodd i Gay Chat, 'na beth fi moyn gwbod.

Seren aur os alli 'di fod yn arsed i ffeindio clip o Priest Chat neu bebynnag oedd y spoof ar Father Ted :D


dyma fo


Ars. Ddim yn cael gwylio hwnna yn y gwaith. "He he! Stoopid fookin priests!"

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

PostioPostiwyd: Gwe 01 Chw 2008 12:41 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Rhyw bythefnos yn ol

2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
ASDA ym Mae Caerdydd.

3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
Pizzas. Caru pizzas. Isho pizzas o hyd.

4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Iesgob do. Y tro hirach, a dw i'n cofio'n iawn, oedd trip rygbi i Iwerddon yn 2006 lle llwyddais i aros ar ddeffro am 38 awr.

5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Na.

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

PostioPostiwyd: Gwe 01 Chw 2008 12:58 pm
gan Rhodri Nwdls
1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Sbar 24 awr Aber
2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
Inn on the Pier!
3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
Mediator-ar-alw 24 awr - ar gyfer y ffraeo 4yb na sydd ddim yn gallu mynd un ffordd na'r llall heb i chwara droi'n chwerw...
4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Un o bleserau bywyd ydi gweld y wawr yn torri ar fore Sul.

Wedi clybio am tua bron i 48 awr yn Sydney nôl yn 2000. Dechrau tua 5 nos Sadwrn a mynd i gwely am 11yb dydd Llun. 8 clwb nos. Penwythnos i'w gofio. Nath fy ffrind hyd yn oed sgwennu erthygl amdano i gylchgrawn 3D Magazine, ac ma gennai dal y cyting!

Fyddai'n colli cwsg am resymau gwahanol iawn o Fai ymlaen...

5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Miss Millies MegaBite Meal Deal - rhedag allan ar ras i gael un o City Road.

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

PostioPostiwyd: Gwe 01 Chw 2008 1:46 pm
gan krustysnaks
1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Spar ar Terrace Road yn Aberystwyth, rhyw dair wythnos yn ôl.

2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
Does na DDIM siopau 24 awr yng Nghaer-grawnt! Mae'n ofnadwy! Ar ddydd Sul, does na nunlle ar agor ar ôl 5!

3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
Siop Spar sy'n Off-Licence yng nghanol y dre.

4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Do, lot fawr iawn o weithiau yn gwylio chwaraeon o dramor ar y teledu ac yn gwneud gwaith Coleg.

5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Haha, dwi ddim wedi bod yn ddigon delirious ar ôl aros i fyny i wneud hynny.