Pump am y Penwythnos 1.2.08

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

Postiogan Dwlwen » Gwe 01 Chw 2008 3:22 pm

1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Allai ddim cofio... Garej Heol y Gareirlan oedd hi siwr o fod.

2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
Y garej, tesco extra, boozeline, y lle pool - a nagyw'r fantasy lounge yn 24 awr? (yn amlwg sai erioed 'di bod...)

3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
Siocled a booze sy' ishe gan amla, a ma rheini ar gael - ond fyddei'n hadi cael rhyun i nol nhw drosta i.

4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Do, sawl gwaith, ond ddim ers sbel. Maes awyr yn yr Eidal oedd y tro diwetha - creepy iawn.

5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Nyp - ond odd fenyw ar X-ray wthnos 'ma wariodd tua £4000 mewn 2 ddiwrnod, bechod.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

Postiogan ceribethlem » Gwe 01 Chw 2008 4:00 pm

1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Tescos 24 yn Pontardawe
2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
Tescos 24 yn Pontardawe
3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
Tabled gwrth hangover 24 awr
4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Do, ar nifer i seshwn
5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Naddo, diolch byth.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

Postiogan Manon » Gwe 01 Chw 2008 4:16 pm

1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Tesco Bangor.
2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
Yn Nhywyn? Cym on 'wan :winc:
3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
'Sa'n neis 'sa Sinema lyfli Tywyn yn gorad yn ystod y dydd i bobol efo plant ifanc (ond gan mai dim ond fi a tua 5 o bobol arall sydd dan oed riteirio yma yn Nhywyn, mae hynna'n reit anhebygol o ddigwydd).
4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Mewn 'steddfoda, a pan o'n i'n geni fy mab. Rock and roll 8)
5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Wedl, mi wnes brynu un o'r v-slicers 'na i dorri llysia ar ol gwylio'r sianeli siopa- Ond yn Woolies gesh i o, ac 'roedd o'n giachu.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

Postiogan Gowpi » Gwe 01 Chw 2008 5:26 pm

1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Siwr o fod tesco caerfyrddin achau yn ol
2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
tesco caerfyrddin yw'r agosaf
3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
lle bwyta chinese jyst rownd gornel o le wy'n byw, soffas cyfforddus ar hyd y lle, nwdls ar tap, pib shisha melys wrth ochr y bwrdd isel (wy'n gwbod mod i'n cymysgu diwylliannau, ond...) gemau bwrdd ar gael, bwrdd ping pong yn y gornel...
4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
do, taith rygbi i'r iwerddon, nefar agen
5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
naddo
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

Postiogan Jemeima Mop » Gwe 01 Chw 2008 5:55 pm

1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Ty Diana, fy met yn Canton ar nos Sadwrn, Sul a Llun . . .
Mae hi un ai'n rebal wicend-hir ne'n insomniac.

2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
Garij Porthaethwy. Tesco Bangor. Garij Llys Y Gwynt

3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
Ty Diana. . . nyth bach clyd i adar y nos.

4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Dw i'm angen llawer o gwsg. Di diffyg cwsg ddim yn brifo, jysd neud fi edrych fel drychiolaeth.

5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Naddo
Rhithffurf defnyddiwr
Jemeima Mop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 234
Ymunwyd: Llun 26 Ion 2004 5:04 pm
Lleoliad: Penmon

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

Postiogan Chip » Gwe 01 Chw 2008 8:47 pm

1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Wall Mart yng Nghanada
2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
di m, yr agosaf yw caerfyrddin
3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
smoothie maker...(drool drool)
4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
do cwpwl o weithiau
5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
naddo
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

Postiogan dewi_o » Sad 02 Chw 2008 8:35 am

1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Nol moddiono Tesco yn Upper Boat Pontypridd.

2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
Dwy garej yng Nghaerffili a Tesco lawr y ffordd.

3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
Asda Caerffili byddai'n haws na fynd i Tesco

4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Do sawl gwaith. Dwi'n meddwl mae noson yr Etholiad Cyffredinol oedd y tro diwethaf.

5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Na, dim am wn i. Ond wedi gwneud snac ar ol gweld hysbys bwyd.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

Postiogan Tegwared ap Seion » Sad 02 Chw 2008 11:05 am

1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Llyfrgell y coleg :(

2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
krustysnaks a ddywedodd:Does na DDIM siopau 24 awr yng Nghaer-grawnt! Mae'n ofnadwy! Ar ddydd Sul, does na nunlle ar agor ar ôl 5!


Ma'r twll-yn-y-wal dal yn gweithio...!

3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
'Swn i'm yn meindio sa rhywun yn sownd-prwffio'n sdafall i fel 'mod i'n cal ffidlo ar ôl i bawb arall fynd i'w gwlâu...

4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Etholiad y Cynulliad o'dd yr adag dwytha

5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Naddo, ond mi es i i ffansïo tam bach ar Dewi Llwyd...
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

Postiogan tafod_bach » Sul 03 Chw 2008 2:24 pm

1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
mwrjensi coke o'r garej. yn anffodus doedd him ddim digon hwyr i gal prynu fe trwy'r drar carchar tu fas, ond jyst ddigon hwyr yn y dydd ifi golli fy mhres dros y llawr a dilyn e gyda fy ngwyneb. wps.

2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
wel, fel soniwyd uchod, garej, puteindai. dwinne hefyd yn gweld isie palace spar aberystwyth, lle alli di bynnu bakewell tart seis dwrn (in fact, on ti'n rhoi dy ddwrn *yn* y gacen gynta, ma na jans gei di ddiscownt wrth y til) a lasagne pie. mmmm.

3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
fersiwn hybrid o'r inn on the pier/bowlio deg/byker grove. fi hefyd yn seino lan i wasanaeth dybstep cymraeg mr macintosh, saving that, nele bobby smooth y tro.

4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
do wir! dwi di cysgu am fwy na 24 awr mewn go sawl gwaith hefyd, i falansho pethe mas.

5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
wps, weles i ddim o hwn. do. hufen dwylo occitane off qvc. gesi wahoddiad i fynd yn fyw ar yr awyr i son am fy 'first purchasing experience' ond jibio ar y funud ola mas o baraonia slurr gwin gwyn sbritswr.
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

Postiogan Mici » Sul 03 Chw 2008 3:01 pm

1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?

Ddoe, Tesco 24 awr. prynnu bwyd gwerth pythefnos oherwydd fedrai ddim mynd wsos nesa, nes i adael pacad o ham yno fud, doh!

2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?

Mond Tesco dwi meddwl, statoil ella ond dim mynediad i fewn mond trwy blwch

3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?

Banc! chwarter wedi deg mae un fi yn agor

4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)

Do, sesh 28 awr yn Aberystwyth. Dechrau off reit sedate ar nos Fercher fyny drwy nos a penderfynu cario mlaen drwy dydd Iau, swn i ddim yn gallu neud o dyddiau yma

5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?

Naddo
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron