1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Neithiwr - llefrith yn Spar Y Fali
2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
Spar Y Fali
3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
Mae pob dim ar gael 24-awr y dyddiau hyn yndi?
4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Do, Azerbaijan v Cymru y tro cyntaf - diwrnod ar ôl y gêm ar ôl diwrnod o sightseeing fe cawsom ni'n hunain mewn bar ... am 12 awr ... cyn brysio yn ôl i'r gwesty i ddal y bws i'r maes awyr a flight 8 awr yn ôl i Gatwick ... ac yna gyrru am 6 awr yn ôl i Sir Fôn
5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Dim byd fyddwn i'n gyfaddef iddo yn fa hyn