Tudalen 3 o 3

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 5:30 pm
gan eusebio
1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Neithiwr - llefrith yn Spar Y Fali

2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
Spar Y Fali

3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
Mae pob dim ar gael 24-awr y dyddiau hyn yndi?

4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Do, Azerbaijan v Cymru y tro cyntaf - diwrnod ar ôl y gêm ar ôl diwrnod o sightseeing fe cawsom ni'n hunain mewn bar ... am 12 awr ... cyn brysio yn ôl i'r gwesty i ddal y bws i'r maes awyr a flight 8 awr yn ôl i Gatwick ... ac yna gyrru am 6 awr yn ôl i Sir Fôn :ofn:

5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Dim byd fyddwn i'n gyfaddef iddo yn fa hyn ;)

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 5:46 pm
gan krustysnaks
tafod_bach a ddywedodd: a lasagne pie. mmmm.

Dwi'n gwybod mod i wedi meddwi pan mae lasagne pie y Spar yn edrych yn ddeniadol

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 7:51 pm
gan Prysor
1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Fynwent Llan Ffestiniog, pythefnos yn ôl.

2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
Dim

3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
Tacsi yn Stiniog

4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Do, lawer, lawer gwaith mewn llawer iawn o lefydd.

5. Ydych erioed wedi prynu rhwybeth ar ol gweld hysbyseb ar y teledu yn yr oriau man?
Na.

Re: Pump am y Penwythnos 1.2.08

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 8:27 pm
gan anffodus
1. Pryd oedd y tro diwetha' i chi ymweld â rhywle sydd ar agor 24-awr y dydd?
Tesco Bangor chydig yn ôl dwi'n meddwl odd hi

2. Pa siopau/busnesau 24-awr sydd 'na lle chi'n byw?
Tesco ym Mangor. Dwi'm yn siwr am fwy

3. Pa wasanaeth (gwir neu ddychmygol) fyddai'n gymorth mawr i chi pe bai ar gael 24-awr y dydd?
Ditectif preifat

4. Ydych chi erioed wedi bod yn effro am fwy na 24 awr? (pryd?)
Do. Pan nes i neud rhyw draethawd hanas yn ystod y gwylia Dolig odd tro dwytha.