1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?
Cwtsh
2. Sut ‘ych chi’n teimlo?
Braidd yn flinedig (ishe bwyd) ond hapus yn gwrando ar Moelyci ar chwaraewr y siop lawr star.
3. Beth ‘ych chi wedi rhoi’r gorau iddo?
Disgwyl i'r cariad daflu papurach i'r bin yn lle eu gadael ar hyd worktop y gegin (mae'r bin REIT AR BWYS!)
4. Pwy ‘dy chi wedi brifo?
Tair o'r ffrindiau odd fod dod am swper yn ty heno ond ma' 'da fi booking i'w ddelio ag e...
5. Beth ‘ych chi’n haeddu?
Cotej pei - amser cinio bron a chyrraedd!