Pump am y Penwythnos 8.2.08

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos 8.2.08

Postiogan Dwlwen » Gwe 08 Chw 2008 11:20 am

1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?
2. Sut ‘ych chi’n teimlo?
3. Beth ‘ych chi wedi rhoi’r gorau iddo?
4. Pwy ‘dy chi wedi brifo?
5. Beth ‘ych chi’n haeddu?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos 8.2.08

Postiogan nicdafis » Gwe 08 Chw 2008 11:34 am

1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?

Ieuenctid. David Jackson yn canu'r corn yn Van der Graaf. Nhad.

2. Sut ‘ych chi’n teimlo?

Bach yn isel nawr, diolch yn fawr.

3. Beth ‘ych chi wedi rhoi’r gorau iddo?

Hunan dosturi.

4. Pwy ‘dy chi wedi brifo?

Martin Llewelyn Williams.

5. Beth ‘ych chi’n haeddu?

Dim hanner cymaint ag sy 'da fi .
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Pump am y Penwythnos 8.2.08

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 08 Chw 2008 11:36 am

1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?

Rhodri Glyn Thomas, rhaff a choeden dal.

2. Sut ‘ych chi’n teimlo?

Eitha' shit.

3. Beth ‘ych chi wedi rhoi’r gorau iddo?

Wel, dw i newydd beidiog ag ymaelodi â Phlaid Cymru heddiw...

4. Pwy ‘dy chi wedi brifo?

Hah! Pwy dw i HEB frifo?

5. Beth ‘ych chi’n haeddu?

Llawer mwy 'na sy gen i. Parch gan fwyaf, cofiwch, a brechdan gows fowr.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos 8.2.08

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 08 Chw 2008 11:37 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?

Rhodri Glyn Thomas, rhaff a choeden dal.

2. Sut ‘ych chi’n teimlo?

Eitha' shit.

3. Beth ‘ych chi wedi rhoi’r gorau iddo?

Plaid Cymru - dw i wedi penderfynu peidio ag adnewyddu fy aelodaeth eleni am y tro cyntaf ers 2000.

4. Pwy ‘dy chi wedi brifo?

Hah! Pwy dw i HEB frifo?

5. Beth ‘ych chi’n haeddu?

Llawer mwy 'na sy gen i. Parch gan fwyaf, cofiwch, a brechdan gows fowr.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos 8.2.08

Postiogan ceribethlem » Gwe 08 Chw 2008 11:42 am

1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?
Cachu ci gwyn, sych.

2. Sut ‘ych chi’n teimlo?
Gwell, diolch.

3. Beth ‘ych chi wedi rhoi’r gorau iddo?
Dim yn ddiweddar. Ond licen i roi'r gore i gael ffecin stiwdant athrawon crap yn sbwylo popeth. Wancwyr.

4. Pwy ‘dy chi wedi brifo?
Neb 'to. Ond os welai'r ffecin stiwdant 'na bydd trwbwl.

5. Beth ‘ych chi’n haeddu?
Cwtsh.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos 8.2.08

Postiogan Manon » Gwe 08 Chw 2008 11:45 am

1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?
Peiriant golchi, dwr poeth, a gwres canolog.

2. Sut ‘ych chi’n teimlo?
Hapus a bodlon.

3. Beth ‘ych chi wedi rhoi’r gorau iddo?
Ffags a pholitics.

4. Pwy ‘dy chi wedi brifo?
Gormod o bobol. Hoffwn ymryd y cyfle yma i ddeud:
Sori.

5. Beth ‘ych chi’n haeddu?
'Dwi bron a bod yn haeddu yr hyn sy' gin i. Ond dim cweit.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos 8.2.08

Postiogan sian » Gwe 08 Chw 2008 11:47 am

ceribethlem a ddywedodd:1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?
Cachu ci gwyn, sych.

O'n i'n arfer meddwl mai cachu ci brown gwlyb wedi sychu oedd hwn ond dw i newydd sylweddoli mai cachu ci wedi byta asgwrn yw e.
You lives and you learns.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Pump am y Penwythnos 8.2.08

Postiogan ceribethlem » Gwe 08 Chw 2008 11:49 am

sian a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?
Cachu ci gwyn, sych.

O'n i'n arfer meddwl mai cachu ci brown gwlyb wedi sychu oedd hwn ond dw i newydd sylweddoli mai cachu ci wedi byta asgwrn yw e.
You lives and you learns.

Cwl, o'n i ddim yn gwbod 'ny chwaith. Da iawn Sian, ti lan gyda QI nawr :D
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos 8.2.08

Postiogan Dwlwen » Gwe 08 Chw 2008 11:50 am

1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?
Fy nghariad yn ystod yr wythnos, yna'r cyfle i fod yn ddiog ar y penwythnos.

2. Sut ‘ych chi’n teimlo?
2 goffi lawr: itha hyper.

3. Beth ‘ych chi wedi rhoi’r gorau iddo?
Wthnos 'ma, rhoies i'r gorau i gwyno am fy niffyg ffitrwydd ac ymarfer corff am y tro cynta' ers tua 6 mis :wps:

4. Pwy ‘dy chi wedi brifo?
Nic Dafis, me'n ymddangos - sori boi :wps:
nicdafis a ddywedodd:2. Sut ‘ych chi’n teimlo?
Bach yn isel nawr, diolch yn fawr.



5. Beth ‘ych chi’n haeddu?
Sai mbo... Ges i brawf gwaed bore 'ma - fydde sticer a lolipop neu rhywbeth wedi bod yn neis.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos 8.2.08

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 08 Chw 2008 11:53 am

1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?
Cyfnodau mewn hanes na fues i'n rhan ohonyn nhw.

2. Sut ‘ych chi’n teimlo?
Nerfus.

3. Beth ‘ych chi wedi rhoi’r gorau iddo?
Smygu. Ond yn dal i lithro nôl yn achlysurol.

4. Pwy ‘dy chi wedi brifo?
Sefais i ar ei throed hi neithiwr.

5. Beth ‘ych chi’n haeddu?
Camp Lawn arall, plis.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron