Pump am y Penwythnos 8.2.08

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos 8.2.08

Postiogan Gowpi » Gwe 08 Chw 2008 11:55 am

1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?
Cwtsh

2. Sut ‘ych chi’n teimlo?

Braidd yn flinedig (ishe bwyd) ond hapus yn gwrando ar Moelyci ar chwaraewr y siop lawr star.

3. Beth ‘ych chi wedi rhoi’r gorau iddo?
Disgwyl i'r cariad daflu papurach i'r bin yn lle eu gadael ar hyd worktop y gegin (mae'r bin REIT AR BWYS!)

4. Pwy ‘dy chi wedi brifo?
Tair o'r ffrindiau odd fod dod am swper yn ty heno ond ma' 'da fi booking i'w ddelio ag e...

5. Beth ‘ych chi’n haeddu?

Cotej pei - amser cinio bron a chyrraedd!
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: Pump am y Penwythnos 8.2.08

Postiogan Cacamwri » Gwe 08 Chw 2008 11:59 am

1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?
Cyfresi teledu Cymraeg pan o'n i'n blentyn, lie ins yn y bore, cal pyb grybs ambell i nos Sadwrn pan o'n i'n fach.

2. Sut ‘ych chi’n teimlo?
Iawn diolch, ar ol cael clamp o gacen siocled hyfryd.

3. Beth ‘ych chi wedi rhoi’r gorau iddo?
Coffi.

4. Pwy ‘dy chi wedi brifo?
M bo, sneb wedi gweud wrtha' i erioed bo fi di brifo nhw. Os ydw i, wel sori.

5. Beth ‘ych chi’n haeddu?
Clamp o dy newydd, morwyn i llnau'r ty, cogydd i neud bwyd neis bob nos ar ol dod adre o'r gwaith a llonydd weithie i ddarllen, achos dw i ddim wedi darllen nofel ers hydoedd. Roll on wythnos o wylie mewn pythefnos!
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: Pump am y Penwythnos 8.2.08

Postiogan tafod_bach » Gwe 08 Chw 2008 4:08 pm

1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?
ffrindiau, pobol sy'n sal a phell i ffwrdd.

2. Sut ‘ych chi’n teimlo?
fel sen i di cael pynsh yn y bola. mae'n digwydd bob tro dwi'n y w.m.c. (neu "wymc"). ma bae caerdydd yn le sydd wastad yn methu, ma fe di adeiladu ar indian burial ground ne rwbeth.

3. Beth ‘ych chi wedi rhoi’r gorau iddo?
caffeine. am gyfnodau. sai'n abstemious iawn.

4. Pwy ‘dy chi wedi brifo?
fi di rhoi ambell i slap yn y gorffennol, ond fi yw'r fictim fel arfer (comedy accidents, street brawls, ffeits efo poteli chwisgi mewn salwns, yknow)

5. Beth ‘ych chi’n haeddu?
heddwch a bach o hugs heno. ma fory'n mynd i fod yn waeth na heddi. bydd dydd sul yn well.
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Pump am y Penwythnos 8.2.08

Postiogan Positif80 » Gwe 08 Chw 2008 4:39 pm

1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?

Hubba Bubbas chery cola.

2. Sut ‘ych chi’n teimlo?

Iawn, sbo. Wed codi'n hwyr heddiw, a mae hynna wedi fy ngwneud i'n flin.

3. Beth ‘ych chi wedi rhoi’r gorau iddo?

Poeni am fynd i'r uffern - fydd o laff, siwr.
Meddwl gymaint am y gorffennol.
Cyfri'r dyddiau tan cyhoediad gem TNA Impact.
Meddwl bydda i'n cyrraedd y WWE cyn Barri Griffiths.

[b]4. Pwy ‘dy chi wedi brifo?[/b]

Llwythi o bobl, ond mae'n siwr bod fy mam a'n nhad ar frig y rhestr, fel nifer helaeth o fobl.

5. Beth ‘ych chi’n haeddu?

Bath hefo WWE DIva o fy newis pob dydd - neu Gail Kim o TNA.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Pump am y Penwythnos 8.2.08

Postiogan dewi_o » Gwe 08 Chw 2008 8:12 pm

1. Beth y’ch chi’n gweld ei eisiau?
Rhaglen Gemau Heb Ffiniau ar nos Sadwrn

2. Sut ‘ych chi’n teimlo?
Falch fod hi'n haner tymor yr wythnos nesaf.

3. Beth ‘ych chi wedi rhoi’r gorau iddo?
Ysmygu 18 mis yn ol

4. Pwy ‘dy chi wedi brifo?
Nifer yn anffodus.

5. Beth ‘ych chi’n haeddu?
Siwr o fod beth sydd gen i nawr.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron