Tudalen 1 o 5

Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

PostioPostiwyd: Gwe 15 Chw 2008 10:31 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
1. Ydych chi'n cadw'ch ty/stafell yn lân a thaclus?

2. Pa waith ty ydych chi'n ei hoffi fwyaf?

3. Pa waith ty sy'n gas 'da chi?

4. Fyddwch chi'n rhuthro i wneud gwaith ty, neu'n ei osgoi mor hi ag sy'n bosibl?

5. Beth yw'ch barn chi ar bagpipes?

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

PostioPostiwyd: Gwe 15 Chw 2008 10:41 am
gan Hogyn o Rachub
1. Ydych chi'n cadw'ch ty/stafell yn lân a thaclus?

Ydw tad. Dw i'm isio byw mewn budredd bellach.

2. Pa waith ty ydych chi'n ei hoffi fwyaf?

Glanhau'r llestri, a hynny dim ond fy mod i'n casau popeth arall.

3. Pa waith ty sy'n gas 'da chi?

Golchi dillad ydi'r gwaethaf, ond dw i fawr o foi am dwstio chwaith.

4. Fyddwch chi'n rhuthro i wneud gwaith ty, neu'n ei osgoi mor hi ag sy'n bosibl?

Ychydig o'r ddau. Mi fydda i'n ei wneud yn rheolaidd am fod yn rhaid yn hytrach na dim arall.

5. Beth yw'ch barn chi ar bagpipes?

Wel, does gen i ddim barn gref am fagpeips. Tueddu i'w hoffi. Mae gen i un yn Rachub cofiwch.

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

PostioPostiwyd: Gwe 15 Chw 2008 11:05 am
gan Cymro13
1. Ydych chi'n cadw'ch ty/stafell yn lân a thaclus?

Ydw :rolio:

2. Pa waith ty ydych chi'n ei hoffi fwyaf?

Ajustio'r siap tin ar fy soffa :winc:

3. Pa waith ty sy'n gas 'da chi?

Y Llestri

4. Fyddwch chi'n rhuthro i wneud gwaith ty, neu'n ei osgoi mor hi ag sy'n bosibl?

osgoi

5. Beth yw'ch barn chi ar bagpipes?

Dibynnu os di'r person yn gallu eu chware nhw

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

PostioPostiwyd: Gwe 15 Chw 2008 12:23 pm
gan dewi_o
1. Ydych chi'n cadw'ch ty/stafell yn lân a thaclus?

Dim digon aml. Fel arfer cael Blitz wythnosol neu os mae rhywun yn dod draw.

2. Pa waith ty ydych chi'n ei hoffi fwyaf?

Hwfro, dwi ddim yn siwr pam

3. Pa waith ty sy'n gas 'da chi?

Haearn smwddio.

4. Fyddwch chi'n rhuthro i wneud gwaith ty, neu'n ei osgoi mor hi ag sy'n bosibl?

Osgoi gymaint a phosib

5. Beth yw'ch barn chi ar bagpipes?


Mwynhau gwrando arnynt a fuaswn i'n hoff iawn o gael y cyfle i'w chwarae.

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

PostioPostiwyd: Gwe 15 Chw 2008 12:36 pm
gan Jaff-Bach
1. Ydych chi'n cadw'ch ty/stafell yn lân a thaclus?
Trio, ond efo stafall mor fach a gweithio efo gymaint o tools/paent/sketchbooks mawr man strygyl

2. Pa waith ty ydych chi'n ei hoffi fwyaf?
Hwfro

3. Pa waith ty sy'n gas 'da chi?
Golchi'r stafall molchi, ma'n flatmate i'n mynd ar fy nerves drw beidio neud byth

4. Fyddwch chi'n rhuthro i wneud gwaith ty, neu'n ei osgoi mor hi ag sy'n bosibl?
Ma'r rhanfwya onani yn neud ein rhan i drio cadwr fflat yn weddol daclus, ond ma na ohyd boteli fodca gwag a cania ogwmpas

5. Beth yw'ch barn chi ar bagpipes?
unigryw a cwl, sgenaim byd yn ei herbyn nhw

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

PostioPostiwyd: Gwe 15 Chw 2008 1:03 pm
gan tafod_bach
1. Ydych chi'n cadw'ch ty/stafell yn lân a thaclus?
ty - dwi'n rili trio. neshi fopio ddoe.
stafell - rhywun ise chware 'find the smell?'*

2. Pa waith ty ydych chi'n ei hoffi fwyaf?
peintio, sgrwbio efo menyg, weipio pethe, trefnu dvds yn ol categorïau fwyfwy abswrd bob tro.

3. Pa waith ty sy'n gas 'da chi?
sychu llestri.

4. Fyddwch chi'n rhuthro i wneud gwaith ty, neu'n ei osgoi mor hi ag sy'n bosibl?
osgoi, wedyn rhuthro allan o shame ac euogrwydd budur.

5. Beth yw'ch barn chi ar bagpipes?
ma'r bib gôd (*hem hem*) gymreig yn iawn, am mai un drone sydd arni, ac yn aml iawn, ma'r synau a'r alawon sy'n dod allan ohoni'n fwy cyfarwydd, felly ma'n siwr fod gen i bias. ma'r bib ogleddol (yr un albanaidd os leci di) yn gret ar gyfer parêds milwrol a cherddoriaeth tecno disgysting ar y naw. mmm. dim byd arall ddo. gofmod o beips!










* ateb: o dan y llawr mae e! shit!

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

PostioPostiwyd: Gwe 15 Chw 2008 1:26 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
tafod_bach a ddywedodd:ma'r bib gôd (*hem hem*)


Fick oeuf.
























:winc:

Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

PostioPostiwyd: Gwe 15 Chw 2008 2:12 pm
gan ger4llt
1. Ydych chi'n cadw'ch ty/stafell yn lân a thaclus?

Ymm.. :? Cymharol ma'n bosib - di'm yn rhy ddrwg 'ma i fod yn onasd.

2. Pa waith ty ydych chi'n ei hoffi fwyaf?

Symud o gwmpas dodrefn yn fy sdafall mashwr - dwi'n hoffi golwg newydd bob hyn a hyn :)

3. Pa waith ty sy'n gas 'da chi?

Yr holl rigmarôl o olchi dillad mwy na thebyg.

4. Fyddwch chi'n rhuthro i wneud gwaith ty, neu'n ei osgoi mor hi ag sy'n bosibl?

Dibynnu sud dwi'n timlo ynde!

5. Beth yw'ch barn chi ar bagpipes?

Hoff iawn o'i sain o chwara teg...neu pib-gorn di hwnna 'dwch? 'Gin i ffrind sy'n ei chwara' o - felly ia - cwd eitha da arno fo...y bagpipes h.y. :winc:

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

PostioPostiwyd: Gwe 15 Chw 2008 2:16 pm
gan krustysnaks
1. Ydych chi'n cadw'ch ty/stafell yn lân a thaclus?
Pan mae'n stafell i'n daclus, mae hi fel pin mewn papur ond pan mae pethau'n dechrau llithro, dwi'n cyrraedd gwaelod y allt cyn gwneud unrhywbeth am y peth. Mae'r debris ers fy mharti crempogau dal dros y lle i gyd ers dydd Mawrth.

2. Pa waith ty ydych chi'n ei hoffi fwyaf?
Hwfro neu smwddio. Theraputic iawn.

3. Pa waith ty sy'n gas 'da chi?
Mae golchi llestri'n gallu bod yn uffernol o boring.

4. Fyddwch chi'n rhuthro i wneud gwaith ty, neu'n ei osgoi mor hi ag sy'n bosibl?
Osgio mor hir ag sy'n bosib wedyn cael purge anferth a cael y lle'n berffaith eto.

5. Beth yw'ch barn chi ar bagpipes?
Mae cerddoriaeth y bagpipes fel arfer yn undonog ac anniddorol, felly dim llawer.

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

PostioPostiwyd: Gwe 15 Chw 2008 5:56 pm
gan Manon
1. Ydych chi'n cadw'ch ty/stafell yn lân a thaclus?
'Dwi'n g'neud 'y ngora', ond ma' tractors a defaid bach plastic yn mynd i bob man!

2. Pa waith ty ydych chi'n ei hoffi fwyaf?
Hoffi? E?

3. Pa waith ty sy'n gas 'da chi?
Hoovero. Dim posibiliadau gwrando ar miwsig/gwatshad teli ar yr un pryd.

4. Fyddwch chi'n rhuthro i wneud gwaith ty, neu'n ei osgoi mor hi ag sy'n bosibl?
Osgoi o tan 'dwi'n gweld car rhywun 'dwi'n nabod yn parcio tu allan i'r ty, ac wedyn 'dwi'n mynd ati fel cath i gythraul.

5. Beth yw'ch barn chi ar bagpipes?
Falch bo' chdi 'di gofyn. Ma' nhw'n ace!