Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

Postiogan Kez » Sad 16 Chw 2008 1:05 am

ceribethlem a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:1. Ydych chi'n cadw'ch ty/stafell yn lân a thaclus?
Na, gwaith y wraig yw e

2. Pa waith ty ydych chi'n ei hoffi fwyaf?
Gweud wrth y wraig i glau lan

3. Pa waith ty sy'n gas 'da chi?
Prynu stwff i'r wraig gal clau'r bathrwm

4. Fyddwch chi'n rhuthro i wneud gwaith ty, neu'n ei osgoi mor hi ag sy'n bosibl?
Pwy waith ty - job y wraig yw e a rhywbeth sy'n ei chadw hi ar ei thraed

5. Beth yw'ch barn chi ar bagpipes?
Petha defnyddiol iawn; os yw'r wraig yn practiso arnyn nhw, gora i gyd yw'r hwthad yn y gwely

Pyb 'di cau a'r wraig yn cysgu, Kez? :winc:

Na, ma ddi wrthi ar yr hwthad nawr; af fi i gysgu wedyn - bydd hi moyn cwtsh a geiriau lyfi dyfi ond cysgu bydda i moyn neud ZZzzzzzzzzzzzzzzzzzz
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

Postiogan ceribethlem » Sad 16 Chw 2008 1:28 am

Kez a ddywedodd:

So, mae'r pyb 'di cau te? :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

Postiogan Kez » Sad 16 Chw 2008 1:38 am

So'r pybs byth yn cau yn Llundain, ma'n wath na chefn gwlad - wna i jwst esgus cysgu sbo'r misssus yn cau llygad ac af i off 'to; dyw un fenyw ddim yn ddicon ifi - af i am un sy'n wara'r trwmped a dyna iti 'r menywod sy'n galler rhoi hwthad go iawn. A gwed y gwir, wn i'm be' wi'n ei wneud a'r wejen bagpipes 'ma :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

Postiogan krustysnaks » Sad 16 Chw 2008 9:54 am

Hedd - allwn ni gael y botymau Difyr a Diwerth yn ôl?

Dwi newydd wastraffu pum munud nai byth gael nôl yn sifftio drwy negeseuon hollol ddibwynt a hynod anniddorol ceri'dylefewybodynwell'bethlem a Positif'ddimyndisgwylgwell'80 yn yr edefyn yma ac eraill.

Stopiwch!
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

Postiogan ceribethlem » Sad 16 Chw 2008 11:15 am

krustysnaks a ddywedodd:Hedd - allwn ni gael y botymau Difyr a Diwerth yn ôl?

Dwi newydd wastraffu pum munud nai byth gael nôl yn sifftio drwy negeseuon hollol ddibwynt a hynod anniddorol ceri'dylefewybodynwell'bethlem a Positif'ddimyndisgwylgwell'80 yn yr edefyn yma ac eraill.

Stopiwch!

Ai, alcohol a maes-e, cyfuniad drwg. Sori am hwnna. Gei di fyth y pum munud 'na nol, ond bydd hanner o shandy bass yn aros amdanat ti Steddfod nesa :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

Postiogan nicdafis » Sad 16 Chw 2008 3:17 pm

1. Ydych chi'n cadw'ch ty/stafell yn lân a thaclus?

Ydw, gweddol. Methu ymdopi â lot o hen rwtsh ambyti'r lle.

2. Pa waith ty ydych chi'n ei hoffi fwyaf?

Golchi llestri, hwfro, wneud bara.

3. Pa waith ty sy'n gas 'da chi?

Wel, dim, rili. Fyddwn i ddim yn joio smwddio, 'sai rhaid i mi wneud. Ond tiwtor Cymraeg ydw i, yn ffodus iawn, a does neb yn disgwyl i ninnau fod yn esmwyth ein golwg.

4. Fyddwch chi'n rhuthro i wneud gwaith ty, neu'n ei osgoi mor hi ag sy'n bosibl?

Tueddu cael blitzes bob hyn a hyn. Dyw'r Doctor Da ddim yn poeni cymaint am bethach felly. Bardd yw hi, cofiwch.

5. Beth yw'ch barn chi ar bagpipes?

Lico'r rhain Cymreig, a'r Gweddelig, Northwmbria ac yn y blaen, ond mae'r pibau Albaneg traddodiadol bach yn fombastig i'n dant i. Dw i'n mynd i Ŵyl y Pibau, Pencader, a phopeth.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

Postiogan Euronwy Cocwyllt » Sad 16 Chw 2008 8:04 pm

1. Ydych chi'n cadw'ch ty/stafell yn lân a thaclus?
Dibynnu be' ych chi'n feddwl wrth lan a thaclus

2. Pa waith ty ydych chi'n ei hoffi fwyaf?
Glywes i erioed neb yn gweud bod nhw'n lico gwneud gwaith ty, ond un itha da yn stilo dillad wdw i

3. Pa waith ty sy'n gas 'da chi?
Rhoi 'r stwff 'Vanish' ar bants y gwr cyn eu golchi - gas 'da fi 'skid marks'.

4. Fyddwch chi'n rhuthro i wneud gwaith ty, neu'n ei osgoi mor hi ag sy'n bosibl?
Gwneud pethe dipyn wrth dipwn 'na i - nath bach o ddwst ar dop shilff ddim drwg i neb

5. Beth yw'ch barn chi ar bagpipes?
Ariod wedi smoco
Rhithffurf defnyddiwr
Euronwy Cocwyllt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Sul 10 Chw 2008 10:31 am
Lleoliad: Pentrecagal

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

Postiogan Cacamwri » Sad 16 Chw 2008 9:15 pm

1. Ydych chi'n cadw'ch ty/stafell yn lân a thaclus?
Trio ngore i neud pethe bach bob penwythnos, ond rhwng gweithio a phob dim, dw i'n licio treulio'r penwythnos yn anghofio am bethe fel llnau. Eniwe, sut mae modd cadw'r ty yn daclus pan mae gyda chi fabi o gwmpas y lle?

2. Pa waith ty ydych chi'n ei hoffi fwyaf?
Erbyn hyn, golchi llestri, achos gath y Mr dishwasher i mi nadolig, felly dim ond pwyso botwm sydd rhaid gwneud.

3. Pa waith ty sy'n gas 'da chi?
Dwstio.

4. Fyddwch chi'n rhuthro i wneud gwaith ty, neu'n ei osgoi mor hi ag sy'n bosibl?
Byth yn rhuthro. Osgoi fel arfer. Ond fi'n gwneud yn siwr bo fi'n dal lan gyda golchi dillad, smwddio, hwfro a mopio'r llawr.

5. Beth yw'ch barn chi ar bagpipes?
Rhy swnllyd o lawer.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

Postiogan Kez » Sad 16 Chw 2008 10:26 pm

nicdafis a ddywedodd:

2. Pa waith ty ydych chi'n ei hoffi fwyaf?

Golchi llestri, hwfro, wneud bara.

Wyt ti'n treial gweid rhywbeth wrthon ni yn fanna Nic. Da iawn ti ac ifi'n siwr y bydd pawb yn 'supportive' iawn ar y maes-e 'ma - wel pawb heblaw am Rooney a'th wraig wrth gwrs :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Pump am y Penwythnos, 15.2.2008

Postiogan Positif80 » Sul 17 Chw 2008 2:50 am

krustysnaks a ddywedodd:Hedd - allwn ni gael y botymau Difyr a Diwerth yn ôl?

Dwi newydd wastraffu pum munud nai byth gael nôl yn sifftio drwy negeseuon hollol ddibwynt a hynod anniddorol ceri'dylefewybodynwell'bethlem a Positif'ddimyndisgwylgwell'80 yn yr edefyn yma ac eraill.

Stopiwch!

Ail drefnwch y geiriau canlynol i wneud brawddeg: ceilliau fi y cont tawtlyd sugnwch patronising cock sucker.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron