1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?yn mhwll plascrug gyda dad, a wedyn rhyw foi mawr efo lot o datw^s a menyw fach denau nath farw cyn i fi gael crap ar y ffrynt crol. ma'i chymeriad yn rhan o anxiety dream fyddai'n cael yn amal pan dwi'n styc ar fonorail/lithren yn heulfan rhyl.
2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?gydag eric, y lleiaf rhywiol-wyrdroedig o athrawon gyrru'r ardal (gweler uchod), a dodd e ddim yn stopio tu fas ei dy a neud i chi eistedd yn y car tra bo fe'n cael shit chwaith. o'n i'n siarad lot am bysgota.
3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?gwylio pobol yn y coleg, a dysgu lot am berlysiau efo llyfra.
4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?prince of persia, 199?. look and read - gem am gyflawni'r great north run AC achub breichled/modrwy oedd wedi cael eu dwyn gan aderyn direidus. hynna a pod ar y cyfrifiadur bbc
pod yn ffrwydro!
5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?[/quote]
"rhywun sbeshal"? sain credu mai cweit dyna'r term, ond swn i ddim yn meindio peint da mihangel macintosh. ma fe'n swnio'n foi eitha rhesymol. failing that, hot tub yn coleg y bala efo macsen, rooney a prysor amdani...