Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan Dwlwen » Gwe 29 Chw 2008 10:44 am

1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?
2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?
3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?
4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 29 Chw 2008 10:53 am

1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?
Pan o'n i tua saith ym Mhwll Nofio Cefn Fforest oedd wastad â gormod o glorin ynddo fe.

2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?
Wrthi'n gwneud ar hyn o bryd. Newydd geisio meistroli hill starts. Mae gyrru'n shit.

3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?
Gyda mam pan o'n iau, ond dim ond dros y blynyddoedd dwetha fi wir wedi dechrau cymryd y peth o ddifri.

4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
Pan oedd dad yn dod â chyfrifiaduron BBC (neu falle Acorn) nôl o'r ysgol yn ystod y gwylie. Tua diwedd yr 80au/dechre'r 90au. Pwy sy'n cofio gêm Gardd Mamgu?

5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?
Gofyn i Iesu Nicky Grist bostio drwy'r dydd. Newydd bisho 'mhants yn darllen ei gyfraniad e i edefyn ar grefydd.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan Dwlwen » Gwe 29 Chw 2008 11:09 am

1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?
Pwll nofio Rhydaman pan o'n i tua 7 neu 8 - odd 'da fi'r sens i beidio a plymio gyda pawb arall i nôl y fricsen pan fydde'r athro yn taflu fe.

2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?
Ysgol foduro Gilmour, 1999. Ma dal 'da fi'r keyring.

3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?
Cofio 'neud welsh cakes 'da Nanny pan o'n i tua 7 falle, ond megis Gwahanglwyf 'mond yn gymharol ddiweddar i fi 'di dechrau cwcan go iawn.

4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
Wel, odd commodore 64 yn y ty, a wy'n cofio whare hover-bover a quest yn ifanc iawn... Ond adeg TGAU odd ishe teipo lot o stwff.

5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?
Good call GDG. Fydden i jyst yn gofyn i bawb chillo mas, a joio.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 29 Chw 2008 11:43 am

1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?

Yn yr ysgol ym hwll nofio Dinbych un bore bob pythefnos os dwi'n cofio'n iawn. Er, dwi dal yn rybish a dwi'm yn siwr os ydi be dwi'n neud yn cyfri fel nofio, mwy fel jest 'peidio boddi' rili.

2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?

O fewn tri mis i'm mhen-blwydd yn 17. Dyna holl bwynt bod yn 17 onid ddim?!

3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?

Yn ddiweddar iawn. Drwy'r llyfr Cooking for Blokes (sy'n egluro sut i ferwi wy, ymysg pethau eraill). A fel hyn.

4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?

Ddim yn cofio'n iawn, yn yr ysgol ma siwr efo Acorns a BBC

5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?

Buaswn yn hoffi mynd a Rooney yn nes at ei greawdwr.
Golygwyd diwethaf gan Mr Gasyth ar Gwe 29 Chw 2008 1:43 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 29 Chw 2008 11:51 am

1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?

Pan oeddwn yn ifanc iawn, gyda gwersi nofio yng Nghaernarfon

2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?

Pan o'n i'n 18 - ond nes i'm llwyddo nes fy mod yn 19.

3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?

Yn eithaf de rhywle rhwng Prifysgol a rwan - dw i'n rhyfeddu ac yn ymfalchio yn fy nghallu i wneud bwyd da maethlon allan o ddiawl o'm byd.

4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?

Yn ifanc. Rêl plentyn y 90au.

5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?

Mae sawl un y byddwn i'n gofyn iddynt lluchio'u hunain ffwr' o Bont Borth...
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 29 Chw 2008 12:11 pm

1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?
Pwll nofio Tywyn rhwng 1985-90ish. A wastad yn stopio am jips a'i byta wrth Graig y Deryn ar y ffor adra, a wedyn syllu ar y sêr a'r lleuad allan o ffenest gefn y car ar y daith nôl drwy dwllwch arfordir Meirionnydd...
2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?
Tua dwy flynadd nôl. O'n i'n ddiawl o gyndyn i neud, ond rwan dwi'n mwynhau'n arw, er yn euog am fy nibyniaeth car.
3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?
Pan o'n i'n tua 15ish. Jest arbrofi yn gneud bwyd i fi a fy chwiroydd os oedd na neb arall yn tŷ. Ond go-iawn, yn y blynyddoedd dwetha dan annogaeth fy ngwraig. Mae hi'n benderfynol o'n nhroi i'n pastry chef!
4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
Rhaglennu BASIC (yn wael) ar ZX Spectrum 128k +2, ac wedyn symud mlaen i PASCAL ar PC wrth neud cyfrifiadureg Lefel A.
5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?
Deud wrth bawb i wrando ar Beti, ac i fynd draw i http://www.sesh.tv i wylio Gari Gwyllt Yn Mynd Yn Wyllt a wedyn rhoi eich fids yna!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan joni » Gwe 29 Chw 2008 12:59 pm

1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?
Sai'n cofio pryd yn union, ond fi'n cofio'r gwersi ym mhwll nofio Plascrug gan rhyw foi o'r enw Jeff. O'n i'n ofn rhoi mhen o dan y dwr.
2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?
Rhwng Gorffennaf a Tachwedd 1996 o dan ddysgeidiaeth Eric. Er, byse sawl un yn dweud bod chi'n parhau i ddysgu bob dydd.
3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?
Sai rili'n gallu cwco. Cofio cael ambell i wers yn ysgol ond dim byd mowr. Allai neud bwyd os oes resipi efo fi, ond sdim chance i fi fedru dylunio a gwneud pryd o'r newydd.
4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
Wi'n siwr taw chware Pod (falle Pob?) ar BBC yn ysgol gynradd odd y tro cynta i iswo compiwtyr. Wedyn symud mlan i RM Nimbus Ysgol Penweddig (hollol shite) ac Atari fy ffrind odd yn byw lawr y ffordd (hollol cwl!)
5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?
Byswn i'n gofyn i bawb (y' chi gyd yn "rhywun sbeshal" i fi) roi un punt yr un i fi.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan Dwlwen » Gwe 29 Chw 2008 1:10 pm

joni a ddywedodd:4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
Wi'n siwr taw chware Pod (falle Pob?) ar BBC yn ysgol gynradd odd y tro cynta i iswo compiwtyr.

Fi'n cofio fe! Mae Pod yn ffrwydro oedd y gorau :crechwen:
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 29 Chw 2008 1:24 pm

Dwlwen a ddywedodd:
joni a ddywedodd:4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
Wi'n siwr taw chware Pod (falle Pob?) ar BBC yn ysgol gynradd odd y tro cynta i iswo compiwtyr.

Fi'n cofio fe! Mae Pod yn ffrwydro oedd y gorau :crechwen:


Ooooo ie! Flashbacktastic!
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan Gwyn » Gwe 29 Chw 2008 2:40 pm

joni a ddywedodd:2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?
Rhwng Gorffennaf a Tachwedd 1996 o dan ddysgeidiaeth Eric.


Eric ges i hefyd, chware teg iddo fe, always got the job done. Ma fe'n haeddu pob clod am gael fi i basio tro cynta.
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron