1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?
Pwll nofio Llambed, amser ysgol gynradd, ond odd pawb arall yn gallu yn barod, felly doedd dim mo'r amynedd i'm dysgu i, a finne a dim diddordeb, hyd heedi sai'n nofiwr cryf ac wedi gorfod dysgu fy hunan rili...
2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?
Yn 26 oed gyda Dai yn Llandysul a'm prawf yn Llambed (jiw ma Llambed wedi dysgu lot i fi ) Wedi ei gadael yn hwyr, ond gyda'm car newydd a'r rhyddid a ddaw - un o'r pethau gorau i mi fyth ddysgu!
3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?
Gyda mam gwlei, ond fel uchod, dim ond yn ddiweddar wedi cael blas.
4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
Dal i ddysgu...
5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?
rhaid meddwl...