Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan Gowpi » Gwe 29 Chw 2008 4:09 pm

1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?
Pwll nofio Llambed, amser ysgol gynradd, ond odd pawb arall yn gallu yn barod, felly doedd dim mo'r amynedd i'm dysgu i, a finne a dim diddordeb, hyd heedi sai'n nofiwr cryf ac wedi gorfod dysgu fy hunan rili...
2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?
Yn 26 oed gyda Dai yn Llandysul a'm prawf yn Llambed (jiw ma Llambed wedi dysgu lot i fi :seiclops: ) Wedi ei gadael yn hwyr, ond gyda'm car newydd a'r rhyddid a ddaw - un o'r pethau gorau i mi fyth ddysgu!
3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?
Gyda mam gwlei, ond fel uchod, dim ond yn ddiweddar wedi cael blas.
4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
Dal i ddysgu...
5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?
rhaid meddwl...
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan joni » Gwe 29 Chw 2008 4:18 pm

Dwlwen a ddywedodd:
joni a ddywedodd:4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
Wi'n siwr taw chware Pod (falle Pob?) ar BBC yn ysgol gynradd odd y tro cynta i iswo compiwtyr.

Fi'n cofio fe! Mae Pod yn ffrwydro oedd y gorau :crechwen:

Fersiwn saesneg o'r gem o'dd da ni yn ysgol ni. Sai'n gwbod pam chwaith. Ond fi'n rhoi'r bai ar y Torîs.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan krustysnaks » Gwe 29 Chw 2008 4:56 pm

1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?
Pan oeddwn i'n llai yn y pwll nofio yn Aberystwyth. Nes i ddim dysgu llawer - dwi braidd yn crap hyd heddiw ...

2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?
Gyda Geraint Gyrru o gwmpas Aberystwyth yn 2004! Pasio tro cynta, fel pob gyrrwr da 8)

3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?
Rhywbryd yn y dyfodol ... Dwi'n olreit pan dwi'n trio, ond mae'n well gen i beidio. Dyma beth mae byw tua munud o gerdded o'r Neuadd yn y Coleg am dair mlynedd yn gwneud i rywun.

4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
Mae na gyfrifiadur wedi bod yn y ty yn ddi-dor ers pryd dwi'n cofio o ddyddiau DOS a Windows 3.1 at Tiger. Alla i ddim goddef pobl yn gofyn am help gyda chyfrifiaduron. Does neb erioed wedi dysgu unrhywbeth i fi - gweithiwch y peth allan eich hun drwy ffidlan!

5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?
Gwasgwch Alt+F4
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan krustysnaks » Gwe 29 Chw 2008 5:06 pm

joni a ddywedodd:
Dwlwen a ddywedodd:
joni a ddywedodd:4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
Wi'n siwr taw chware Pod (falle Pob?) ar BBC yn ysgol gynradd odd y tro cynta i iswo compiwtyr.

Fi'n cofio fe! Mae Pod yn ffrwydro oedd y gorau :crechwen:

Fersiwn saesneg o'r gem o'dd da ni yn ysgol ni. Sai'n gwbod pam chwaith. Ond fi'n rhoi'r bai ar y Torîs.

Roedd Pod yn Gymraeg erbyn i fi gyrraedd!
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan ceribethlem » Gwe 29 Chw 2008 5:30 pm

1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?
Ym mhyllau nofio yagolion tre-Gib a Rhydaman sbel mawr nol. Rhyw fenyw o'r enw Mrs Lychy (er nawr bod fi'n hyn fi'n tybio mai Lougher)

2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?
Pan droies i'n 17 nol yn 1992. Hen banger o Dalbot Samba!

3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?
Odd rhaid i fi fyw pan o'n i'n fyfyriwr, ond bydden i ddim yn galw'r hyn wnes i yn goginio. Felly bydden i'n tybio pan raddies i ym 1997 a symus i fyw yn Abertawe ddechreues i goginio'n weddol dda. Fi'n gachboeth nawr wrth gwrs (ac mae gen bron i ddeunaw ston i brofi hynny!)

4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
Dysgu'n hunan mwy na dim arall. Ges i bach o wersi ar y BBC basic yn ysgol (tua '86 neu '87).

5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?
Bydden i'n ymbil ar rooney i feddwl am rhywbeth newydd a ddiddorol i'w drafod, yn hytrach na'r un hen gach.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan Chip » Gwe 29 Chw 2008 8:10 pm

1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?
wrth mynd i gwersi nofio yn aberteifi
2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?
dwi yn Dysgu ar y foment o'r boi sy'n byw lawr y rhewl
3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?
wastad wedi gwbod sut i tynnu pizza o bocs a rhoi e yn y ffwrn
4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
yn ysgol bach
5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?
.. :?: hmm saimo
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan nicdafis » Gwe 29 Chw 2008 8:54 pm

1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?

Gwersi ym mhwll Plas Madog, pan o'n i tua 9 oed. Erioed wedi bod yn nofiwr cryf, rhaid cyfadde.

2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?

Gyda Mam i dechrau, yn 17 oed. Dim amynedd 'da Dad. Wedyn gwersi swyddogol gyda Phil Roberts, y Waun. Methu'r prawf y tro cyntaf, pasio'r ail dro, yng Nghroesoswallt.

3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?

Mynd yn llyseuwr yn 18 oed, wedyn yn y coleg, yn enwedig wrth rannu tŷ gyda fegans oedd rhaid ymdopi gyda llysiau go iawn.

4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?

Dumb terminal fel hyn yn yr ysgol, tua 1979. Ffonio mewn i'r mainframe ym Mhrifysgol Keele, chwarae'r fersiwn testun o Lunar Lander. Ar ôl yr ysgol, gweithies i yn ITeC Wrecsam am sbel. Dyna ble cwrddais i â fy Mac cyntaf.

5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?

Gan taw fory yw penblwydd 10 mlynedd finnau a'r Doctor Da, well i mi beidio jincso pethe.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan Cacamwri » Gwe 29 Chw 2008 9:02 pm

1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?
Tua 5 neu 6. O'n i'n joio, ac erbyn tua 7 ro'n i'n cystadlu mewn galas a phethe. Heb fod yn y dwr ers moooor hir!

2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?
Gyda boi Emlyn pan o'n i'n 17, pasio erbyn i mi fynd i'r chweched ym Mro Myrddin, felly handi iawn i yrru i'r ysgol yn lle dibynnu ar y bysus melltigedig! Roedd y Meicra bach yn glam o gar da.

3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?
Dwi'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd.

4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
Sai'n cofio...sai'n giampstar o hyd.

5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?
Hoffwn i ofyn i Sbecspeledrx pam bod e di gadael ei lestri budron yn y sinc bore ma, pan fo'r dishwasher ger llaw, neu phan fo ganddo bar o ddwylo i wneud y gwaith ei hun?
Felly, gaf i holi i'r 'rhywun sbeshal' os neith e brynu par o farigolds i'w hun plis, er mwyn helpu gyda'r gwaith ty?
:winc:
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan Manon » Gwe 29 Chw 2008 10:58 pm

1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?
Pan o'n i tua 5 ym mhwll nofio Bangor.

2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?
Pan o'n i'n 21, ac yn feichiog. Boi o Fethel o'r enw Graham nath fy nysgu i, ac roedd o'n lyyyyfli.

3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?
Unwaith eto, pan o'n i'n feichiog. Ges i ryw nesting instinct weird ac mi ddechreuish i bobi bara a ballu. O'n i'n rybish cyn hynny yn ol y gwr- Mae o'n mynnu cyfeirio at y "bean and noodle surprise" :ofn:

4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
'Dwi 'myn cofio, ond o'dd gynna ni amstrad i chwara gema' arno fo pan odda ni'n fach.

5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?
Sian- Gad fi ennill ar scrabulous! :winc:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 29.2.08

Postiogan sian » Gwe 29 Chw 2008 11:16 pm

1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?
Pan o'n i tua 7 yn y môr yn Penbryn. Rhyfedd cyn lleied ohonoch chi sy wedi dysgu yn y môr.

2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?
Gynta pan o'n i'n 17 gyda Warner yng Nghaerfyrddin ac wedyn pan o'n i'n 24 gyda Tomos Owen ym Mhwllheli - sydd newydd ddysgu fy mab hynaf hefyd

3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?
Yn coleg am wn i. Wnes i ddechrau enjoio coginio ar ôl priodi ond dw i ddim yn cael lot o amser erbyn hyn.

4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?
Yn y gwaith - tua 1987.

5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?
Nic - Gad fi ennill ar scrabulous! :winc:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron