1. Pryd a sut ddysgoch chi i nofio?Pwll nofio Tywyn rhwng 1985-90ish. A wastad yn stopio am jips a'i byta wrth Graig y Deryn ar y ffor adra, a wedyn syllu ar y sêr a'r lleuad allan o ffenest gefn y car ar y daith nôl drwy dwllwch arfordir Meirionnydd...
2. Pryd a sut ddysgoch chi i yrru?Tua dwy flynadd nôl. O'n i'n ddiawl o gyndyn i neud, ond rwan dwi'n mwynhau'n arw, er yn euog am fy nibyniaeth car.
3. Pryd a sut ddysgoch chi i goginio?Pan o'n i'n tua 15ish. Jest arbrofi yn gneud bwyd i fi a fy chwiroydd os oedd na neb arall yn tŷ. Ond go-iawn, yn y blynyddoedd dwetha dan annogaeth fy ngwraig. Mae hi'n benderfynol o'n nhroi i'n pastry chef!
4. Pryd a sut ddysgoch chi i ddefnyddio cyfrifiadur?Rhaglennu BASIC (yn wael) ar ZX Spectrum 128k +2, ac wedyn symud mlaen i PASCAL ar PC wrth neud cyfrifiadureg Lefel A.
5. Yn ôl traddodiad, dylai llwyth o ferched ffol achub ar y cyfle heddiwi ofyn i rhywun speshal eu priodi... Pe bai chi'n gallu gofyn i rhywun sbeshal o'r maes wneud unrhywbeth heddiw - be fyddai hynny?Deud wrth bawb i wrando ar Beti, ac i fynd draw i
http://www.sesh.tv i wylio Gari Gwyllt Yn Mynd Yn Wyllt a wedyn rhoi eich fids yna!
Maes-eio ers 2002, yo.