Tudalen 1 o 2

Pump am y Penwythnos - 7/3/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Maw 2008 11:09 am
gan Dwlwen
1. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn garedig?
2. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn hunanol?
3. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn ddiog?
4. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn wahanol i'r arfer?
5. Beth fyddwch chi'n gwneud dros y penwythnos?

Re: Pump am y Penwythnos - 7/3/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Maw 2008 11:24 am
gan Ray Diota
1. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn garedig?
wff, saimo... ti wastad yn llwyddo i neud fi deimlo fel rial cachwr 'da'r cwestiynne 'ma, dwlwen! menthyces i feic i ferch... ond ma 'na gymhelliad amgen i hynna... :wps:

2. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn hunanol?
Peidio talu arian nol ffrind. Wedi gweud 'ny, odd 'da fi reswm - wy di anghofio pin code y garden so on i angen bob c'inog odd 'da fi! Gei di fe'n fuan, Nwdls, dwi'n addo! :)

3. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn ddiog?
Dwi di bod yn eitha cynhyrchiol wthnos 'ma... ond dwi'n lico diogi nos lun... sai moyn neud ffyc ol blaw watsho'r soaps rili....joio.

4. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn wahanol i'r arfer?
dringo consti a chal shampen a mwgyn yn edrych ar yr olygfa... wedyn mynd i weld y ty lle ges i fy ngeni (wel, ges i ngeni yn bronglais... ond chi'n deall be s'da fi) ar y ffordd nol lawr. Hyfryd.

5. Beth fyddwch chi'n gwneud dros y penwythnos?
Talu dyledion mochedd drwy weithio yn y Llew Du... swnio'n rial bitsh ond wy fel arfer yn gallu gwylio'r gem yn weddol bach...

Re: Pump am y Penwythnos - 7/3/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Maw 2008 11:32 am
gan tafod_bach
1. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn garedig?
rhoi petalau jasmin dros y lle i gyd ddoe. a talu am y gwin.

2. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn hunanol?
dewis gwylio friends ar y teli yn hytrach na statig (a rodd na rywun arall yn y rwm)

3. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn ddiog?
dwi ddim di dod rownd i llnau dodrefn tu allan ar ol y gaeaf. neshi roi copi o'r mirror dros y baw ac eistedd ynddo wedyn.

4. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn wahanol i'r arfer?
es i i'r opera, oedd rioed di digwydd o'r blaen. ac i'r pwll nofio - sai di bod ar sleid ddwr dda ers ages!

5. Beth fyddwch chi'n gwneud dros y penwythnos?
mae'n brin o benwythnos - fi'm yn gweithio a sdim rhaid i fi neud dim byd! dwi am gadw pethe mor normal a phosibl, a gorffen gwneud fy mlociwr drafft siap ci i'r drws ffrynt.

Re: Pump am y Penwythnos - 7/3/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Maw 2008 11:36 am
gan Hogyn o Rachub
1. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn garedig?

Ym, i fod yn onest, ddim byd. O gwbl.

2. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn hunanol?

Wel, ddim lot eto. I fod yn onest bu'n wythnos ddiddigwyddiad iawn.

3. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn ddiog?

Wel, aros i mewn bron bob nos ac ar ôl fy nhe a gwylio teledu a phori'r we am oriau.

4. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn wahanol i'r arfer?
Aros i fyny tan 2 a meddwi neithiwr ... dw i'n dda ar ddiwrnod gwaith ddim yn bod yn sili fel arfer. Ond da!

5. Beth fyddwch chi'n gwneud dros y penwythnos?
Meddwi! Wehei! :D
(Dw i'n rhan o'r broblem ac yn falch)

Re: Pump am y Penwythnos - 7/3/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Maw 2008 11:42 am
gan Dwlwen
1. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn garedig?
Dim lot. Brynes i beint i Cai a yazoo i Bobs...

2. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn hunanol?
Bwyta'r wy pasg brynes i i fy chwaer :wps: Brynai un arall...

3. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn ddiog?
Peidio ymarfer corff o gwbwl. Yfed. Bwyta wy pasg.

4. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn wahanol i'r arfer?
Tynnu lluniau gyda ffilm du a gwyn (ond wy heb 'u datblygu nhw 'to.)

5. Beth fyddwch chi'n gwneud dros y penwythnos?
Dosbarthu posteri 'stafell fyw bore Sadwrn, cyn dal tren i Fanceinion i ymweld â'r hyfryd McCrum.

Ray Diota a ddywedodd:ti wastad yn llwyddo i neud fi deimlo fel rial cachwr 'da'r cwestiynne 'ma, dwlwen!

Dy gydwybod di yw hynny Raymond, nid fi :winc:

Re: Pump am y Penwythnos - 7/3/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Maw 2008 11:50 am
gan eusebio
1. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn garedig?
Ar ôl gyrru adref o'r dafarn neithiwr ... nes i fynd yn ôl i nôl fy mêt am bod hi'n piso bwrw ... roedd o di mynnu cerdded adref am bod o'n chwil!

2. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn hunanol?
Roedd mam eisiau mynd i'r dafarn neithiwr hefyd ond nes i ofyn iddi warchod er mwyn i mi gael mynd :wps:

3. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn ddiog?
hmmm, allai'm meddwl am ddim byd nes i oedd yn ddiog

4. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn wahanol i'r arfer?
Es i i'r dafarn neithiwr - fydda'i ddim yn mynd allan yn ystod yr wythnos fel arfer ond roedd neithiwr yn noson arbennig. Bu farw mêt i mi naw mlynedd yn ôl - fe ddisgynodd yn farw ar ôl dod off awyren yn Hong Kong - DVT medde nhw - ac fo oedd cwisfeistr ein local ni, felly mae na gwis am gwpan goffa pob blwyddyn gyda'r arian yn mynd at elusen lleol.

5. Beth fyddwch chi'n gwneud dros y penwythnos? [/quote]
Gwarchod a mynd i Caer v Wrecsam ddydd Sul.

Re: Pump am y Penwythnos - 7/3/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Maw 2008 12:18 pm
gan Jaff-Bach
1. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn garedig?
Gwrando ar ffrind sy di cael dipin o broblema bechgyn

2. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn hunanol?
Siarad i'n ffrind am fy mhroblema i

3. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn ddiog?
peidio sgwennu fy nhraethawd, dal efo 2000 o eiria i sgwennu erbyn dydd mawrth

4. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn wahanol i'r arfer?
Mynd i sglefrio ia yn y sgwar!!

5. Beth fyddwch chi'n gwneud dros y penwythnos?
Cyfarfod rhai o Gymry Leeds am ginio a gwylio y gem rygbi....a gorffan y traethawd =(

Re: Pump am y Penwythnos - 7/3/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Maw 2008 12:48 pm
gan joni
1. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn garedig?
Brynes i anrheg i'r missus.
2. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn hunanol?
Dim rhannu maltesers fi.
3. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn ddiog?
Dim llawer o ddiogrwydd wthnos ma, chware teg i fi.
4. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn wahanol i'r arfer?
Treulio oriau yn yr atic yn codi lan insiwleishyn yn edrych am lygoden o'dd wedi marw.
5. Beth fyddwch chi'n gwneud dros y penwythnos?
Ffacinel i fi am feddwi. A whare pwl. A hasslo Ray Diota o ochr draw'r bar.

Re: Pump am y Penwythnos - 7/3/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Maw 2008 1:34 pm
gan krustysnaks
1. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn garedig?
Nes i brynu cinio i ffrind.

2. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn hunanol?
Roedd gen lyfr oedd rhaid mynd nôl i'r llyfrgell ond nes ei gadw am ddiwrnod ychwanegol a'i wneud yn hwyr.

3. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn ddiog?
Es i fyny tri llawr yn yr adran hanes yn y lifft.

4. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn wahanol i'r arfer?
Nes i yfed fodca mewn parti am y tro cyntaf ers oesoedd.

5. Beth fyddwch chi'n gwneud dros y penwythnos?
Gweithio gweithio gweithio. A gwylio Iwerddon vs Cymru a Barnsley vs Chelsea.

Re: Pump am y Penwythnos - 7/3/08

PostioPostiwyd: Gwe 07 Maw 2008 1:51 pm
gan ceribethlem
1. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn garedig?
wedi helpu mrs Bethlem i greu soundtrack ar gyfer y ddrama mae'n ei chyfarwyddo.

2. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn hunanol?
Mynnu byddaf yn chwilio am swydd newydd os byddent yn fy ngorfodi i wneud rhywbeth dwi didm ishe neud.

3. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn ddiog?
Gadael y llestri am dridie, a gadael y marco tan y noson olaf (eto).

4. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn wahanol i'r arfer?
Seto lan rhwydwaith ddi-wifr yn y ty.

5. Beth fyddwch chi'n gwneud dros y penwythnos?
Meddwi'n racs a gobeithio gweld Cymru'n ennill y goron driphlyg.