1. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn garedig?wff, saimo... ti wastad yn llwyddo i neud fi deimlo fel rial cachwr 'da'r cwestiynne 'ma, dwlwen! menthyces i feic i ferch... ond ma 'na gymhelliad amgen i hynna...
2. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn hunanol?Peidio talu arian nol ffrind. Wedi gweud 'ny, odd 'da fi reswm - wy di anghofio pin code y garden so on i angen bob c'inog odd 'da fi! Gei di fe'n fuan, Nwdls, dwi'n addo!
3. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn ddiog?Dwi di bod yn eitha cynhyrchiol wthnos 'ma... ond dwi'n lico diogi nos lun... sai moyn neud ffyc ol blaw watsho'r soaps rili....joio.
4. Beth wnaethoch chi'r wythnos hon oedd yn wahanol i'r arfer?dringo consti a chal shampen a mwgyn yn edrych ar yr olygfa... wedyn mynd i weld y ty lle ges i fy ngeni (wel, ges i ngeni yn bronglais... ond chi'n deall be s'da fi) ar y ffordd nol lawr. Hyfryd.
5. Beth fyddwch chi'n gwneud dros y penwythnos? Talu dyledion mochedd drwy weithio yn y Llew Du... swnio'n rial bitsh ond wy fel arfer yn gallu gwylio'r gem yn weddol bach...