Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 14 Maw 2008 11:45 am

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?

2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?

4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?

5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Manon » Gwe 14 Maw 2008 11:49 am

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?
On call i nol biars o'r ffrij i fy ngwr lwcus!
2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?
"Your offer on the house has been accepted!"
3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?
Mynd i machynlleth mewn munud i nol fy ffrindiau sy'n dod i aros.
4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?
Cher yn y 60au.
5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?
Dr. John Davies; David Attenborough; Nain Bont.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Ray Diota » Gwe 14 Maw 2008 11:53 am

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?
tafarn, yn ecseitio'n lan ac yn diawlo fy ffrindie seisnig am fod mor unenthusiastic...

2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?
dwi'n cyffroi am y bwyd bob blwyddyn ma rhaid gweud

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?
caerdydd ar y traws heno - diflas y diawl. :(

4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?
on i'n edrych yn gwmws fel john lennon mewn parti blwyddyn ne ddwy yn ol...

5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?
gatland os ennillwn ni fory... fel arall, ma steve mclaren yn anodd i'w shiffto...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 14 Maw 2008 12:05 pm

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?

Yn y Mochyn Du, yn canu ac yn gweiddi ac ychydig yn chwil

2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?

W, un anodd iawn, dw i'n licio gweld Nain yn agor fy anrheg iddi hi, gan synfyfyrio pa CD dw i 'di prynu.

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?

'Sgen i'm syniad - os mae'r Gogledd yn cyfri y Gogledd bydded, ond 'sgen i ddim cynlluniau i hyd yn oed fynd y tu allan i Gymru eleni.

4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?

Hobbit neu munchkin

5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?

Shane Williams, wrth gwrs!!!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan ceribethlem » Gwe 14 Maw 2008 12:07 pm

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?
Yn racs jibiders, yn cachu brics a pharatoi.

2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?
Star Wars ar y teleflwch (eto).

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?
Stag night ffrind i Dryweryn ac yna Aber.

4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?
Darth Vader.

5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?
Alun Wyn Jones ac Ian Gough.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan joni » Gwe 14 Maw 2008 12:37 pm

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?
O flaen teledu yn rhywle. O bosib mewn tafarn. Yn yfed squash. Falle shandy.

2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?
Sai'n gwbod. Sai'n foi sy'n or-gyffrous. O'n i'n itha excited wthnos dwetha cyn cael mynd mas ar y piss.

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?
Y daith adre siwr o fod.

4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?
Ruud Gullitt.

5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?
Sai'n gwbod, wir. Yakubu falle?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan tafod_bach » Gwe 14 Maw 2008 12:50 pm

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?
dim syniad. pam, be sy'n digwydd? ;)

2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?
fi'n mynd i neud clamp o ddyn gwyrdd ar ol cinio. gynhyrfodd hwnna fi ddigon i adal y ty i'r gwaith:
deiamwnd mewn cefnfor o garthion, yn anffodus.

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?
nol i'r ty yn y badboy Delwedd << yna

4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?
wel, beth yw'r thema? madarchen hudolus, patti hearst, jilted bride, superted, afal. ma rhein i gyd yn eitha do-able, ynghyd â gwisg 'degawd' (20s i'r 90s y ganrif ddwetha, a'r 1840s am good mesur)

hwn yw'r aim ddo: before and afer marie antoinette:
http://blog.craftzine.com/archive/2006/11/the_making_of_a_marie_antoinet.html
http://blog.makezine.com/archive/2006/10/homemade_headle.html

5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?
marianne north. ath hi i fyw i jamaica, brasil a japan ar ben ei hun i, y, ymchwilio a recordio'r planhigion lleol. anturiaethau. oes fictoria. dyw hi ddim yn arlunydd gret gret, ond mae'n defnyddio paent mewn ffordd unigryw iawn (ifi), plus gath y planhigyn gash-tastig yma

Delwedd

ei henwi ar ei hol.

mwy am marianne north, a'i oriel yn Kew
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Ray Diota » Gwe 14 Maw 2008 12:57 pm

Ray Diota a ddywedodd:
2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?
dwi'n cyffroi am y bwyd bob blwyddyn ma rhaid gweud


:lol: newydd ddeall y cwestiwn yn iawn :wps:

ma'r penwthnos yma 'di ecseitio fi'n lan, gweud gwir... a'r posibilrwydd o drip i Wembley... :D
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan cyfrinair » Gwe 14 Maw 2008 1:03 pm

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?

Yn Stadiwm y Mileniwm wedi cyffroi ac yn dymuno buddugoliaeth. Brican hi actiwali!

2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?

Nath 'y mrodyr hŷn ddweud wrtha i pan ro'n i'n 6 oed nad oedd Siôn Corn yn bodoli - byth r'un fath wedyn! Bastardos!

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?

I'r Sherman heno, i weld Y Pair.

4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?

Fel cymeriad mas o'r Sullivans - paent melyn dros fy wyneb i gyfleu y sepia ar ddechrau'r rhaglen!

5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?

Gwynfor - wastad.
Er mwyn Cymru
Rhithffurf defnyddiwr
cyfrinair
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 141
Ymunwyd: Llun 01 Rhag 2003 7:56 pm
Lleoliad: fan hyn

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Creyr y Nos » Gwe 14 Maw 2008 1:11 pm

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?

Llew Du, Aberystwyth. Os fydd na le, dwi'n ame bydd dim. Os na, bosib y Cwps neu Inn On.

2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?


Cot fawr ddu a gefais yn anrheg gan fy nghariad.

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?


Alcaniz yn Aragon, Sbaen ar y 4ydd o Ebrill i botsian mewn afonydd, siarad Sbaeneg gwael a thrio gwrthod shots gan y boi sy'n rhedeg y caffi a sy ddim yn gweld problem mewn yfed a gyrru.

4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?


Batman

5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?

TE Niclas aka Niclas y Glais, bardd, comiwnydd, pregethwr, deintydd, cenedlaetholwr, arch wisgwr mwstash....
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron