1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?Yn gwylio Cymru vs Ffrainc yn Bar y Coleg, Caer-grawnt.
2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?Gweld ffrind sy'n byw yn Sbaen y dyddiau yma neithiwr a gweld ffrind sy'n byw yn Berlin bellach pnawn ma.
3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?Taith o Gaer-grawnt adre i Aberystwyth ar gyfer y Pasg. Dwi'n gallu mynd am ddau fis yn hawdd heb fod mewn car, ar dren nac ar feic pan dwi'n y coleg.
4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?Dwi'n mynd i barti gwisg ffansi-ish heno! Ar ddiwedd bob tymor, ry'n ni'n cael parti mawr gyda thema - Ancient Civilizations y tro hwn - a dwi'n gwisgo cyfuniad o'r holl wisgoedd ffansi dwi wedi gwisgo ar gyfer tymhorau eraill heno.
5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?Mae hyn braidd yn drist, ond alla i ddim meddwl am unrhywun oddi ar top fy mhen