Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Dwlwen » Gwe 14 Maw 2008 2:10 pm

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?
Yn 'stafell fyw y mistar yn diddanu'n hun gyda Runty (yr hamster.)

2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?
Y mistar yn troi lan fel sypreis nos Lun. Gyda cachu ci ar 'i esgid yn anffodus...

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?
Yr M4 i Rhydychen heno.

4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?
Sai'n tueddu neud lot o ymdrech. Wy'n un o'r bobl lame yna sy'n gwisgo cardigan a gweud bod fi'n llyfrgellydd...

5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?
Hmmm. Wy'n eitha impressed gyda Diablo Cody, Michel Gondry a Brian Elsley.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Ray Diota » Gwe 14 Maw 2008 2:27 pm

Dwlwen a ddywedodd:
2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?
Y mistar yn troi lan fel sypreis nos Lun. Gyda cachu ci ar 'i esgid yn anffodus...

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?
Yr M4 i Rhydychen heno.


Gan bo ti'n son am Rydychen a chachu ci... (pwy fydde'n meddwl y galle gyfraniad i 54theweekend ddechre fel'na gwedwch?)...

Es i i Rydychen wthnos dwetha a phan ddes i off y tren yn barod am seshwn nath fy ffrind bwyntio mas bo 'da fi'r piss-stain amlycaf a welwch chi erioed ar flaen fy nhrywsus (achoswyd hyn gan symudiad y tren tra'n piso, deallwch). Es i i'r toilet a gneud y giamocs mwya lletchwith er mwyn trio sychu'r staen anffodus o dan y hand-dryer. Llwyddiant. Wel, llwyddiant rhannol.

Es i mas at fy ffrind, eto, yn barod am seshwn... a gachodd rhyw aderyn dros yn siwmper newydd i i gyd... damo damo...

wisges i fe rownd y nghanol am sbel, nes iddi fynd rhy oer a rhoies i e nol mlan, o fewn 5 munud dath rhyw flewyn lan atai a gofyn: "my mates are wondering - is that shit on your shoulder?"
"bird shit, yes," medde fi, braidd yn bedantig...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 14 Maw 2008 2:34 pm

Tra dan ni'n sôn am adar welish i golomon* yn marw ychydig yn ôl (tua pedwar mis erbyn hyn ond mae'n briodol adrodd y stori rwan). Mi oedd yn nythu dan y bont wrth Lys Senghennydd, fel mae'r bastads yn neud gan gachu a phiso (dwn i'm faint o biso sy'n disgyn arna' i ar fy ffordd i Doughs weithiau ond dydyn nhw heb gachu arna' i eto, sy'n llai na mae'r ffycin byd yn ei gyfanrwydd yn gwneud) ac mi ddisgynnodd ar y llawr o'r silff dan y bont.

Wn i ddim a glywsoch 'rioed wddw colomon yn cracio ond mae'n gwneud uffarn o swn ac mi atseiniodd dan y bont. Ges i eitha' sioc o weld hyn eniwe, a ddim yn siwr a oedd yn fyw ond mi aeth car drosti wedyn a roddod daw ar f'amheuon. Yn bur rhyfedd mi welish lori yn mynd dros golomon o'r blaen ar Broadway (yng Nghaerdydd, nid yr un canu stiwpid h.y. sioe gerdd - bydd Nain yn galw opera yn 'canu gwirion', gyda llaw) ond roedd hwnnw'n iawn ac mi fflïodd i ffwrdd yn iawn.

Meddwl o'n i y dylwn i rannu hyn.


*Colomen 'di hwn fod, dw i'm yn gwybod be 'di colomon. Gweld pan o'n i'n darllen fy neges o'n i, a meddwl y dylwn bwyntio hyn allan.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Dwlwen » Gwe 14 Maw 2008 2:37 pm

Gwych :D

Ac i barhau â'r gwyriad yma oddiar y trywydd... Haf diwetha es i a'r mister mas mewn cwch ar Lyn y Rhath. Odd e mo'yn taflu bara mas i fwydo'r adar, ond wrth iddo fe ddechrau, dyma llwyth o wylanod yn heidio at y cwch a'n cachu dros fy nghoesau.
Wedes i wrth 'i fam e wedyn, a medde hi "yes, that's the kind of situation he gets himself into all the time." :|
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan sian » Gwe 14 Maw 2008 2:47 pm

Maen nhw'n gweud ei fod i ddod â lwc dda i chi - deryn yn cachu arnoch chi - ond falle bod nhw jest yn gweud hynna i godi'ch calon chi.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan garynysmon » Gwe 14 Maw 2008 3:06 pm

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?
Unai ar y ffordd adra o fod yn gwylio Bangor City, neu gwylio Soccer Saturday, ga'i weld.

2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?
Gem Spurs nos Iau.

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?
Yr Iseldiroedd mis Mehefin os dwi'n cael fy ffordd.

4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?
Erioed wedi bod i un, diolch i'r drefn.

5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?
Argo, dwnim. Dwnim os dyliwn i ddeud Jurgen Klinsmann ar ol yr holl flynyddoedd 'ma.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 14 Maw 2008 3:17 pm

Wel dyna darfu!!

Wyddoch chi, dylem ni gael Y Drafodaeth Wythnosol bob dydd Gwener dw i'n meddwl, achos mae pawb yn amharod iawn i weithio a mwydro am unrhyw beth nad yw'n ymwneud â gwaith e.e. adar yn cachu/marw. Dw i'n teimlo fy mod i'n cael ryw rhith-banad efo chi, gan rith-chwerthin yn ffug-barchus i'r rhith-hwyl. Braf iawn.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Ray Diota » Gwe 14 Maw 2008 3:29 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Wel dyna darfu!!

Wyddoch chi, dylem ni gael Y Drafodaeth Wythnosol bob dydd Gwener dw i'n meddwl, achos mae pawb yn amharod iawn i weithio a mwydro am unrhyw beth nad yw'n ymwneud â gwaith e.e. adar yn cachu/marw. Dw i'n teimlo fy mod i'n cael ryw rhith-banad efo chi, gan rith-chwerthin yn ffug-barchus i'r rhith-hwyl. Braf iawn.


bourbon? custard cream?

na na... cymra di fe...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 14 Maw 2008 3:38 pm

Wel dwi'n fodlon efo adar, er bod adar yn ddiflas iawn. Dw i'n gadael gwaith mewn 20 munud eniwe. Hwrê!

Custard Creams = class.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 14 Maw 2008 3:39 pm

Ah, dallt wan. :wps:

Eniwe, dw i'n gadael gwaith mewn 20 munud. Hwrê!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron