Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Chickenfoot » Gwe 14 Maw 2008 3:44 pm

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?

Adref mae'n siwr. Dw i'm rili yn ffyd am y rygbi.

2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?

Pan ges i Sensible World of Soccer i'r Amiga yn '94.

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?

Lawr i'r Spa i nol bapur newydd a llefrith.

4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?

The Great Muta

5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?

Vince McMahon.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan nicdafis » Gwe 14 Maw 2008 4:06 pm

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?

Yn y Pentre Arms os ydw i'n teimlo'n well. Fan hyn, fel arall, gwrando ar y gêm ar Radio Cymru a potsian o gwmpas ar y we.

2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?

Dydd Dolig, duh.

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?

Werddon yn yr haf.

4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?

Os nag oes modd osgoi mynd o gwbl, dw i'n tueddu dweud mod i wedi dod fel grown up person.

5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?

Lemmington Sipworthy.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan eusebio » Gwe 14 Maw 2008 4:17 pm

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?
Ar y ffordd adref o'r Cae Ras ... efo triphwynt yn y bag, gobeithio

2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?
Curo Caer dydd Sul diwethaf

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?
'Dwi'n mynd i Sarajevo ar gyfer gêm dan-21 Cymru

4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?
Fel yr Incredible Hulk - ma' 'da ni'r un physique

5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?
Joey Jones a pwy bynnag fydd yn sgorio'r gôl fuddugol brynhawn Sadwrn (felly nid Drewe Broughton!)
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 14 Maw 2008 4:33 pm

I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan eusebio » Gwe 14 Maw 2008 4:51 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:http://en.wikipedia.org/wiki/Similie


:?:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 14 Maw 2008 4:57 pm

eusebio a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:http://en.wikipedia.org/wiki/Similie


:?:


pwynt da iawn Eusebio
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan eusebio » Gwe 14 Maw 2008 5:00 pm

diolch ... ' dwi'n trio fy ngorau ;)
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan krustysnaks » Gwe 14 Maw 2008 5:06 pm

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?
Yn gwylio Cymru vs Ffrainc yn Bar y Coleg, Caer-grawnt.

2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?
Gweld ffrind sy'n byw yn Sbaen y dyddiau yma neithiwr a gweld ffrind sy'n byw yn Berlin bellach pnawn ma.

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?
Taith o Gaer-grawnt adre i Aberystwyth ar gyfer y Pasg. Dwi'n gallu mynd am ddau fis yn hawdd heb fod mewn car, ar dren nac ar feic pan dwi'n y coleg.

4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?
Dwi'n mynd i barti gwisg ffansi-ish heno! Ar ddiwedd bob tymor, ry'n ni'n cael parti mawr gyda thema - Ancient Civilizations y tro hwn - a dwi'n gwisgo cyfuniad o'r holl wisgoedd ffansi dwi wedi gwisgo ar gyfer tymhorau eraill heno.

5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?
Mae hyn braidd yn drist, ond alla i ddim meddwl am unrhywun oddi ar top fy mhen :?
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 14 Maw 2008 5:29 pm

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?

Yn ista yn y stadiwm gyda pheint, wedi cynhyrfu'n lan. :)

2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?

Ffilmiau Super8 Tan y Fynwent (efo cyfeiliant paino a trwmped) efo G&Ts a scraps cinio dolig.

3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?

Eastbourne, ddydd Sul. Gweld perthnasa.

4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?

Bowen a'i Bartner

5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?

Bjork
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos, 14.3.2008

Postiogan Chip » Gwe 14 Maw 2008 8:46 pm

1. Ble fyddwch chi am 5 o'r gloch fory?
yn gwylio'r gem yn fy lolfa
2. Beth oedd y peth dwetha i wneud i chi gyffroi fel plentyn ar Ddydd Dolig?
cael gem cyfrifiaduron trwy'r post o'n i heb chware ers blynyddoedd ar ol prynnu e off ebay (Driver 2)
3. Beth fydd y daith nesa' i chi fynd arni?
mynd i aber fori.
4. Fel pwy fyddech chi'n mynd i barti gwisg ffansi?
batman, achos ma gen i swt
5. Pwy yw'ch arwr ar hyn o bryd?
fy nghath
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron