Pump am y Penwythnos 21.3.2008

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos 21.3.2008

Postiogan Cacamwri » Gwe 21 Maw 2008 5:47 pm

1. Pa bump 'peth' sy'n gwneud eich penwythnos yn gyflawn?

2. Pa bump aelod o'r maes hoffwch chi eu gwahodd am swper, a pham?

3. Sut ydych chi'n bwyta eich creme egg?

4. Pa gyfrinach ydy chi'n ei guddio?

5. Beth fyddai teitl eich hunangofiant, pe taech chi'n sgwennu un?

Gwwwwwwd.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: Pump am y Penwythnos 21.3.2008

Postiogan ceribethlem » Gwe 21 Maw 2008 5:55 pm

1. Pa bump 'peth' sy'n gwneud eich penwythnos yn gyflawn?
Cwrw, bwyd, cwrw, cwmni da a chwrw

2. Pa bump aelod o'r maes hoffwch chi eu gwahodd am swper, a pham?
Gwahanglwyf Dros Grist a Docito i ddadlau am fendithion neu beidio blaenasgellwyr agored.
Cardi Bach a Hedd Gwynfor, gan bo fi heb gael peint 'da nhw ers sbelen.
Rooney, jyst i weld os yw e' wir yn boncyrs.

3. Sut ydych chi'n bwyta eich creme egg?
Ansho'n ffordd trwyddo fe.

4. Pa gyfrinach ydy chi'n ei guddio?
Dim lot. Er mae'n ymddangos fod y cyfrinach nad ydw i'n anffyddiwr wedi cyrraedd rooney eto.

5. Beth fyddai teitl eich hunangofiant, pe taech chi'n sgwennu un?
Malu cachu
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos 21.3.2008

Postiogan Manon » Gwe 21 Maw 2008 6:23 pm

1. Pa bump 'peth' sy'n gwneud eich penwythnos yn gyflawn?
Gwin, cig moch, cwsg, ffilm, a thatws rhost.

2. Pa bump aelod o'r maes hoffwch chi eu gwahodd am swper, a pham?
Cacamwri a Sian, er mwyn trafod tactics scrabble, a Gwen, Twyllwr Rhinweddol, a Jemeima Mop i gael hel atgofion!

3. Sut ydych chi'n bwyta eich creme egg?
Brathu'r top off a llyfu'r iym i gyd o'r canol mewn steil porn ffilm crap.

4. Pa gyfrinach ydy chi'n ei guddio?
Dim byd siwr!

5. Beth fyddai teitl eich hunangofiant, pe taech chi'n sgwennu un?
Na, Y Llall Sy'n Canu :lol:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos 21.3.2008

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 21 Maw 2008 6:47 pm

1. Pa bump 'peth' sy'n gwneud eich penwythnos yn gyflawn?
Dim gwaith, rygbi ar y teli, gwin neis, rhaglen 'A String of Pearls' ar Radio Wales ar fore Sul, marchnad Glanyrafon.

2. Pa bump aelod o'r maes hoffwch chi eu gwahodd am swper, a pham?
docito - er mwyn cael fflip-siart mas i ddangos iddo fe pam rong yw e
Iesu Nicky Grist - achos ma fe'n neud i fi wherthin
ceribethlem - os deiff e a'i fideo Cymru v Lloegr yn Wemberli
chickenfootpositif80hbk25 - i'w ddefnyddio fel punchbag
plys pwy bynnag fydde'n dod a'r gwin neisaf

3. Sut ydych chi'n bwyta eich creme egg?
Gyda dryll. Cadwch nhw bant wrtha' i.

4. Pa gyfrinach ydy chi'n ei guddio?
Pe bawn i'n gweud wrthot ti... bydde fe ddim yn gyfrinach rhagor.

5. Beth fyddai teitl eich hunangofiant, pe taech chi'n sgwennu un?
Criddle of Filth
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos 21.3.2008

Postiogan sian » Gwe 21 Maw 2008 7:49 pm

1. Pa bump 'peth' sy'n gwneud eich penwythnos yn gyflawn?
Dydd Sul: pregethau da, sgwrs 'da ffrindiau, powlio'r bin i ben lôn da'r gŵr, drama dda ar S4C am 9 nos Sul tra bydda i'n smwddio a munud fach i fi'n hunan cyn mynd i'r gwely.

2. Pa bump aelod o'r maes hoffwch chi eu gwahodd am swper, a pham?
Prysor, Cath Ddu, Mr Gasyth, Macsen a nicdafis am bo fi'n lico nhw (geith dawncyfarwydd ac anffodus weini arnon ni)
wedyn, wythnos nesa
manon, cacamwri, gwen, twyllwr rhinweddol a khmer hun i roi'r byd yn ei le (geith Mali a Seren Siwenna weini arnon ni i ddachre ac wedyn wnawn ni newid rownd)
Geith Ray Diota ddod rhyw dro hefyd os na fydd neb arall wedi gofyn iddo fe - ac os bihafith e.


3. Sut ydych chi'n bwyta eich creme egg?
Yn slo - ond maen nhw'n llai nag y buon nhw.

4. Pa gyfrinach ydy chi'n ei guddio?
Dw i'n gweithio weithie.

5. Beth fyddai teitl eich hunangofiant, pe taech chi'n sgwennu un?
Wna i e yn y funud.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Pump am y Penwythnos 21.3.2008

Postiogan Cacamwri » Gwe 21 Maw 2008 8:20 pm

1. Pa bump 'peth' sy'n gwneud eich penwythnos yn gyflawn?
Cwtsh, gwin, mynd am dro, gorffwys a bod gyda'r teulu.

2. Pa bump aelod o'r maes hoffwch chi eu gwahodd am swper, a pham?
Sian a Manon achos bo nhw'n cwl, Siffrwd Helyg i drafod yr hen ddyddie ffol o feddwi'n rhacs a syrthio mewn i glawdd llawn danadl poethion, Sleepflower a Gwen, achos sa i wedi gweld nhw ers dro. (Lle ma Gwen dyddie yma, gyda'r llaw?!)
Geith SbecspeledrX gwcan casserole i ni gyd.

3. Sut ydych chi'n bwyta eich creme egg?
Llyfu'r tu fewn. Credu bo fi a Manon wedi gweld yr un ffilm porno crap.

4. Pa gyfrinach ydy chi'n ei guddio?
As if sen i'n dweud, ha!

5. Beth fyddai teitl eich hunangofiant, pe taech chi'n sgwennu un?
Ie ie, fi yw hi.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: Pump am y Penwythnos 21.3.2008

Postiogan sian » Gwe 21 Maw 2008 10:37 pm

sian a ddywedodd:2. Pa bump aelod o'r maes hoffwch chi eu gwahodd am swper, a pham?
Prysor, Cath Ddu, Mr Gasyth, Macsen a nicdafis am bo fi'n lico nhw (geith dawncyfarwydd ac anffodus weini arnon ni)
wedyn, wythnos nesa
manon, cacamwri, gwen, twyllwr rhinweddol a khmer hun i roi'r byd yn ei le (geith Mali a Seren Siwenna weini arnon ni i ddachre ac wedyn wnawn ni newid rownd)
Geith Ray Diota ddod rhyw dro hefyd os na fydd neb arall wedi gofyn iddo fe - ac os bihafith e.


Un swper bach arall - Rhys Llwyd, ceribethlem, hen rech flin, Foel Gornach a Barbarella (Hedd a rooney i weini)
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Pump am y Penwythnos 21.3.2008

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 21 Maw 2008 10:49 pm

1. Pa bump 'peth' sy'n gwneud eich penwythnos yn gyflawn?
Cwrw, gwin, smôcs, canu'n chwil, teimlo'n unig nos Sul

2. Pa bump aelod o'r maes hoffwch chi eu gwahodd am swper, a pham?
Dwisho cael Duw a Rooney at ei gilydd am hwyl; dwi'n meddwl 'sa Ray Diota'n diddanu a Prysor yn diddori, a byddwn i'n teimlo'n rwd iawn pe na bawn yn gwahodd Hedd Gwynfor, fynta'n rhedeg y lle 'ma a ballu ... neu, os nad ydi o ar gael, beth am Martin/Wylit, dw i'n siwr fod y boi off 'i ben.

3. Sut ydych chi'n bwyta eich creme egg?
Dw i'm yn cyffwrdd y bastad petha afiach

4. Pa gyfrinach ydy chi'n ei guddio?
Dim byd ar y funud. Hwrê!

5. Beth fyddai teitl eich hunangofiant, pe taech chi'n sgwennu un?
Cyfres y Cewri Rhif 566: Hogyn o Rachub
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos 21.3.2008

Postiogan Mali » Sad 22 Maw 2008 10:39 pm

Da wan ... 8)
1. Pa bump 'peth' sy'n gwneud eich penwythnos yn gyflawn?
bod efo fy ngwr a'r ddwy gath, gwin coch, bwyd da, gwylio hoci ia a gweld y Canucks yn ennill :D , mynd i'r eglwys.
2. Pa bump aelod o'r maes hoffwch chi eu gwahodd am swper, a pham?
Wel, fy newis i fasa cael 'girls' night' , ac ar fy rhestr fasa cacamwri, manon , gwen, seren siwenna , Hazel ac emma reese, ac ella fasa Sian yn gweini arnom . :winc:
3. Sut ydych chi'n bwyta eich creme egg?
Mi fyddai'n brathu'r top i ffwrdd, wedyn bwyta'r crîm tu mewn , a gadael gweddill y siocled tan olaf.
4. Pa gyfrinach ydy chi'n ei guddio?
Dwi'm yn deud !
5. Beth fyddai teitl eich hunangofiant, pe taech chi'n sgwennu un?
Fi a Mrs H. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Pump am y Penwythnos 21.3.2008

Postiogan Jemeima Mop » Sul 23 Maw 2008 3:30 pm

1. Pa bump 'peth' sy'n gwneud eich penwythnos yn gyflawn?
Cysgu tan pnawn, mynd am dro, capal, dim make up, dim heels.

2. Pa bump aelod o'r maes hoffwch chi eu gwahodd am swper, a pham?
Mwddrwg a Llywelyn Richards - mae arna'i paella a gwin a chaws drewllyd iddyn nhw ers llynadd. Swn i hefyd yn gwahodd Manon, Gwen a'r Twyllwr Rhinweddol. . . .ond sa rhaid iddyn nhw fihafio. Dim dryg(i)au!

3. Sut ydych chi'n bwyta eich creme egg?
yn slo

4. Pa gyfrinach ydy chi'n ei guddio?
Meindia dy fusnas!

5. Beth fyddai teitl eich hunangofiant, pe taech chi'n sgwennu un?
Na, Y Llall Sy'n Canu


:lol:

Teitl un fi fydd Na, Y Llall Sy'n Sgwennu
Rhithffurf defnyddiwr
Jemeima Mop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 234
Ymunwyd: Llun 26 Ion 2004 5:04 pm
Lleoliad: Penmon

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron